13 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET ADDYSG PDF 558 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Beca Brown
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a
nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan fynegi balchder ym mherfformiad yr Adran a’r gwaith da sy’n
digwydd o fewn Ysgolion Gwynedd. Cyfeiriwyd at yr Ysgol newydd fydd yn cael ei
hadeiladu yng Nghriccieth
er mwyn gwella’r amgylchedd ddysgu a
sicrhau’r adnodd gorau i’r disgyblion a’r balchder sy’n bodoli o ganlyniad i’r
datblygiad. Eglurwyd bod oedi wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf
wrth gyflwyno’r weledigaeth newydd ar gyfer addysg ôl-16 ond bellach fod yr
Adran mewn sefyllfa i allu bwrw mlaen efo’r prosiect hwn. Soniwyd am y prosiect
Cyflwr ac Addasrwydd oedd wedi profi heriau ar brydiau. Serch hyn adroddwyd bod
y buddsoddiad yng nghyflwr ac addasrwydd Ysgol Bethel, Ysgol Glan y Môr ac
Ysgol Cymerau wedi ei gwblhau yn ystod y flwyddyn gyda gwaith yn parhau ar
safleoedd Ysgolion eraill ar draws y Sir.
Adroddwyd bod
y cyfnod Covid
wedi amlygu bregusrwydd
plant yn y grŵp oedran 0-5 a 16-24 a bellach bod gagendor lles a
chyrhaeddiad yn un o brif flaenoriaethau’r Adran Addysg. Adroddwyd bod
anghysondeb ar draws y Sir o ran ystod ac argaeledd gwasanaethau yn y sector
blynyddoedd cynnar; bydd
grŵp prosiect yn cytuno ar ffrydiau gwaith penodol ac wedi blaenoriaethu
cynnal asesiad.
Mynegwyd
balchder yn y cwricwlwm newydd i Gymru gan gyfeirio at y sylw cyhoeddus
dderbyniodd rhai agweddau o’r cwricwlwm megis y cwricwlwm Addysg Cyd-berthynas
a Rhywioldeb. Cymerwyd y cyfle i fynegi gwerthfawrogiad o broffesiynoldeb,
cefnogaeth ac ymrwymiad yr Ysgolion a mynegwyd pob ffydd yn y Penaethiaid a’r
athrawon i fedru dehongli a chyfleu'r cod hwn
yn addas i oedran a datblygiad pob plentyn.
Cyfeiriwyd at
y Gyfundrefn Addysg Drochi sy’n weledigaeth newydd gan nodi bod cefnogaeth y
gyfundrefn drochi ar gael i bob Ysgol yn y Sir. Soniwyd am waith cyffrous ac
arloesol sydd wedi digwydd yng Ngwynedd fel y cynllun trochi newydd gafodd ei
ysgrifennu a’i ddatblygu yng Ngwynedd a fydd yn cael ei rannu yn genedlaethol.
Adroddwyd ar y drefn categoreiddio ysgolion ddaeth i rym ym mis Medi 2022 gan
nodi y bydd yr Adran Addysg yn gweithio gyda phob Ysgol sydd yn disgyn i
gategori 3 yn y Sir er mwyn sicrhau cynnydd priodol.
I glo mynegwyd
diolch i’r Adran Addysg ac yn arbennig i’r athrawon a holl staff yr Ysgolion
yng Ngwynedd am eu gwaith diflino mewn cyfnod heriol i sicrhau’r addysg gorau i
blant y Sir gan ofalu am eu hiechyd, diogelwch a’u lles a chyflawni ystod
anferth o waith.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Dymunwyd longyfarch yr Adran am eu
gwaith i uchafu lles plant a phobl ifanc ar draws y Sir.
·
Holiwyd am y Gwasanaeth GwE ac os fydd y
Cabinet yn debygol o dderbyn adborth o berfformiad GwE. Mynegwyd bod cyfeiriad
at GwE yn yr adroddiad ond bod GwE yn rhan o eitem flynyddol yr Adran Addysg yn
y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ac adroddir ar eu perfformiad yn y Pwyllgor
hwnnw.
· Ychwanegwyd bod bwriad dros ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13
Awdur: Garem Jackson