12 Cais Rhif C22/0608/11/DT 33 Bryn Eithinog, Bangor, Gwynedd, LL57 2LA PDF 325 KB
Estyniad a newidiadau i flaen yr eiddo,
ynghyd â throsi'r gofod to yn ystafell wely ac ystafell ymolchi ac anecs dwy
ystafell wely yng nghefn yr annedd i ddarparu llety ychwanegol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Gwrthod, yn groes i’r argymhelliad
Rhesymau:
Cofnod:
Estyniad a newidiadau i flaen yr eiddo,
ynghyd â throsi'r gofod to yn ystafell wely ac ystafell ymolchi ac anecs dwy ystafell wely yng nghefn yr annedd i ddarparu
llety ychwanegol.
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer ymgymryd â
newidiadau i dŷ deulawr presennol fyddai'n cynnwys :
·
codi estyniad llawr cyntaf 2.3m yn ei
flaen ar ben modurdy unllawr presennol sydd ar flaen
yr eiddo
·
Trosi'r gofod to yn ofod byw ychwanegol
·
Codi estyniad deulawr cefn i weithredu
fel "anecs" i'r prif dŷ.
O ganlyniad i’r newidiadau, bydd yr eiddo yn cynyddu o dŷ pedair
llofft, i dŷ gydag anecs a fyddai â chyfanswm o
chwe llofft.
Saif y safle o fewn cwrtil tŷ “33 Bryn Eithinog” sy’n eiddo ar
wahân mewn ardal anheddol o fewn ffin ddatblygu Canolfan Isranbarthol Bangor
fel y’i diffinnir gan y CDLl, mewn stad dai
a’i gwasanaethir gan ffyrdd di-ddosbarth yn arwain o Ffordd Belmont
ger Ysgol Tryfan.
Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.
Nodwyd bod gan y term “anecs” ystyr benodol
yng nghyd-destun cynllunio ac i ystyried
bwriad yn “anecs” byddai’n hanfodol i'r adeilad fod
yn is-wasanaethol i'r prif dŷ ac na fyddai'n cael ei ddefnyddio fel annedd
ar wahân. Yn yr achos yma, yng ngoleuni lleoliad yr adeilad yn gysylltiedig i'r
prif dŷ mewn man lle nad oes mynediad annibynnol i'r stryd, ystyriwyd, er
i'r cynlluniau ddangos y byddai'r anecs yn cynnwys
ystafell ymolchi a chegin ar wahân, ei fod yn rhesymol ystyried y strwythur
newydd fel anecs israddol i'r prif annedd. Ategwyd
bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau mai ei fwriad yw defnyddio'r tŷ fel
tŷ teuluol ac nid fel HMO a chan mai anecs a
geisiwyd amdano, ystyriwyd, trwy ddefnyddio amod cynllunio wedi'i eirio'n
briodol, y gellid rheoli’r defnydd o’r strwythur newydd mewn modd priodol.
Cyfeiriwyd at bryderon gan gymdogion oherwydd y posibilrwydd o or-edrych
o’u heiddo o’r estyniadau newydd, fodd bynnag nodwyd mai dim ond un ffenestr
llawr cyntaf newydd a fyddai yn edrychiad gogleddol yr eiddo a byddai’n
gwasanaethu ystafell ymolchi newydd yn y tŷ gwreiddiol. Gan i'r ffenestr
honno fod yn edrychiad ochr y tŷ, yn unol â 'r Gorchymyn Datblygiad a
Ganiateir Cyffredinol, bydd yn ofynnol i’r ffenestr gael ei chadw’n afloyw yn
barhaol.
Yn ogystal, amlygwyd pryderon y byddai'r estyniadau newydd yn achosi
niwed annerbyniol o safbwynt cysgodi eiddo cymdogion ac y byddent yn
ddominyddol dros eu heiddo. Wrth ystyried maint y safle, y pellter sydd rhwng y
tai cyfagos ac uchder gweddol fychan yr estyniadau, ni ystyriwyd y bydd niwed
arwyddocaol i fwynderau cymdogion yn deillio o'r materion hyn.
Wedi asesu’r cais yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol, ystyriwyd fod
y bwriad yn dderbyniol o agwedd mwynderau gweledol, mwynderau preifat a
mwynderau cyffredinol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Ei bod yn siarad ar ran trigolion Bro
Eithinog sydd yn gwrthwynebu’r cais oherwydd pryderon goredrych,
colli preifatrwydd a golau
· Nad oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12