Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 22/11/2022 - Y Cabinet (eitem 6)

6 PREMIWM TRETH CYNGOR AR AIL GARTREFI AC EIDDO GWAG HIRDYMORPREMIWM TRETH CYNGOR pdf eicon PDF 660 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Argymell i’r Cyngor llawn ar 1 Rhagfyr 2022 mai’r canlynol yw’r opsiwn a ffafrir o safbwynt lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24:

·         Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).

·         Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. cynyddu o 100% i 150%).

·         Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas     

PENDERFYNIAD 

TRAFODAETH 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn gam yn y drefn llywodraethu wrth i’r Cyngor symud ymlaen i wneud penderfyniad ar sut i ymateb i newidiadau deddfwriaethol diweddar o safbwynt y Premiwm Treth Cyngor.  

Pwysleisiwyd nad oedd unrhyw benderfyniad ar raddfa’r Premiwm ar ben ei hun yn datrys y broblem y sefyllfa ddifrifol a niferoedd ail gartrefi o fewn ardaloedd yng Ngwynedd. Eglurwyd fod y defnydd o’r broses gynllunio a sicrhau trwyddedu ail gartrefi yn llawer mwy perthnasol. Croesawyd ymateb diwedd Llywodraeth Cymru gan amlygu mai dyfalbarhad wrth lobio a chyflwyno tystiolaeth y Cyngor sydd wedi sicrhau gweithredu.  

Esboniwyd fod Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi ychwanegu adrannau newydd i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mynegwyd fod y cymalau newydd yn caniatáu i awdurdodau bilio Cymru i godi Treth Cyngor ychwanegol ar ddosbarthiadau penodol o eiddo. Eglurwyd mai’r sefyllfa diofyn yn Neddf 1992 yw rhoi disgownt o 50% i’r eiddo os nad yw’r Cyngor yn gwneud penderfyniad pob blwyddyn i’w ariannu o goffrau’r Cyngor. Mynegwyd fod gan y Cyngor hawl dewisol ers sawl blwyddyn i beidio rhoi disgownt i’r eiddo yma, ac ers 2017 yr hawl i godi premiwm.  

Amlygwyd fod y Cyngor wedi codi premiwm o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2021, ac yna 100% ers 1 Ebrill 2021. Esboniwyd ar yr achlysuron ble cyflwynwyd y Premiwm a’i gynyddu fod gwaith sylweddol wedi ei wneud  i asesu’r sefyllfa ynghyd a chynnal ymgynghoriadau cyhoeddus ac Asesiad Effaith Cydraddoldeb.  Mynegwyd fod Adrannau 12A a 12B o Ddeddf 1992 wedi eu newid eto yn ddiweddar a bydd y newidiadau yn weithredol o 1af Ebrill 2023. Nodwyd fod y newidiadau hyn wedi eu gwneud yn ei wneud yw cynyddu lefel y Premiwm gall awdurdodau lleol ei godi. Eglurwyd y bydd modd codi hyd at 300%.  

Bu i’r Pennaeth Adran dywysu drwy ganlyniadau’r Ymgynghoriad Cyhoeddus. Eglurwyd fod y Cabinet wedi cytuno ddiwedd Medi i gomisiynu Ymgynghoriad  Cyhoeddus i dderbyn barn y cyhoedd ar sut dylai’r Cyngor ymateb i’r ddeddf. Lansiwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6

Awdur: Dewi A Morgan