5 DIWEDDARIAD BLYNYDDOLGAN Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL (GWYNEDD A MÔN). PDF 515 KB
I roi trosolwg i Aelodau o
weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) Gwynedd a Môn, Ionawr 2023
am y cyfnod 2020-21, a'r datblygiadau ar gyfer 2022-23.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Oedolion, Iechyd a Llesiant, Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd
Meddwl ac Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a
Môn. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:
-
Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn manylu ar y cyfnod
2021-22.
-
Eglurwyd bod y
bartneriaeth wedi cael ei sefydlu ar ddyletswydd statudol Awdurdodau Lleol i
weithio mewn partneriaeth gyda’r heddlu, Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf
a'r Gwasanaeth Tan ac Achub yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a Deddfau
Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a 2006.
-
Esboniwyd bod y bartneriaeth yn edrych ar drosedd
ac anrhefn, camddefnyddio sylweddau a lleihau aildroseddu.
-
Adroddwyd mai
blaenoriaethau’r bartneriaeth ar gyfer y flwyddyn 2023-24 oedd atal troseddau
ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, mynd i’r afael â throseddau treisgar a
chyfundrefnau difrifol a hefyd i ddiogelu ac adeiladu cymunedau gwydn a chynnal
diogelwch y cyhoedd.
-
Datganwyd bod y
bartneriaeth wedi wynebu heriau dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn benodol, y
bartneriaeth wedi colli ei holl grantiau gan eu bod wedi dod i ben neu wedi
symud i lefel rhanbarthol (Gogledd Cymru gyfan). Yn ogystal, golygai
datblygiadau technolegol bod mathau newydd o droseddau bellach wedi cyrraedd
ardal Gwynedd a Môn. Er bod y siroedd hyn yn rhai o’r llefydd mwyaf diogel i
fyw, roedd achosion o Gangiau Trosedd Cyfundrefnol (Organized
Crime Groups) a
llinellau cyffuriau (county lines) yn yr ardal gyda’r bartneriaeth yn ymwybodol
ohonynt.
-
Manylwyd bod siopladradau wedi cynyddu 53.8% yng
Ngwynedd o’i gymharu â 2021/22. Credid bod hyn yn deillio o’r cynnydd
cyffredinol mewn costau byw a disgwylid i’r math yma o droseddu gynyddu yn y
misoedd i ddod.
-
Darparwyd crynodeb o
waith y bartneriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf:
o Cynhaliwyd sesiynau hyfforddiant gan Uned Troseddau Economaidd yr Heddlu
ar gyfer staff Awdurdodau Lleol sy’n gweithio
gyda phobl fregus i dynnu sylw at sgamiau â defnyddwyr gan dwyllwyr
o Cwblhawyd prosiect Strydoedd Mwy Diogel 2 ym Mangor gan osod 42 o
gamerâu cylch cyfyng ychwanegol a mwy o oleuadau yn ardal Hirael/Deiniol o’r
ddinas.
o Cyflwynwyd Grŵp SOC
(Troseddau Cyfundrefnol Difrifol) ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn.
o Mynychwyd y grŵp
rhanbarthol yn rheolaidd i ddatblygu Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol yn y
ddau Gyngor.
o Sefydlwyd grŵp VAWG (Trais yn erbyn Menywod a Merched) ym mis
Mawrth. Roedd y bartneriaeth yn mynychu cyfarfodydd yn gyson er mwyn rhoi
mewnbwn i’r gwaith o feithrin hyder rhwng menywod a’r heddlu.
o Datblygwyd Grŵp Cyflawni Atal Rhanbarthol.
o Derbyniodd Cyngor Gwynedd Achrediad Rhuban Gwyn yn dilyn gwaith yr Adran
Cefnogaeth Gorfforaethol.
o Ymgynghorwyd gyda’r
heddlu i archwilio’r posibilrwydd o ymestyn darpariaeth bresennol y Cynllun
Mannau Diogel.
- Cadarnhawyd bod y prosiectau hyn oll yn parhau i redeg dros y flwyddyn nesaf a’r bartneriaeth am barhau i gefnogi holl gyfarfodydd a phrosiectau rhanbarthol. Roedd y bartneriaeth yn ymwybodol o argyfwng costau byw sy’n effeithio trigolion Gwynedd a Môn ac edrych i weld sut gall y bartneriaeth leihau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5