9 Cais Rhif C21/0993/35/LL Tir ger Coed Mawr Woodland, Cricieth, LL52 0ND PDF 605 KB
Defnyddio tir ar gyfer gwersylla / glampio amgen
parhaol (9 pod) (Ail gyflwyniad o gais C20/0348/35/LL)
AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Rhesymau
Cofnod:
Defnyddio tir ar
gyfer gwersylla / glampio amgen parhaol (9 pod) (Ail
gyflwyniad o gais C20/0348/35/LL)
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd Arweinydd Tim Rheolaeth Datblygu mai ail gyflwyniad o gais
llawn oedd dan sylw ar gyfer defnyddio tir ar gyfer gwersylla glampio amgen
parhaol fyddai’n cynnwys 8 pod gwyliau ac 1 pod gwasanaeth (‘utility’) ynghyd
a chreu llwybr mynediad, creu/uwchraddio ffordd fynediad, tirlunio, darparu
ardal parcio, gosod gwaith trin carthffosiaeth a newidiadau i’r fynedfa
bresennol.
Eglurwyd y byddai’r safle yn cael ei wasanaethu gan fynediad amaethyddol
presennol oddi ar ffordd gyhoeddus y B4411 ac y bydd wedi ei addasu i ddarparu
lleiniau gwelededd mwy, tynnu rhan o’r wal bresennol a chodi waliau carreg
newydd.
Cyfeiriwyd
yn bennaf at y materion trafnidiaeth a mynediad gan gydnabod bod yr ymgeisydd
wedi paratoi gwybodaeth swmpus mewn
ymateb i wrthwynebiadau’r Uned Trafnidiaeth. Er hynny, nid oedd y swyddogion
cynllunio wedi eu hargyhoeddi y byddai’r bwriad yn ei gyfanrwydd yn gallu
darparu mynedfa gerbydol ddigonol na diogel ar gyfer y bwriad nac ar gyfer
defnyddwyr eraill y briffordd. Amlygwyd bod y ffordd gyhoeddus yn gymharol gul
ac y byddai unrhyw un sydd yn dewis cerdded neu reidio beic o’r safle yn cael
eu gorfodi i ddefnyddio’r briffordd ei hun gan nad oes palmant a bod waliau
ffin bresennol yn ymylu’n uniongyrchol gyda’r ffordd heb lecyn gwair rhyngddynt.
Golygai hyn y byddai cerbydau yn arafu ac yn stopio nepell oddi ar gornel y
bont sydd gyda waliau carreg cul arni pe byddai cerddwyr neu ddefnyddwyr beic
yn ymadael o’r safle.
Ategwyd y byddai gwelededd cerbydau sy’n tynnu allan o fynedfa’r bwriad
hefyd yn cael ei effeithio pe byddai cerbydau yn stopio ar y ffordd gyhoeddus
union i’r dde o’r fynedfa. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn darparu
mynedfa gerbydol mewn lleoliad peryglus.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol:
·
Bod y cais yn un i ddarparu cyfleuster
o ansawdd uchel ar raddfa fach ar gyfer 8 Pod Glampio
Moethus.
·
Bod y safle wedi'i amgylchynu gan
goetir presennol ac nid yn weladwy o unrhyw olygfannau
cyhoeddus. Nid yw wedi ei leoli o fewn yr AHNE nac unrhyw ddynodiadau statudol
eraill.
·
Bod Ymchwiliad Cynllunio Cyn Ymgeisio
manwl wedi ei gynnal gyda Chyngor Gwynedd. Roedd yr ymateb yn ffafriol, ac mewn
gwirionedd roedd y cyngor cyn ymgeisio yn argymell gwneud cais am “Safle
Parhaol”. Yn seiliedig ar y cyngor a dderbyniwyd paratowyd cais cynllunio manwl
a cyflwynwyd yr adroddiadau y gofynnwyd amdanynt. Fel rhan o’r Ymholiad Cyn
Ymgeisio, ymgynghorwyd â Uned Trafnidaieth Gwynedd, a
chyfarfu Mr Gareth Roberts (Swyddog Priffyrdd)
ar y safle ar 4ydd Mehefin 2020. Yn y cyfarfod hwnnw mynegodd Mr Roberts
nad oedd “Dim gwrthwynebiad i’r cynnig gan yr Adran Drafnidaeth,
fodd bynnag, roedd yn argymell addasu’r mynediad amaethyddol presennol i’w
wneud yn addas ar gyfer traffig dwy ffordd”.
· Yn dilyn y cyngor a dderbyniwyd, cyflwynwyd cais cynllunio ac ail ymgynghorwyd gyda swyddog priffyrdd gwahanol ar y cais presennol – ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9