6 CYNLLUN FFORDD GWYNEDD 2023-28 PDF 119 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd mabwysiadu’r Cynllun am y pum mlynedd nesaf
(Atodiad 1) sydd yn adeiladu ar ddatblygiad y diwylliant gwaith o fewn y
Cyngor.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd mabwysiadu’r Cynllun
am y pum mlynedd nesaf (Atodiad 1) sydd yn adeiladu ar ddatblygiad y diwylliant
gwaith o fewn y Cyngor.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan egluro mai “Ffordd Gwynedd” yw cyfeiriad at y ffordd o weithio
sydd wedi ei fabwysiadu oddi fewn i’r Cyngor er mwyn rhoi pobl Gwynedd yn
ganolog i bopeth. Nodwyd ei fod yn weithredol bellach ers 2015 pan mabwysiadwyd
y Cynllun yn wreiddiol a bod y Prif Weithredwr blaenorol wedi bod yn bencampwr
Ffordd Gwynedd. Ychwanegwyd bod y Prif Weithredwr presennol hefyd yn dymuno
datblygu Ffordd Gwynedd ymhellach.
Nodwyd ei bod yn daith i geisio gwireddu’r diwylliant hwn a cydnabuwyd
bod y cyfnod Cofid wedi arafu’r cynnydd a wnaed. Diolchwyd i’r Prif Weithredwr
a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Geraint Owen, am eu harweiniad a’u brwdfrydedd.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod yr adolygiad diweddaraf o
Gynllun Ffordd Gwynedd wedi ei gynnal yn 2019 ble cymeradwywyd y Cynllun
presennol. Credwyd ei bod yn amserol i ddiweddaru, addasu a gwella’r Cynllun.
Adroddwyd bod
Adrannau’r Cyngor wedi cynnal hunanasesiad o’u cynnydd fel sail i’r adolygiad
diweddaraf a bod yr hunanasesiadau yma wedi cael eu herio gan weithgor o
aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Nodwyd bod y casgliadau a’r
argymhellion wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis
Hydref 2022.
I gloi, cyflwynwyd
Cynllun arfaethedig ar gyfer y pum mlynedd nesaf sydd yn crynhoi'r hyn sydd
wedi ei gyflawni hyd yma ac yn adnabod y prif faterion ar gyfer y cyfnod
2023-28. Mynegwyd bod 9 is-ffrwd gwaith wedi eu cyflwyno yn y Cynllun sydd i’w
gweld yn atodiad 1 o’r Adroddiad.
Cyfleodd y Prif
Weithredwr ei ddiolchiadau i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am arwain ar y gwaith
yma yn ogystal â’r gweithgor. Ychwanegwyd bod y Cynllun yn adlewyrchu ar wersi
a rhwystrau’r gorffennol gan barhau efo’r egwyddor sylfaenol o geisio dod o hyd
i ffyrdd gwell o ddarparu'r hyn mae pobl Gwynedd ei angen.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
¾ Gofynnwyd sut
mae’r Cynllun hwn yn cyd-fynd â chydraddoldeb ac yn sicrhau tegwch i bobl
Gwynedd sydd yn ganolog i ddiwylliant y Cyngor.
¾ Mewn ymateb nodwyd bod popeth sydd wedi ei gynnwys yng Nghynllun Ffordd
Gwynedd wedi ei ystyried yng nghyd-destun cydraddoldeb. Nodwyd mai un o
flaenoriaethau gwella penodol y Cyngor yw Merched Mewn Arweinyddiaeth sydd yn
rhan bwysig o’r Cynllun hwn. Nodwyd bod cydraddoldeb ac Iaith yn prif ffrydio
trwy holl weithgaredd y Cynllun ac yn rhan o ddiwylliant y Cyngor sydd wedi
datblygu dros nifer o flynyddoedd. Mynegwyd balchder o allu cefnogi a hyrwyddo
hyn.
¾ Mynegodd un o’r Aelodau Cabinet ei fod wedi bod yn rhan o weithgor nifer o
flynyddoedd yn ôl oedd yn edrych ar Ffordd Gwynedd a'i fod yn credu’n gryf yn y
ffordd yma o weithio. Ategwyd bod angen edrych ar bopeth drwy lygaid pobl
Gwynedd.
¾ Croesawyd edrych
ar brosesau byr a gwneud gwelliannau iddynt.
¾ Holwyd am weithio’n drawsadrannol neu gyda phartneriaid allanol gan wneud sylw y gall hyn fod yn drwsgl o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6
Awdur: Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol