Dymchwel rhan helaeth o'r Ganolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru
presennol (ar wahân i'r is-orsaf drydan presennol), newid defnydd y safle i
greu maes parcio, allosod goleuadau, gwefr bwyntiau ar gyfer cerbydau ynghyd a
thirlunio cysylltiedig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Dymchwel
rhan helaeth o'r Ganolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru presennol (ar wahân i'r
is-orsaf drydan presennol), newid defnydd y safle i greu maes parcio, allosod
goleuadau, gwefr bwyntiau ar gyfer cerbydau ynghyd a thirlunio cysylltiedig
a)
Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn gais llawn ar
gyfer dymchwel adeiladwaith Canolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru (ar wahân i’r
is-orsaf drydan) er mwyn darparu maes parcio newydd, gosod goleuadau, gwefr
bwyntiau ar gyfer cerbydau ynghyd a thirlunio cysylltiedig ar safle sydd wedi
ei leoli rhwng y pentref a Llyn Padarn. Rhennir y cais i sawl elfen wahanol
sy’n cynnwys: -
·
Dymchwel 2,932m2 o arwynebedd llawr yr adeilad presennol ar wahân
i 22m2 o arwynebedd yr is-orsaf drydan.
·
Darparu maes parcio ar gyfer y cyhoedd a fyddai’n ychwanegu 110
llecyn parcio ychwanegol i’r maes parcio gyfochrog presennol gan gynnwys 5
llecyn i’r anabl.
·
Darparu 12 gwefr bwyntiau AC cyflym ar gyfer cerbydau ynghyd ag un
wefr bwynt DC cyflym ar gyfer cerbydau.
·
Mynedfa i’r maes parcio estynedig drwy ddefnyddio’r fynedfa
bresennol oddi ar y ffordd sirol dosbarth I gerllaw (A.4086).
·
Gosod 9 colofn golau 6m o uchder er mwyn goleuo’r maes parcio o
ddyluniad a fyddai’n lleihau unrhyw lygredd golau ar y tir o amgylch safle’r
cais.
·
Cynllun tirlunio meddal i gynnwys plannu coed, llwyni a blodau
gwyllt y ddol.
Awgrymwyd mai prif ystyriaeth y cais oedd, a fyddai’r bwriad yn arwain at golli adnodd
gymunedol. Nodwyd bod Polisi ISA 2 o’r CDLL yn datgan bydd y Cyngor yn
gwrthsefyll colled neu newid defnydd cyfleuster cymunedol presennol drwy
gydymffurfio gydag o leiaf un o feini prawf y polisi, yn benodol yma, mewn
perthynas â chyfleuster sy’n cael ei redeg yn fasnachol (fel yn yr achos
arbennig hwn). Rhaid bod tystiolaeth:
·
Nad yw’r
defnydd presennol bellach yn hyfyw’n ariannol – yr ymgeisydd wedi datgan bod y ganolfan
ymwelwyr yn cael ei danddefnyddio ac yn rhy fawr i’r cyfleusterau oedd yn
bodoli y tu fewn iddo a bod cyflwr yr adeiladwaith eisoes yn creu dolur llygaid
o fewn yr ardal leol.
·
Na ellir
disgwyl yn rhesymol iddo ddod yn hyfyw’n ariannol - gan ystyried y wybodaeth sydd wedi cael ei
gyflwyno gan yr ymgeisydd parthed hyfywedd y ganolfan ymwelwyr, ni ddisgwylir
yn rhesymol byddai’r defnydd(iau) a wnaed o’r cyfleuster yn flaenorol yn dod yn
hyfyw’n ariannol yn y dyfodol agos neu yn yr hir dymor ac na fyddai’n gwneud
synnwyr economaidd i barhau defnyddio’r adeilad fel adnodd cymunedol a
chanolfan ymwelwyr.
· Na ellir sefydlu unrhyw ddefnydd cymunedol addas arall - gan ystyried y ffaith bod yr adeiladwaith, yn ei gyflwr cyfredol, yn anghynaladwy ynghyd a maint arwynebedd llawr/gofod o fewn yr adeiladwaith ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 15