7 DIWEDDARIAD - DATBLYGIADAU YN Y MAES CLUDIANT CYHOEDDUS PDF 191 KB
I ddiweddaru’r Pwyllgor am y gwaith wrth law i’r Pwyllgor eu
hystyried.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd a
Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd. Tynnwyd sylw yn fras at
y prif bwyntiau canlynol:
- Esboniodd yr Aelod Cabinet
Amgylchedd fod pwerau i lywodraethu cludiant cyhoeddus wedi symud o afael
cwmnïau preifat i’r Llywodraeth ers 2017.
- Datganwyd fod yr adran wedi bod yn
llwyddiannus iawn yn y misoedd diwethaf i ddiwygio amserlen y gwasanaeth SHERPA
yn ardal Llanberis. Roedd yr incwm a
gynilwyd dros yr haf yn cael ei sybsideiddio ar gyfer
gweddill y flwyddyn. Golyga hyn fod yr arian yn cael ei wario i gynorthwyo
trigolion yr ardal yn ogystal ag ymwelwyr tymhorol.
- Gwahoddwyd ceisiadau am
unrhyw adroddiad manwl am unrhyw agwedd o waith yr adran.
- Adroddodd Pennaeth Adran Amgylchedd bod
cludiant ysgolion ar gyfer yr adran addysg yn flaenoriaeth fawr. Nid oedd y
Cyngor eisiau bod yn ddibynnol ar gwmnïau mawr i weithredu gwasanaethau o’r
fath.
- Eglurwyd er mwyn sicrhau
fod y gwasanaeth oraf yn cael ei ddarparu i bobl Gwynedd, bod yr adran yn
cydweithio gyda’r Llywodraeth. Nodwyd bod swyddogaethau’r Cyd-Bwyllgor
Corfforedig yn rhoi gofyniad statudol ar y Cyd-Bwyllgor i gynhyrchu Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol erbyn Gorffennaf 2023 a datblygu cynlluniau newydd pob
5 mlynedd wedi hynny.
- Esboniwyd fod cyd-weithio gyda TrawsCymru yn effeithiol iawn gan alluogi gweithredu
gwasanaeth a oedd yn ymweld â sawl ardal wledig er mwyn cyrraedd anghenion
trigolion lleol.
- Cydnabuwyd fod y gwasanaeth
cludiant wedi gorwario £300,000.00 eleni a nodwyd fod yr adran yn ymwybodol
iawn o’r angen i sicrhau fod costau’r gyllideb yn cael ei lynu ato yn y
dyfodol.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:
Holwyd os oedd
cynlluniau i ail-gyflwyno gwasanaeth bws 10yh fel roedd yr angen yn codi mewn
ardaloedd gwledig, gan fod pris y gwasanaeth yn rhatach i ddefnyddwyr na
dulliau eraill o deithio megis archebu tacsi.
- Mewn ymateb i’r ymholiad hwn, nododd
Pennaeth Adran Amgylchedd bod diffyg gyrwyr yn her fawr i’w oresgyn. Os byddai
sefyllfa niferoedd gyrwyr yn gwella yn y dyfodol, gobeithir y byddai mwy o’r
gwasanaethau hwyr yma yn gallu rhedeg unwaith eto gan fod gwerth cymdeithasol
i’r teithiau Eglurodd oherwydd y sefyllfa bresennol roedd rhaid i gwmnïau
flaenoriaethu adnoddau.
Cwestiynwyd os
oedd cydweithio yn digwydd rhwng adrannau’r Cyngor er mwyn hyrwyddo’r swyddi
hyn sydd ar gael gan y cwmnïau bysiau.
- Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd y
Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd bod hyn yn digwydd. Yn ogystal,
roedd gan Lywodraeth Cymru syniadau ar sut i ddenu mwy o yrwyr bysiau. Er hyn ,
yn anffodus, roedd llawer o weithwyr hŷn wedi ymddeol ers y cyfnodau clo
ac yn anodd sbarduno diddordeb ym mhobl ifanc i fod yn yrwyr bysiau.
Cydnabuwyd fod TrawsCymru yn ymweld a mwy o ardaloedd gwledig nad oedd yn derbyn gwasanaethau bysiau yn rheolaidd yn y gorffennol, ond bod rhai ardaloedd yn parhau i golli allan o’r llwybr teithio presennol. Holwyd os oes modd newid y llwybrau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7