Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 04/10/2022 - Y Cabinet (eitem 7)

7 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS DAI A EIDDO pdf eicon PDF 11 MB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr Aelod Cabinet yn hapus iawn gyda perfformiad yr adran a tynnwyd sylw at rai agweddau. O ran y sefyllfa Digartrefedd nodwyd ei fod yn sefyllfa sy’n gwaethygu yn ddyddiol gyda’r ffigyrau bellach 50% yn uwch nag oedd i’w weld cyn y pandemig. Eglurwyd fod y cynlluniau a grëwyd cyn y pandemig bellach ddim yn ddigon da, ac fod angen creu cynlluniau er mwyn gweithredu ar yr egwyddor o gartrefu unigolion o fewn eu cymunedau. Amlygwyd fod un cynllun yn gofyn i landlordiaid preifat i ddefnyddio eu tai i gartrefu pobl leol yn hytrach nac eu ddefnyddio ar gyfer llety gwyliau.

 

Tynnwyd sylw at gynllun arloesol sydd i’w weld yn y gwasanaeth digartrefedd, gyda cefnogaeth iechyd meddwl arbennig. Eglurwyd fod canran uchel o unigolion di-gartref a problemau iechyd meddwl ac fod yr adran wedi penodi aelod o staff sydd a arbenigedd yn y maes a fydd yn ceisio gweithio gyda unigolion fel bod modd eu cadw pobl yn eu cartrefi ac i’w hatal rhag mynd yn ddigartref.

 

Mynegwyd fod y Cyngor bellach wedi prynu darn o dir ym Morfa Nefyn er mwyn adeiladu tai a fydd yn cartrefu pobl leol yng nghanol y pentref mewn tai fforddiadwy, hawdd i’w cynhesu ac yn amgylcheddol wyrdd. Nodwyd fod y tai yma wedi ei seilio ar syniad o Dŷ Gwynedd, sef creu y math o dŷ mae trigolion Gwynedd ei angen ac nid yn unig yn dŷ ond yn gartref. 

 

Ar y cyfan, nododd yr Aelod Cabinet ei fod yn hapus a’r perfformiad ond ei bod yn anodd dathlu gan fod y sefyllfa yn parhau heb ei datrys ond fod yr adran yn ceisio eu gorau i gynorthwyo pobl gan greu gobaith mewn sefyllfa anobeithiol.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Adran eu bod yn ymwybodol o heriau sylweddol sydd yn wynebu yr adran yn dilyn y pandemig, brexit, cynnydd mewn costau byw ynghyd â chynnydd mewn digartrefedd. Nodwyd fod yr adran yn awyddus i newid rhai o’i cynlluniau sydd i’w gweld o fewn  Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023/34 a fydd yn cynnwys blaenoriaethau newydd sydd yn fwy penodol i fynd i’r afael ar heriau sy’n wynebu’r adran.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Holwyd am y Cynllun Iechyd Meddwl fydd o fewn y tîm digartrefedd. Eglurwyd fod y cynllun yn un arloesol ac unigryw i Wynedd, eglurwyd fod hwn yn gynllun sydd am sicrhau cefnogaeth i’r digartref gan y Maes Iechyd. Mynegwyd ei fod yn enghraifft glir o sut mae’r adran yn ceisio meddwl yn wahanol ac yn gweithio i ddatrys problemau.

¾    Mynegwyd fod y podiau sydd i’w gweld yng Nghaernarfon ar gyfer y digartref bellach yn ymddangos wedi ei cwblhau ond fod problemau gyda Dŵr Cymru ac fod nifer o gwestiynau wedi codi yn lleol pam nad oes neb yn byw ynddynt. Nodwyd fod problemau wedi bod gyda’r dreiniau ond fod datrysiad bellach ac fod yr adran  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7

Awdur: Carys Fon Wlliams