I gyflwyno Gwybodaeth arm drefniadau
i sicrhau cymunedau glan a thaclus.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd,
Pennaeth Adran Priffyrdd Peirianneg ac Ymgynghoriaeth
Gwynedd a’r Pennaeth Cynorthwyol. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau
canlynol:
-
Eglurwyd bod y gwasanaeth glanhau strydoedd yn weithredol ar bob safle
ffordd gyhoeddus a ffordd fabwysiedig gan y Cyngor. Mae’r rhain wedi cael eu
rhannu i barthau yn unol â’u defnydd:
o Parthau dwysedd defnydd uchel – canol trefi yn bennaf
o Parthau dwysedd defnydd canolig – ardaloedd preswyl yn bennaf
o Parthau dwysedd defnydd canolig – ardaloedd llai dwys megis ffyrdd Sirol
gwledig.
-
Cadarnhawyd bod y
gwasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff wedi trosglwyddo i’r Adran Amgylchedd
yn ddiweddar ac mae hyn wedi rhoi cyfle i swyddogion ail edrych ar sut mae’r
ddarpariaeth yn cael ei gyflwyno. Mae’r gwasanaeth tacluso yn parhau o dan
reolaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth
Gwynedd.
-
Eglurwyd bod adolygiad o’r gwasanaeth wedi cael ei gynnal. Yn
gyffredinol, cydnabuwyd bod gwaith y gwasanaeth yn dda iawn ond mae materion
cyllidol ac iechyd a diogelwch i’w cyfarch.
Adroddwyd bod amserlen wedi ei osod ar gyfer cyfarch cylchdeithiau yn y
dull mwyaf effeithlon erbyn diwedd yr haf.
-
Manylwyd bod ‘Cadw
Cymru'n Daclus’ yn cynnal arolwg annibynnol blynyddol ar lendid strydoedd.
-
Esboniwyd bod yr adran
yn cynnal treialon biniau clyfar. Mae 5 bin o fewn y treial ac maent yn
defnyddio ynni solar a thechnoleg fodern i wneud cais i’w wagio yn awtomatig
i’r adran pan maent yn llawn.
-
Trafodwyd bod addysgu
plant a phobl Gwynedd, yn ogystal ,â chodi ymwybyddiaeth o effeithiau ysbwriel,
yn rhan o broses newid ymddygiad er mwyn cyflawni buddion amgylcheddol yn y
tymor hir.
-
Adroddwyd ar fwriad yr Adran i gyfuno gwasanaethau glanhau stryd,
elfennau gorfodaeth a'r timau tacluso i un gwasanaeth newydd o’r enw Edrychiad
Stryd.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:
Mewn ymateb i ymholiadau gan aelodau,
cadarnhaodd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth
Gwynedd bod timau gorfodaeth yn wynebu trafferthion capasiti
ar hyn o bryd sy’n arwain at oediad mewn gosod biniau baw cŵn newydd ar ôl
i’r adran dderbyn ceisiadau. Er hyn, cadarnhawyd bod y Timau Tacluso yn anelu i
ddosbarthu biniau mor fuan â phosibl gan gadarnhau mai cyfanswm cyfyngedig o
finiau sydd yn cael eu cadw ym meddiant y Cyngor.
Nododd aelod bod rhai unigolion yn taflu
sbwriel allan o’u ceir. Holodd a fyddai’n bosib bod yn fwy rhagweithiol yn y
llefydd roedd hyn yn broblem gyson e.e. cilfannau.
Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Adran y gellir edrych ar y lleoliad a
grybwyllwyd gan yr aelod i dreialu trefniant o’r fath.
Holodd aelod os oedd cymhariaeth o’r costau
ynghlwm â chlirio sbwriel a gwagio bin wedi ei wneud. Mewn ymateb, nododd y
Pennaeth Adran ei fod yn fater i’w gynnwys fel rhan o’r adolygiad.
Mewn ymateb i ymholiad ar y sialensiau o atal llygredd, nododd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd bod bwriad i benodi Swyddog ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6