7 TORRI GWAIR A CHYNNAL TIROEDD. PDF 243 KB
I adolygu
trefniadau cynnal ymylon ffordd Sirol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
(i)
Derbyn yr adroddiad,
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
(ii)
Gofyn i’r Adran
gyflwyno canlyniadau’r treialon a’r polisi torri gwair newydd i’r Pwyllgor pan
yn amserol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth
Gwynedd a Phennaeth Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:
-
Eglurwyd bod yr adroddiad
yn ddiweddariad ar drefniant torri gwair arfaethedig a gyflwynwyd i’r Pwyllgor
ym mis Ionawr 2022.
-
Adroddwyd bod treialon
torri a chasglu gwair yn y broses o gael eu cynnal er mwyn hybu anghenion bywyd
gwyllt a bioamrywiaeth. Ymhelaethwyd bod y gwaith o hadu’r ardaloedd yn y
treialon wedi ei gwblhau ym mis Hydref a byddai modd gweld os byddent wedi bod
yn llwyddiannus neu beidio o fis Ebrill 2023 ymlaen.
-
Datganwyd bod y treialon
wedi eu hariannu drwy dderbyn grantiau. Roedd y Cyngor wedi llwyddo i brynu
peiriannau torri a chasglu gwair gyda’r arian yma a gellir eu defnyddio yn y
dyfodol.
-
Cadarnhawyd byddai’r
treialon yn cael eu hyrwyddo o fewn stondin y Cyngor yn Eisteddfod Genedlaethol
Llŷn ac Eifionydd 2023 ym Moduan. Rhannwyd bod
ymwelwyr yr eisteddfod yn debygol o basio ardaloedd y treialon a gobeithid
byddai’r blodau gwyllt wedi tyfu erbyn hynny er mwyn iddynt sylweddoli ar y
gwahaniaeth. Gobeithir rhannu neges bositif a chadarnhaol am y treialon i’r
cyhoedd a bod y system newydd am arbed arian.
-
Pwysleisiwyd fod iechyd
a diogelwch yn ystyriaeth bwysig iawn o fewn y treialon a ni fyddai ystyriaeth
i ychwanegu unrhyw ardal i’r treialon os byddai’n amharu’n negyddol ar iechyd a
diogelwch.
-
Diolchwyd i’r Adran Amgylchedd
am gydweithio mor agos gyda’r Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol ar y treialon
hyn.
-
Mynegwyd bod cytundeb
newydd gyda’r gwasanaeth torri gwair yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ar
gyfer y tymor tyfu nesaf. Cadarnhawyd fod modd i’w ddiwygio yn dilyn canlyniad
y treialon pan fyddai’r polisi newydd wedi cael ei ddatblygu.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:
Gofynnwyd a oedd problemau yn debygol o godi
yn deillio o’r ffaith ni fyddai’r polisi
yn barod cyn i’r cytundeb fod yn ei le.
-
Mewn ymateb i’r ymholiad,
nododd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol na fyddai hyn yn broblem gan
fod darpariaeth yn cael ei rhoi o fewn y cytundebau er mwyn caniatáu newidiadau
o’r fath.
Nodwyd bod y Pwyllgor wedi ystyried adroddiad
ar y mater yma yng nghyfarfod 13 Ionawr 2022. Holwyd am yr amserlen o ran
mabwysiadu polisi newydd. Mewn ymateb i’r
ymholiad, nododd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol nad oedd y polisi
wedi ei ddatblygu hyd yma oherwydd y tymhorau llawn oedd eu hangen ar gyfer y
treialon. Eglurodd bod paratoadau ar gyfer y treialon wedi cael eu gwneud ar
ddiwedd y cyfnod tyfu diwethaf. Cadarnhaodd ei fod yn bwysig i’r adran asesu
sut roedd y treialon yn mynd yn eu blaen cyn creu polisi. Nododd o ganlyniad
byddai modd datblygu’r polisi erbyn Medi/Hydref 2023.
Yn dilyn yr ymateb, ystyriwyd gwahodd yr Adran
yn ôl i gyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau tua mis Rhagfyr 2023.
Holwyd os byddai trafferthion i’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7