Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 30/09/2022 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 9)

9 CYNLLUN TŴF GOGLEDD CYMRU - SGANIO'R GORWELION pdf eicon PDF 415 KB

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno adroddiad yw gosod egwyddorion a phroses arfaethedig er mwyn adnabod ffordd ymlaen a ffefrir pan gaiff prosiectau eu tynnu allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Penderfyniad:

Cytunwyd â’r egwyddorion a’r broses arfaethedig fel y nodir yn yr adroddiad yn sail i’r broses ar gyfer nodi’r ffordd a ffefrif ymlaen pan fydd prosiectau’n cael u tynnu yn ôl o Fargen Twf Gogledd Cymru.

 

Cytunwyd fod y Bwrdd, yn dilyn tynnu unrhyw brosiect yn ôl o’r Cynllun Twf, yn derbyn adroddiad pellach i argymell y paramedrau a’r meini prawf sgorio ar gyfer yr ymarfer sganio’r gorwel fesul achos.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd â’r egwyddorion a’r broses arfaethedig fel y nodir yn yr adroddiad yn sail i’r broses ar gyfer nodi’r ffordd a ffefrif ymlaen pan fydd prosiectau’n cael eu tynnu yn ôl o Fargen Twf Gogledd Cymru. Cytunwyd fod y Bwrdd, yn dilyn tynnu unrhyw brosiect yn ôl o’r Cynllun Twf, yn derbyn adroddiad pellach i argymell y paramedrau a’r meini prawf sgorio ar gyfer yr ymarfer sganio’r gorwel fesul achos.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae gan y Cynllun Twf Gogledd Cymru broses rheoli newid yn ei lle i sicrhau bod newidiadau posib i sgôp y Cynllun Twf a’r prosiectau yn cael eu dal, hasesu a lle bo hynny’n berthnasol eu hystyried gan y bwrdd. Amlygodd yr adroddiad hwn egwyddorion ynghyd â phroses arfaethedig er mwyn adnabod ffordd ymlaen a ffrefir pan gaiff prosiectau eu tynnu allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi  fod yr adroddiad yn nodi’r egwyddorion ar gyfer prosiectau amgen pan gaiff prosiectau eu tynnu allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru.  Nodwyd fel a ganlyn:

1.    Egwyddor 1: Cyn ystyried prosiectau newydd, i ddechrau, bydd y Bwrdd yn ystyried ceisiadau gan brosiectau presennol ar gyfer cyllid ychwanegol, ar sail achos wrth achos.

2.    Egwyddor 2: Fel rhan o’r ymarfer sganio’r gorwelion, dylai'r holl opsiynau gael eu hystyried fel rhan o'r broses i adnabod ffordd ymlaen a ffefrir

3.    Egwyddor 3: Rhaid i'r ffordd ymlaen a ffefrir gyflawni yn erbyn targedau achos busnes y portffolio a cheisio cyflawni lefel gymharol o fuddion i'r prosiect a dynnir yn ôl o'r Cynllun Twf

4.    Egwyddor 4: Rhaid i'r ffordd ymlaen a ffefrir gyflawni yn erbyn achos busnes perthnasol y rhaglen a'i dargedau a, gymaint â phosib, mynd i'r afael â'r bwlch a adewir wrth i'r prosiect gael ei dynnu'n ôl o'r Cynllun Twf.

5.    Egwyddor 5: Rhaid i unrhyw brosiectau newydd yn y ffordd ymlaen a ffefrir allu arddangos effaith ranbarthol yn yr un ffordd â phrosiectau presennol.

 

Mynegwyd fod yr egwyddorion yn cael ei gefnogi gan broses ac amlygwyd y broses o dri prif cam. O ran y cam cyntaf – Sganio’r Gorwel – nodwyd yr angen i gytuno ar feini prawf, sgorio a  phwysoliad gan amlygu’r angen i gynnwys targedau ar gyfer swyddi, buddsoddi a meini prawf cyflawni. Eglurwyd y buasai galwad cyhoeddus am brosiectau a buasai asesiad porth caled cychwynnol yn cael ei wneud gan y Cyfarwyddwr Portffolio i ddileu unrhyw gynigion nad ydyn yn bodloni lefel ofynnol o ddeilliannau.

 

Fel yr ail gam – Creu Rhestr Hir a Rhestr Fer – nodwyd y buasai asesiad o’r rhestr hir yn erbyn  meini prawf i gytuno a adnabod rhestr fer. Gofynnir am wybodaeth bellach gan y prosiectau er mwyn i asesiad rhestr fer gael ei gyflwyno i’r Bwrdd Uchelgais i adnabod y ffordd ymlaen.

 

Y cam olaf fydd i gymeradwyo a datblygu achosion busnes. Nodwyd y buasai argymhelliad yn cael ei gynnig i’r Bwrdd Uchelgais cyn dechrau’r gwaith o greu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9