6 ADOLYGIAD REFENIW A CYFALAF 2022/23 - AWST 2022 PDF 532 KB
Dewi A. Morgan, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya a
Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp yr Awdurdod Lletya i ddarparu manylion y
gwariant a'r incwm refeniw gwirioneddol hyd at ddiwedd Awst 2022, i Fwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ynghyd â rhagamcaniad o'r alldro blwyddyn
lawn yn erbyn ei gyllideb
flynyddol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodwyd a derbyniwyd adolygiad refeniw
diwedd Awst 2022 y Bwrdd Uchelgais sy'n cynnwys hawlio swm llai o grant Cynllun
Twf Gogledd Cymru er mwyn gadael sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.
Nodwyd a derbyniwyd diweddariad
cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais.
Cytunwyd ar broffil gwariant cyfalaf
diwygiedig a chynllun cyflawni prosiectau'r Bwrdd
Uchelgais.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp – Awdurdod Lletya).
PENDERFYNIAD
Nodwyd
a derbyniwyd adolygiad refeniw diwedd Awst 2022 y Bwrdd Uchelgais sy'n cynnwys
hawlio swm llai o grant Cynllun Twf Gogledd Cymru er mwyn gadael sefyllfa
niwtral ar gyfer y flwyddyn.
Nodwyd
a derbyniwyd diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais.
Cytunwyd
ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig a chynllun cyflawni prosiectau'r Bwrdd
Uchelgais.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Nodwyd
eu bod yn rhagweld tanwariant o £189,048 yn erbyn y gyllideb refeniw yn
2022/23. Defnyddir unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i leihau'r
swm a hawlir o Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru.
Nodwyd
llithriad ar y rhaglen gyfalaf ar draws yr holl bortffolio, gyda nifer is o
achosion busnes wedi'u cymeradwyo nag a ragwelwyd yn wreiddiol ar y pwynt hwn.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi mai adolygiad diwedd Awst 2022 a oedd yn cael ei
gyflwyno. Eglurwyd fod yr adroddiad yn nodi gwir sefyllfa refeniw hyd at
ddiwedd Awst 2022 ac yn amcanu’r sefyllfa hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Mynegwyd fod yr adran gyllid yn amcanu tanwariant o £38 o filoedd ar y Swyddfa
Raglen, gan amlygu fod hyn yn bennaf yn sgil tanwariant o £11mil ar wariant gweithwyr, tanwariant o
£18mil ar gyfraniad y Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol a thanwariant o £10mil ar y
pennawd adroddiad arfarniad ESF. Tynnwyd sylw at gorwariant o dan y pennawd
Gwasanaethau Cefnogol o £5mil a eglurwyd fod hyn yn sgil gorwariant ar y gyllideb cyfreithiol.
Amcangyfrifwyd
tanwariant net o £10 mil ar y pennawd Cyd-bwyllgor, a oedd cynnwys tanwariant o
£18mil ar Gefnogaeth Gyfreithiol Allanol, tanwariant o £5 mil ar Ffioedd
Cyllidol Allanol a gorwariant o £13 mil ar y Ffioedd Archwilio Allanol. Nodwyd fod y
ffioedd archwilio yn seiliedig ar y Cynllun Archwilio Cymru a gyflwynwyd
i’r Bwrdd ym mis Gorffennaf, ond roedd yn cynnwys ffi ar gyfer y gwaith
archwilio perfformiad nad oedd wedi'i chynnwys yn y gyllideb. Mynegwyd fod y pennawd prosiectau yn dangos
tanwariant o £161 o filoedd, gan amlygu fod hyn yn sgil llithriad yn y rhaglen
gyfalaf.
O ran y
ffynonellau incwm ar gyfer 2022/23 nodwyd eu bod yn cynnwys cyfraniadau
partneriaid, Grant ESF, Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru a grantiau penodol
eraill. Eglurwyd y bydd hyn wedyn yn gadael amcan sefyllfa ar gyfer 2022/23, yn
danwariant o £189 o filoedd. O ganlyniad i hyn nodwyd yn hytrach na hawlio y
swm llawn o £750mil o’r Grant Cynllun Twf, awgrymir fod swm is o £561mil yn
cael ei hawlio a fydd yn gadael sefyllfa niwtral i’r Bwrdd eleni.
Mynegwyd fod amcan balans y gronfa wrth gefn gyffredinol ar 31 Mawrth 2023 yw £552 o filoedd ac ychwanegwyd fod y Bwrdd eisoes wedi cymeradwyo defnyddio’r gronfa wrth gefn i ariannu staff y Swyddfa Rheoli Portffolio hyd Mawrth 2024. Disgwylir defnyddio £100mil o’r gronfa prosiectau yn 2022/23 a fydd yn rhoi amcan balans diwedd blwyddyn o £95mil. Nodwyd y bydd cyfraniadau llog partneriaid o £265 o filoedd ar gyfer 2022/23 yn cael eu hychwanegu i’r gronfa ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6