Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 27/09/2022 - Y Cabinet (eitem 12)

12 PREMIWM TRETH CYNGOR AR AIL GARTREFI AC EIDDO GWAG HIRDRMOR pdf eicon PDF 393 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y gynnig posib i gynyddu’r Premiwm ar

Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor tu hwnt i 100% a hyd at

300% ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.

 

Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cyllid mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth

Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi pecyn ymgynghori cyhoeddus yn unol â’r

adroddiad ac unrhyw argymhellion gan y Cabinet.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y gynnig posib i gynyddu’r Premiwm ar

Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor tu hwnt i 100% a hyd at

300% ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.

 

Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cyllid mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth

Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi pecyn ymgynghori cyhoeddus yn unol â’r

adroddiad ac unrhyw argymhellion gan y Cabinet.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad hwn yn gofyn i fynd i ymgynghoriad cyhoeddus. Nodwyd fod rhaid i’r Cyngor Llawn wneud penderfyniad blynyddol ar raddfa’r Premiwm, ac er mwyn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol, os am gynyddu’r lefel y Premiwm, mae’n rhaid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig.

 

Eglurwyd fod Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 wedi caniatáu disgresiwn i’r Cyngor godi premiwm o hyd at 100% ar Dreth Cyngor rhai dosbarthiadau o ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor ond nodwyd  bydd yr uchafswm yma yn cynyddu o o 1 Ebrill 2023 a bydd gan awdurdodau lleol y grym i godi premiwm o hyd at 300%. Mynegwyd fod mynd i’r afael â phrinder tai fforddiadwy o fewn Gwynedd yn ogystal â’r nifer uchel o ail gartrefi yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac mae codi Premiwm Treth Cyngor yn un o’r arfau sydd ar gael i ddelio a’r sefyllfa. 

 

Ategwyd fod Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru)  1998 yn nodi fod  'ail gartrefi' wedi'u categoreiddio i ddau ddosbarth, sef

dosbarthau A a B, tra bod dosbarth C yn cyfeirio at eiddo gwag:

·         Dosbarth A – Annedd lle nad oes trigolyn, sydd wedi’i dodrefnu’n sylweddol  lle mae'r meddiant yn cael ei wahardd am gyfnod o 28 diwrnod o leiaf yn y  flwyddyn berthnasol.

·         Dosbarth B – Annedd lle nad oes trigolyn, sydd wedi’u dodrefnu’n sylweddol a nid oes cyfyngiad cyfreithiol ar ei feddiant.

·         Dosbarth C – Annedd sydd yn ddiddeiliad a heb ei ddodrefnu’n sylweddol.

 

Nodwyd ar 13 Gorffennaf, roedd dros 4600 o dai ei destun y Premiwm ar ail gartrefi (Dosbarth B), 200 ohonynt ddim yn talu’r premiwm gan eu bod yn destun eithriadau a 760 o fewn Dosbarth A ble mae’r meddiant yn cael ei wahardd am gyfnod o 28 diwrnod o leiaf y flwyddyn berthnasol.  Mynegwyd ers cyflwyno Premiwm fod y Cyngor wedi penderfynu yn flynyddol i godi’r un lefel o bremiwm ar eiddo gwag hir dymor ac ail gartrefi, ond mae modd codi lefelau gwahanol os yw’r amgylchiadau lleol yn cyfiawnhau hynny. 

 

Eglurwyd o ran gofynion cyfreithiol fod y penderfyniad yn cael ei wneud yn flynyddol gan y Cyngor Llawn ac fod angen cyflwyno Asesiad Effaith ar Nodweddion Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd-Gymdeithasol i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn. Ychwanegwyd fod gofyn i gynnal ymgynghoriad ac ymgysylltu gyda rhan ddeiliad cyn codi unrhyw bremiwm a nodwyd fod yr adran yn bwriadu ei gynnal am 28 diwrnod yn ystod mis Hydref. Yn dilyn hyn, ategwyd y bydd adroddiad i’r Cabinet ym mis Tachwedd cyn ei drafod yn y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr. Pwysleisiwyd y bydd y mater yn cael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12

Awdur: Dewi A Morgan