Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 17/10/2022 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 7)

7 Cais Rhif C22/0570/22/LL Lock Up, Uned Storio, Penygroes, LL54 6DB pdf eicon PDF 338 KB

Adeiladu uned storio tri llawr gyda bloc swyddfa a llawr 'mezzanine', a cysylltiad i'r adeilad presennol.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau -

 

  1. 5 Mlynedd
  2. Yn unol â’r cynlluniau
  3. Deunyddiau
  4. Mesurau lliniaru iaith (arwyddion, gohebiaeth ayyb)

 

Cofnod:

Lock Up, Self Storage, Penygroes, LL54 6DB

Adeiladu uned storio tri llawr gyda bloc swyddfa a llawr 'mezzanine' a chysylltiad i'r adeilad presennol.

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu sied storio tri llawr gyda bloc swyddfa a llawr mezzanine, gyda estyniad ochr i gysylltu’r adeilad bwriadedig i’r adeilad cyfochrog presennol. Byddai’r adeilad bwriadedig yn cael ei rhannu i 2 rhan - prif adeilad 3 llawr ar gyfer storio a’r ail ran yn sylweddol llai ar gyfer cegin fach, ystafell ymweld a swyddfa ar y llawr cyntaf. Byddai'r adeilad yn mesur 34 medr mewn hyd, 15.5 medr mewn lled a 11 medr mewn uchder.

 

Adroddwyd bod Polisi PCYFF3 yn datgan y bydd  cynigion yn cael eu caniatáu, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i adeiladau a strwythurau presennol, os ydynt yn cydymffurfio a nifer o feini prawf sy’n cynnwys bod y cynnig yn ychwanegu neu yn gwella cymeriad y safle, yr adeilad neu’r ardal o ran y gosodiad, yr ymddangosiad, y raddfa, yr uchder, y mas a’r driniaeth i’r drychiadau; ei fod yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol.

 

Amlygwyd fod y bwriad yn golygu codi adeilad sylweddol ei faint ac uchder ar gyrion gorllewinol ystâd ddiwydiannol ar safle rhwng dau adeilad ac ar bwys clawdd terfyn gyda chefnffordd gyfochrog. Eglurwyd bod y cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais yn dangos y byddai’r adeilad yn sylweddol uwch na’r adeiladau gerllaw a’r clawdd terfyn ac felly yn creu nodwedd uchel, amlwg ac anghydnaws o’r gefnffordd a niwed i fwynderau gweledol yr ardal.

 

Derbyniwyd bod elfennau o’r adeiladau  presennol gerllaw yn weladwy o ffordd osgoi Penygroes, ond byddai uchder a graddfa'r adeilad bwriadedig yn sefyll allan fel nodwedd anghyson yn y patrwm datblygu ac yn tynnu sylw, ac yn ychwanegu yn sylweddol at nodweddion dynol sy’n weladwy o’r ffordd honno. Er bod y safle yn ffurfio rhan o ystâd ddiwydiannol amlygwyd bod y safle yn ffinio gyda chefn gwlad agored lle mae’r dirwedd yn llawer mwy sensitif i newid. 

 

Nodwyd bod yr adeiladau presennol oherwydd eu maint, uchder a graddfa yn cael eu cysgodi i raddau gan glawdd a llystyfiant presennol, er hynny, y llystyfiant yn bennaf yn blanhigion collddail a’r adeilad felly yn llawer mwy amlwg yn y gaeaf.

 

Yng nghyd-destun materion yn ymwneud a’r Iaith Gymraeg, nodwyd na ofynnwyd i'r ymgeisydd baratoi a chyflwyno datganiad o'r fath oherwydd na fyddai’n newid barn y Gwasanaeth Cynllunio o ran yr effaith gweledol. Er hynny, heb asesiad priodol nid oedd yn bosib asesu effaith y bwriad ar yr iaith.

 

Wedi pwyso a mesur y bwriad yng nghyd-destun y polisïau perthnasol, ni ystyriwyd ei fod yn dderbyniol i’w ganiatáu. Ystyriwyd y byddai'r adeilad oherwydd ei raddfa a maint  yn ychwanegiad anghydnaws ac y byddai'n cael effaith negyddol sylweddol ar edrychiad a chymeriad yr ardal  (yn groes i Bolisi PCYFF2, PCYFF3, PCYFF4 a PS 19). Y bwriad hefyd yn groes i bolisi PS 1 o fewn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7