7 CYFRIFION TERFYNOL AR GYFER PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD PDF 205 KB
Cyflwyno adroddiad
gan Uwch Reolwr Cyllid, Cyngor Gwynedd
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a chymeradwyo’r wybodaeth:
· Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2020/21
·
Ffurflen Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben 31 Mawrth 2021
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad
gan Ffion Madog Evans (Uwch Rheolwr Cyllid) a oedd yn ymateb i ofyniad statudol
o dan Adran 12 o Ddeddf Archwilio Gyhoeddus (Cymru) 2004 i adrodd ar ddatganiad
cyfrifon blynyddol ar gyfer y Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd. Gan fod
trosiant y Gwasanaeth yn is na £2.5m, fe ystyrir yn gorff Llywodraeth Leol lai
o faint, gan hynny mae gofyn cwblhau ffurflen datganiadau cyfrifon a ddarparwyd
gan Archwilio Cymru i gwrdd â’r gofynion statudol. Nodwyd mai Cyngor Gwynedd
yw’r Awdurdod Arweiniol sydd a’r cyfrifoldeb o gyflawni’r cyfrifoldeb o
gyfrifo, adrodd ac archwilio’r cyfrifon.
Amlygwyd fod y
drefn o adrodd ar y cyfrifon yn dilyn amserlen dynn - gyda gofyniad fod hynny
yn cael ei wneud cyn diwedd mis Mai. Gan ei fod yn flwyddyn etholiad, nid oedd
hynny’n bosib. Er bod y cyfrifon wedi cael eu cwblhau, eu hawdurdodi gan y
Pennaeth Cyllid ac wedi eu cyflwyno i’r Archwilwyr cyn diwedd Mai, dyma oedd y
cyfle cyntaf i’w hadrodd i’r Pwyllgor.
Cyfeiriwyd at
Atodiad A sydd yn cynnwys yr adroddiad alldro ac yn egluro sefyllfa derfynol
incwm a gwariant refeniw'r Gwasanaeth ar gyfer 2021/22. Amlygwyd fod y gyllideb
i’w weld yn y golofn gyntaf gyda’r gwariant yn yr ail, yna mae posib
archwilio’r gorwariant neu'r tanwariant yn y drydedd golofn. Nodwyd fod y gwariant
am 2021/22, £40,185 yn is na’r gyllideb oedd ar gael, ac felly bu modd
lleihau'r cyfraniad gofynnol i Gyngor Gwynedd a Môn i £223,000 yn hytrach na
£243,000 fel oedd wedi ei bennu yn y gyllideb, sydd yn lleihad o £20,000 na’r
gyllideb wreiddiol.
Wrth edrych yn fanylach ar rai o’r
penawdau gwariant, y prif bwyntiau i’w nodi yw:
- Fod yna orwariant
ar gyflogau o £10,755 oherwydd y cynnydd chwyddiant o 1.75% a derfynwyd yn hwyr
yn y flwyddyn ariannol.
- Cludiant - y
darlun yn 2021/22 yn gyson efo’r darlun 2020/21, gyda sgil effaith Covid yn amlwg o ran lai o deithio a mwy o gyfarfodydd
rhithiol.
- Gwariant bychan
hefyd ar gostau rhedeg y Gwasanaeth o’i gymharu efo’r gyllideb.
- Tan wariant
sylweddol yn gysylltiedig hefo’r broses o baratoi’r
Cynllun.
- Targed arbedion o
£10,000 sydd yn parhau heb ei wireddu ers rhai blynyddoedd bellach. Angen
ystyried ceisio ei ddiddymu o’r arbedion e.e. ar gostau cludiant i gael gwared
â’r targed arbedion.
Nodwyd fod y
cyfrifon eisoes wedi eu hanfon i sylw Archwilwyr Allanol, Swyddfa Archwilio
Cymru. Dim ond os bydd newidiadau yn
dilyn yr archwiliad hynny bydd y cyfrifon yn cael ei ail-gyflwyno er sylw’r
Pwyllgor i’w cymeradwyo.
Gofynnwyd fod y
Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yn derbyn a chymeradwyo’r cyfrifon ar gyfer
2021/22 a bod y Cadeirydd yn arwyddo’r ffurflen electroneg ar dudalen 15 o’r
pecyn.
Materion a Godwyd
·
Ymddangos fod yna swm aruthrol wrth gefn. Os nad oes
angen cymaint o arian wrth gefn, oes posib trosglwyddo’r arian hynny i Adrannau
hynny sydd wir ei angen.
· Gofynnwyd am y tanwariant yn gysylltiedig â’r broses o baratoi’r Cynllun a holwyd os oedd hynny gan fod yna ddisgwyliad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7