7 Cais Rhif C22/0570/22/LL Lock Up, Uned Storio, Penygroes, LL54 6DB PDF 338 KB
Adeiladu uned storio tri llawr gyda bloc
swyddfa a llawr 'mezzanine', a cysylltiad i'r adeilad presennol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu
gydag amodau -
Cofnod:
Lock Up, Self
Storage, Penygroes, LL54 6DB
Adeiladu uned storio tri llawr gyda bloc swyddfa a llawr 'mezzanine' a chysylltiad i'r adeilad presennol.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer
adeiladu sied storio tri llawr gyda bloc swyddfa a llawr mezzanine,
gyda estyniad ochr i gysylltu’r adeilad bwriadedig
i’r adeilad cyfochrog presennol. Byddai’r adeilad bwriadedig
yn cael ei rhannu i 2 rhan - prif adeilad 3 llawr ar gyfer storio a’r ail ran
yn sylweddol llai ar gyfer cegin fach, ystafell ymweld a swyddfa ar y llawr
cyntaf. Byddai'r adeilad yn mesur 34 medr mewn hyd, 15.5 medr mewn lled a 11
medr mewn uchder.
Adroddwyd
bod Polisi PCYFF3 yn datgan y bydd
cynigion yn cael eu caniatáu, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i
adeiladau a strwythurau presennol, os ydynt yn cydymffurfio a nifer o feini
prawf sy’n cynnwys bod y cynnig yn ychwanegu neu yn gwella cymeriad y safle, yr
adeilad neu’r ardal o ran y gosodiad, yr ymddangosiad, y raddfa, yr uchder, y
mas a’r driniaeth i’r drychiadau; ei fod yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn
y dirwedd leol.
Amlygwyd
fod y bwriad yn golygu codi adeilad sylweddol ei faint ac uchder ar gyrion
gorllewinol ystâd ddiwydiannol ar safle rhwng dau adeilad ac ar bwys clawdd
terfyn gyda chefnffordd gyfochrog. Eglurwyd bod y cynlluniau a gyflwynwyd
gyda’r cais yn dangos y byddai’r adeilad yn sylweddol uwch na’r adeiladau
gerllaw a’r clawdd terfyn ac felly yn creu nodwedd uchel, amlwg ac anghydnaws
o’r gefnffordd a niwed i fwynderau gweledol yr ardal.
Derbyniwyd
bod elfennau o’r adeiladau presennol
gerllaw yn weladwy o ffordd osgoi Penygroes, ond byddai uchder a graddfa'r
adeilad bwriadedig yn sefyll allan fel nodwedd
anghyson yn y patrwm datblygu ac yn tynnu sylw, ac yn ychwanegu yn sylweddol at
nodweddion dynol sy’n weladwy o’r ffordd honno. Er bod y safle yn ffurfio rhan
o ystâd ddiwydiannol amlygwyd bod y safle yn ffinio gyda chefn gwlad agored lle
mae’r dirwedd yn llawer mwy sensitif i newid.
Nodwyd
bod yr adeiladau presennol oherwydd eu maint, uchder a graddfa yn cael eu
cysgodi i raddau gan glawdd a llystyfiant presennol, er hynny, y llystyfiant yn
bennaf yn blanhigion collddail a’r adeilad felly yn llawer mwy amlwg yn y
gaeaf.
Yng
nghyd-destun materion yn ymwneud a’r Iaith Gymraeg, nodwyd na ofynnwyd i'r
ymgeisydd baratoi a chyflwyno datganiad o'r fath oherwydd na fyddai’n newid
barn y Gwasanaeth Cynllunio o ran yr effaith gweledol. Er hynny, heb asesiad
priodol nid oedd yn bosib asesu effaith y bwriad ar yr iaith.
Wedi pwyso a mesur y bwriad yng nghyd-destun y polisïau perthnasol, ni ystyriwyd ei fod yn dderbyniol i’w ganiatáu. Ystyriwyd y byddai'r adeilad oherwydd ei raddfa a maint yn ychwanegiad anghydnaws ac y byddai'n cael effaith negyddol sylweddol ar edrychiad a chymeriad yr ardal (yn groes i Bolisi PCYFF2, PCYFF3, PCYFF4 a PS 19). Y bwriad hefyd yn groes i bolisi PS 1 o fewn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7