6 RECRIWTIO A CHADW STAFF (ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT) PDF 429 KB
I ddiweddaru’r Pwyllgor Craffu Gofal ar yr argyfwng staffio sy’n bodoli ac yn gwaethygu yn y maes gofal oedolion.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.
Cofnod:
Adroddodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant bod yr adroddiad
Recriwtio a Chadw Staff yn darparu cefndir ac yn amlygu’r argyfwng staffio sy’n
bodoli o fewn yr Adran. Nodwyd bod yr adroddiad yn un gonest sydd ddim yn
ceisio cuddio unrhyw broblem. Ychwanegwyd bod yr argyfwng staffio yn y maes yn
un cenedlaethol sy’n effeithio ar Awdurdodau Lleol yn ogystal â’r Gwasanaethau
Iechyd.
Manteisiwyd ar y cyfle i ddiolch i staff yr Adran am eu gwaith yn
ogystal â’r Pennaeth a’r Pennaeth Cynorthwyol am yr adroddiad. Nodwyd
y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Tîm Arweinyddiaeth â’r Cabinet a bod
trafodaethau yn cael eu cynnal yn genedlaethol a Rhanbarthol er mwyn uchafu’r
argyfwng presennol.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cynorthwyol gan nodi’r cefndir
sydd yn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa. Adroddwyd bod materion staffio yn y
maes wedi derbyn blaenoriaeth ers peth amser ac yn derbyn sylw yn lleol cyn y
cyfnod Cofid ond bu i’r pandemig waethygu sefyllfa oedd eisoes yn fregus.
Tywyswyd y Pwyllgor drwy’r adroddiad gan dynnu sylw at y prif heriau
megis cadw gafael ar staff a cheisio denu staff newydd i’r maes. Crynhowyd y
rhesymau dros yr heriau hyn cyn nodi sut mae’r Adran yn ceisio ymateb i’r
sefyllfa a’r gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod yr
adroddiad yn un agored am yr heriau mae’r Adran yn ei wynebu a bod Adrannau
eraill megis yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd hefyd yn wynebu heriau
sylweddol. Credwyd ei bod yn bwysig rhannu’r heriau gan eu bod yn effeithio ar
allu’r Adran i ddarparu gwasanaethau. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn rhoi
darlun mewnol o sefyllfa’r Cyngor a ddim yn cynnwys heriau tebyg sy’n bodoli yn
y sector breifat a’r drydedd sector. Adroddwyd bod y sectorau hyn hefyd yn
wynebu'r un heriau recriwtio.
Soniwyd am effaith y sefyllfa er enghraifft rhestrau aros maith,
cleifion yn methu dychwelyd adra o’r ysbytai a’r pwysau ar staff. Nodwyd bod
llawer o ymdrech a gweithgaredd yn digwydd, ac er bod yr Adran wedi profi
llwyddiannau bychain, nid oes eto datrysiad i’r sefyllfa sy’n peri pryder.
Pwysleisiwyd bod angen edrych ar yr hyn all gael ei wneud yn lleol a beth sydd
o fewn rheolaeth y Cyngor ac yr Adran drwy sicrhau buddsoddiad gofalus o
adnoddau presennol. Nodwyd mai adroddiad dechreuol yw hwn a gobeithir derbyn
awgrymiadau gan y Pwyllgor Craffu ac awydd gan Aelodau i gynorthwyo a bod yn
rhan o’r datrysiad.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:-
·
Diolchwyd am yr adroddiad. Credwyd ei bod yn ddyletswydd
ar Gynghorwyr i hyrwyddo’r swyddi yn y maes gofal i bobl leol.
· Gofynnwyd a yw’n bosib cynyddu’r cyswllt efo Colegau megis Coleg Meirion Dwyfor a chynnig lleoliadau i ddisgyblion. Holwyd os yw’n bosib ymweld â’r Coleg i siarad am ba waith a chyfleoedd sydd ar gael yn y maes gofal. Credwyd bod angen annog y dosbarthiadau iechyd a gofal cymdeithasol i chwilio am gyfleoedd yn lleol a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6