16 Cais Rhif C21/1206/25/LL Tir gyferbyn a Bro Infryn, Glasinfryn, LL57 4UR PDF 359 KB
Datblygiad
preswyl yn cynnwys 6 tŷ deulawr a un tŷ un llawr fforddiadwy, gwaith
cysylltiedig a creu mannau parcio ychwanegol (cynlluniau diwygiedig)
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i’r amodau isod:-
NODYN: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun
strategaeth draenio gynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y
Cyngor.
NODYN: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i arwyddo cytundeb o dan
Adran 38 o’r Ddeddf Briffyrdd.
Cofnod:
Datblygiad
preswyl yn cynnwys 6 tŷ deulawr ac un tŷ un llawr fforddiadwy, gwaith
cysylltiedig a chreu mannau parcio ychwanegol (cynlluniau diwygiedig)
Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar
gyfer codi 6 tŷ deulawr ac un tŷ un llawr fforddiadwy ynghyd a gwaith
cysylltiedig ar ddiwedd cul-de-sac o fewn Stad Bro Infryn ar gyrion dwyreiniol
pentref Glasinfryn ar lecyn o dir gwyrdd gwastad. Rhennir y cais i sawl elfen
wahanol sy’n cynnwys:
·
Darparu unedau fforddiadwy ar ffurf: 1 tŷ deulawr 2 lofft (3
person), 4 tŷ deulawr 2 lofft (4 person), 2 tŷ deulawr 3 llofft (5
person) ynghyd a thŷ un llawr 2 lofft (3 person).
·
Byddai’r tai 2 lofft ar gyfer rhent canolradd gyda gweddill y tai
ar gyfer rhent cymdeithasol.
·
Darparu isadeiledd i gynnwys llecynnau parcio, llwybrau troed, man
troi, ailgyfeirio cebl BT ac ailgyfeirio’r garthffos gyhoeddus.
·
Codi ffensys amrywiol o
amgylch ffiniau’r safle a rhwng y tai.
·
Lleoli storfeydd biniau a storio o fewn gerddi’r tai.
·
Gwaith tirweddu.
Eglurwyd bod
trafodaethau wedi eu cynnal rhwng yr ymgeisydd, y cynghorydd lleol blaenorol, y
Cyng Menna Baines, ynghyd a nifer o drigolion y stad. O ganlyniad, diwygiwyd y
cais i ddarparu llecynnau parcio ychwanegol ar ffurf encil fannau ar ymylon
gogleddol a deheuol y llecyn lawnt sydd wedi ei leoli yng nghanol y stad.
Ystyriwyd bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol
ar sail cyflenwad tai dangosol, cymysgedd tai a’r angen i gwrdd â chyfarch yr
angen am y math yma o dai yn yr ardal leol. Nodwyd bod ystyriaethau cynllunio
megis mwynderau preswyl gweledol,
diogelwch ffyrdd, bioamrywiaeth a materion ieithyddol yn dderbyniol. Ni
ystyriwyd fod y bwriad yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol ac nad oedd
unrhyw fater arall cynllunio perthnasol yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi. I’r
perwyl yma, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys
yr amodau.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol:
·
Bod y cais yn cael ei gyflwyno gan Adra
(Cymdeithas Dai leol) ar gyfer codi 6 tŷ deulawr a 1 bynglo - yr holl
unedau yn dai fforddiadwy ac yn cynnwys cymysgedd o dai rhent canolradd a thai
rhent cymdeithasol.
·
Bod trafodaethau pre-ap wedi eu cynnal
gyda’r adran gynllunio i drafod egwyddor y bwriad ac i dderbyn adborth ar
faterion cynllunio perthasol.
·
Yn dilyn cyflwyno’r cais ac yn ystod
cyfnod penderfynu’r cais , bu trafodaethau ychwanegol gyda’r cynghorydd lleol a
rhywfaint o’r trigolion lleol i drafod rhwyfaint o bryderon oedd ganddynt ar ol
gweld manylion y cais.
·
Un o’r pryderon a godwyd oedd parcio
a’r pwysau oedd yn yr ardal am lefydd parcio. O ganlyniad i’r trafodaethau yma,
cyflwynwyd diwygiadau i’r cynlluniau er mwyn darparu llefydd parcio ychwanegol
ar ffin llecyn gwyrdd presennol gerllaw, fel a gytunwyd gyda’r Aelod lleol a’r
trigolion.
· Bod y trigolion eisiau sicrhau bod llwybr troed ar gael er mwyn darparu mynedfa i gefn tai 1 - 4 Bron Infryn - llwybr bellach wedi ei ddarparu fel rhan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 16