Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 19/01/2023 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (eitem 5)

5 DIWEDDARIAD BLYNYDDOLGAN Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL (GWYNEDD A MÔN). pdf eicon PDF 515 KB

I roi trosolwg i Aelodau o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) Gwynedd a Môn, Ionawr 2023 am y cyfnod 2020-21, a'r datblygiadau ar gyfer 2022-23.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd Meddwl ac Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn manylu ar y cyfnod 2021-22.

-      Eglurwyd bod y bartneriaeth wedi cael ei sefydlu ar ddyletswydd statudol Awdurdodau Lleol i weithio mewn partneriaeth gyda’r heddlu, Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a'r Gwasanaeth Tan ac Achub yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a Deddfau Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a 2006.

-      Esboniwyd bod y bartneriaeth yn edrych ar drosedd ac anrhefn, camddefnyddio sylweddau a lleihau aildroseddu.

-      Adroddwyd mai blaenoriaethau’r bartneriaeth ar gyfer y flwyddyn 2023-24 oedd atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, mynd i’r afael â throseddau treisgar a chyfundrefnau difrifol a hefyd i ddiogelu ac adeiladu cymunedau gwydn a chynnal diogelwch y cyhoedd.

-      Datganwyd bod y bartneriaeth wedi wynebu heriau dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn benodol, y bartneriaeth wedi colli ei holl grantiau gan eu bod wedi dod i ben neu wedi symud i lefel rhanbarthol (Gogledd Cymru gyfan). Yn ogystal, golygai datblygiadau technolegol bod mathau newydd o droseddau bellach wedi cyrraedd ardal Gwynedd a Môn. Er bod y siroedd hyn yn rhai o’r llefydd mwyaf diogel i fyw, roedd achosion o Gangiau Trosedd Cyfundrefnol (Organized Crime Groups) a llinellau cyffuriau (county lines) yn yr ardal gyda’r bartneriaeth yn ymwybodol ohonynt.

-      Manylwyd bod siopladradau wedi cynyddu 53.8% yng Ngwynedd o’i gymharu â 2021/22. Credid bod hyn yn deillio o’r cynnydd cyffredinol mewn costau byw a disgwylid i’r math yma o droseddu gynyddu yn y misoedd i ddod.

-      Darparwyd crynodeb o waith y bartneriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf:

o   Cynhaliwyd sesiynau hyfforddiant gan Uned Troseddau Economaidd yr Heddlu ar gyfer staff Awdurdodau Lleol  sy’n gweithio gyda phobl fregus i dynnu sylw at sgamiau â defnyddwyr gan dwyllwyr

o   Cwblhawyd prosiect Strydoedd Mwy Diogel 2 ym Mangor gan osod 42 o gamerâu cylch cyfyng ychwanegol a mwy o oleuadau yn ardal Hirael/Deiniol o’r ddinas.

o   Cyflwynwyd Grŵp SOC (Troseddau Cyfundrefnol Difrifol) ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn.

o   Mynychwyd y grŵp rhanbarthol yn rheolaidd i ddatblygu Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol yn y ddau Gyngor.

o   Sefydlwyd grŵp VAWG (Trais yn erbyn Menywod a Merched) ym mis Mawrth. Roedd y bartneriaeth yn mynychu cyfarfodydd yn gyson er mwyn rhoi mewnbwn i’r gwaith o feithrin hyder rhwng menywod a’r heddlu.

o   Datblygwyd  Grŵp Cyflawni Atal Rhanbarthol.

o   Derbyniodd Cyngor Gwynedd Achrediad Rhuban Gwyn yn dilyn gwaith yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol.

o   Ymgynghorwyd gyda’r heddlu i archwilio’r posibilrwydd o ymestyn darpariaeth bresennol y Cynllun Mannau Diogel.

-      Cadarnhawyd bod y prosiectau hyn oll yn parhau i redeg dros y flwyddyn nesaf a’r bartneriaeth am barhau i gefnogi holl gyfarfodydd a phrosiectau rhanbarthol. Roedd y bartneriaeth yn ymwybodol o argyfwng costau byw sy’n effeithio trigolion Gwynedd a Môn ac edrych i weld sut gall y bartneriaeth leihau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5