Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 22/11/2022 - Y Cabinet (eitem 11)

11 ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU 2021/22 pdf eicon PDF 124 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a nodi  y gwaith a'r cynnydd a wnaed yn 2021/2022 yn y meysydd gwaith sy'n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan    

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyn yr adroddiad a nodi'r gwaith a'r cynnydd a wnaed yn 2021/2022 yn y meysydd gwaith sy'n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.  

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod hon yn adroddiad Blynyddol ar gyfer y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Esboniwyd fod yr adroddiad yn amlygu gwaith y bwrdd ar gyfer 2021/22 ac wedi ei lunio a’i ysgrifennu i fodloni canllawiau’r Llywodraeth. Eglurwyd fod y bwrdd wedi ei sefydlu yn ôl yn 2014, er mwyn cydymffurfio a rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015.  

 

Tynnodd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol sylw at y prif bwyntiau a’r gwaith allweddol sydd yn cael ei wneud yn y rhanbarth. Eglurwyd mai rôl y Bwrdd yw i ddod a phartneriaid at ei gilydd er mwyn integreiddio gwasanaethau pan yn bosib. Mynegwyd fod y system lywodraethu yn un gymhleth ond mai’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yw’r prif fwrdd ac mae’n gyfrifol am rhoi cyfeiriad clir i weithio mewn partneriaeth ar draws y rhanbarth ynghyd a sicrhau fod gwaith yn cael ei gyflawni. Esboniwyd fod y bwrdd yn adrodd i Fwrdd Arweinwyr y Gogledd.  

 

Amlygwyd fod 2 brif raglen i’w gweld yn gan y Bwrdd yn 2021/22 sef Cronfa Gofal Integredig a Rhaglen Trawsnewid. Eglurwyd fod y gronfa Gofal Integredig wedi ei sefydlu yn ôl yn 2014, ac wedi galluogi’r rhanbarth i weithio gyda’i gilydd i gynorthwyo pobl hyn ag anghenion cymhleth, plant ag anghenion cymhleth, gofalwyr a phlant mewn gofal neu mewn peryg o fynd i ofal. Nodwyd fod y rhaglen Trawsnewid wedi ei sefydlu yn Ebrill 2018 gyda’r pwrpas o wella gwasanaethau a oedd i gychwyn yn gynllun 3 blynedd, ond y bu iddo ymestyn o ganlyniad i’r pandemig 

 

Esboniwyd fod y ddwy raglen wedi dod i ben yn 2021/22 ac fod rhaglen newydd bellach ers Ebrill 2022, sef Cronfa Integreiddio Rhanbarthol. O ganlyniad mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o waith y ddwy brif raglen ynghyd a prif bwyntiau a godwyd o’r gwerthusiad a oedd yn cynnwys y cyfleoedd i ddatblygu cynlluniau a gwella perthynas rhwng partneriaid. Mynegwyd fod arian wedi bod yn broblem gan fod y gyllideb wedi bod am flwyddyn unig ac felly yn ei gwneud yn anodd i gynllunio ymhellach.  

 

Mynegwyd fod y tîm wedi bod yn gweithio yn ogystal ar greu Asesiad Anghenion Poblogaeth a oedd yn cynorthwyo’r rhanbarth i ddatblygu blaenoriaethau ac i awdurdodau lleol allu cynllunio yn lleol. Nodwyd i’r dyfodol fod y Pwyllgor yn awyddus i adeiladu ar waith eleni ac i gynllunio ar gyfer y 5 i 10 mlynedd nesaf.  

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad hwn yn edrych yn benodol ar ddiwedd cyfnod Morwena Edwards yn ei swydd. Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu ei fod yn faes llawer ehangach na gofal yn unig gydag elfennau i’w gweld yn y maes Tai ac Addysg. Amlygwyd fod dylanwad y Bwrdd yn holl bwysig wrth symud ymlaen.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                Nodwyd balchder  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11

Awdur: Dylan Owen