Uwchraddio
cyfleusterau yn cynnwys gosod 10 uned deithiol a 6 pod
glampio yn lle 25 pabell awdurdodwyd gan Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon
C12/1554/44/TC
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gwilym Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl
i’r Rheolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
Cofnod:
Uwchraddio
cyfleusterau yn cynnwys gosod 10 uned deithiol a 6 pod
glampio yn lle 25 pabell a awdurdodwyd gan Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon
C12/1554/44/TC
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer
uwchraddio cyfleusterau yn cynnwys gosod 10 uned deithiol a 6 pod glampio symudol yn lle 25 pabell a awdurdodwyd gan
Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon C12/1554/44/TC yn safle Tyddyn Adi, Morfa
Bychan. Byddai’r gwaith hefyd yn cynnwys tirlunio rhwng y lleiniau carafanau a
thirlunio i amgáu safle’r podiau.
Tynnwyd
sylw at sylwadau’r Cyngor Cymuned oedd wedi gwrthwynebu’r cais oherwydd bod y podiau glampio yn ymddangos fel nodwedd barhaol. Adroddwyd
bod gwybodaeth ychwanego wedi ei
dderbyn gan yr ymgeisydd yn nodi bod y podiau yn rhai
un stafell ac yn rhai symudol y gellid eu storio ar ddiwedd y tymor.
Cyfeiriwyd
ar Polisi TWR5 o’r CDLl sydd yn caniatáu cynigion i
ddatblygu safleoedd teithiol a llety gwersylla amgen dros dro os ydynt yn
cydymffurfio a’r cyfan o’r meini prawf. Ystyriwyd fod dyluniad, gosodiad ac
edrychiad y bwriad o ansawdd derbyniol a’i fod wedi ei leoli mewn lleoliad
anymwthiol wedi ei guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd. Ni chredir
byddai cyfnewid yr unedau o bebyll i garafanau a phodiau
yn peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd yn y safle yma.
Amlygwyd
bod cynllun safle yn nodi nad yw’n fwriad gosod lleiniau caled i’r unedau ac
mae’r Datganiad Cynllunio yn datgan nad yw’n fwriad cysylltu’r podiau i system ddraenio. Bydd y podiau
yn cael eu symud i safle storio dros y gaeaf, felly bydd cysylltiad ffisegol
i’r ddaear yn gyfyngedig. Mae blociau cawod a thoiledau presennol yn bodoli
eisoes ar y safle, a bydd defnyddwyr y carafanau a podiau
arfaethedig yn defnyddio’r ddarpariaeth bresennol. Nid oes bwriad adeiladu
adeilad newydd fel rhan o’r cais.
Yng
nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd bod y safle yn gorwedd mewn lleoliad cefn gwlad. Ystyriwyd bod y
safle ar y cyfan wedi cael ei sgrinio’n dda o ran helaeth o olygfeydd, gyda
mannau gwan yma thraw yn y tirlunio. Ategwyd bod y safle yn weladwy o fannau
agos o’r llwybr cyhoeddus ond bod cynllun yn dangos bwriad i dirweddu gyda
gosodiad dwysedd isel, mannau agored a rhesi o wrychoedd oddi fewn y safle.
Cyfeiriwyd at y ffaith bod rhan o’r cae o fewn parth llifogydd C2 a phetai’n ddatblygiad o’r newydd y byddai’n groes i bolisi. Fodd bynnag, o ystyried sefyllfa ‘fall back’ a’r safle eisoes â chaniatâd am 75 pabell, ni fyddai cyfnewid yr unedau yn groes i bolisi gan nad yw’n cynyddu risg yn yr achos yma. Gellid dadlau oherwydd y gostyngiad niferoedd, y byddai’r risg yn lleihau. O ystyried mai rhan fechan o’r cae yn unig sydd o fewn Parth C2 a sefyllfa caniatâd presennol y safle, cesglir na fyddai’r bwriad yn gwaethygu na chynyddu risg llifogydd yn yr achos yma. Awgrymwyd felly fod y sefyllfa ‘fall back’ yn golygu nad yw’r bwriad yn groes i bolisi NCT 15 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11