5 CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 251 KB
Caffi Llew Glas, 3,
Plas y Goits, Stryd Fawr, Harlech, LL46
2YA.
I ystyried
y cais
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Bod y
Pwyllgor yn caniatau cais yn unol â'r amodau a osodwyd gan gais cynllunio Parc
Cenedlaethol Eryri NP5/61/T2E
Cofnod:
Ar ran yr eiddo: Ms Harriet Brown (ymgeisydd)
Ymatebwyr: Mr Dafydd Thomas (Swyddog
Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded
eiddo ar gyfer caffi / bar lluniaeth ysgafn gyda lle i fwyta tu mewn a thu
allan i’r eiddo.
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu
cynnwys ar y drwydded.
Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod Awdurdod Parc
Cenedlaethol Eryri yn gwrthwynebu’r cais oherwydd ei fod yn groes i hawliau
cynllunio cais rhif NP5-61-T2E-DN ond petai’r ymgeisydd yn addasu oriau i
gydymffurfio gydag amodau’r cais byddai’n dderbyniol
Argymhellwyd i’r
Pwyllgor ganiatáu y cais yn unol â sylwadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a
gofynion Deddf Drwyddedu 2003 ac am y rhesymau isod yn benodol:
Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
· Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu
· Gwahodd yr
ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
· Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y
drwydded.
· Rhoi cyfle i'r
Rheolwr Trwyddedu ofyn cwestiynau i ddeilydd y
drwydded
· Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig
· Gwahodd y Rheolwr
Trwyddedu a’r ymgeisydd i ymateb i’r sylwadau a chrynhoi eu hachos
Nodwyd siom nad oedd barn wedi ei dderbyn gan
Cyngor Cymuned Harlech ac y byddai cynnwys lluniau o’r eiddo a / neu luniau o’r
sgwâr / stryd wedi bod yn fanteisiol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag argymhelliad
yr Uned Trwyddedu, cadarnhawyd mai yn unol â sylwadau Awdurdod Parc
Cenedlaethol Eryri yr oeddynt yn argymell caniatáu y cais ac nid yn unol â
sylwadau Gwarchod y Cyhoedd fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Wrth ymhelaethu ar
y cais, nododd yr ymgeisydd:
·
Mai menter fechan, ysgafn oedd ganddi dan sylw
·
Nad oedd am fentro gyda rhywbeth mwy oherwydd anodd
recriwtio staff
·
Yn hapus i addasu’r oriau agor i gyd-fynd a’r cais
cynllunio
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â sut roedd yr ymgeisydd yn bwriadu tawelu pryderon
sŵn i’r dyfodol, nododd nad oedd bwriad ganddi gynnal adloniant na
nosweithiau hwyr. Ategodd bod ei thad yn byw yn y fflat uwchben ac yn
feirniadol o unrhyw sŵn! Nododd
hefyd bod y staff wedi eu hyfforddi i ddelio gyda chwsmeriaid annymunol.
Manteisiodd yr
ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd
ganddynt drwy lythyr.
Mr Dafydd Thomas
(Swyddog Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri)
·
Bod y cais wedi ei wrthod oherwydd yn groes i
amodau cais cynllunio
· Yn derbyn bod yr ymgeisydd wedi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5