Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown
Ystyried adroddiad ar yr uchod.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Cofnod:
Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg a
swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg, ar gais y pwyllgor, yn cyflwyno gwybodaeth gefndirol am weledigaeth y
gyfundrefn addysg drochi, ynghyd â darparu atebion i gwestiynau a dderbyniwyd
ymlaen llaw gan y craffwyr ynglŷn â threfniadau’r ddarpariaeth addysg
drochi yng Ngwynedd.
Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan
nodi fod y ddau gynllun yn ardal Bangor, sef Prosiect Trochi Cyfnod Sylfaen
Dalgylch Bangor a Phecyn Cefnogi Dysgwyr Blynyddoedd 5 a 6 i’w hannog i ddewis
dilyn llwybr Addysg Gymraeg wrth drosglwyddo i’r Uwchradd yn nalgylch Bangor,
yn ddarnau o waith pwysig a phellgyrhaeddol i blant yr ardal honno. Mynegodd ei hedmygedd o’r gwaith yn y
canolfannau iaith, a diolchodd yn swyddogol i’r staff am y gwaith.
Dangoswyd fideo byr i’r aelodau yn rhoi blas
o’r Cynllun ABERWLA.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Holwyd ar ba sail y daethpwyd i’r casgliad
ei bod yn llesol i beidio trochi plant yn gynnar, ac awgrymwyd bod dod â’r
plant sy’n cael eu trochi yn ôl i’r fam ysgol am ddiwrnod bob wythnos yn
dadwneud y trochi sy’n digwydd yn y ganolfan iaith am y 4 diwrnod arall.
Mewn ymateb nodwyd:-
·
Bod
pennaeth ar y fideo ABERWLA yn sôn am fanteision amlwg cael y plant yn
dychwelyd i’r fam ysgol am ddiwrnod yr wythnos.
·
Bod
y pandemig wedi amlygu pwysigrwydd lles, gan fod plant wedi bod am gyfnodau hir
heb gael cymysgu â’u cyfoedion. Casglwyd
y byddai’n syniad da i’r plant sy’n cael eu trochi gael y cyfle i ddal i fyny
â’u cyfoedion yn yr ysgolion ar un diwrnod o’r wythnos, ac roedd y trochi’n
digwydd mewn cyd-destun gwahanol i raddau yn y fam ysgol, a hynny wedyn yn
gynyddol wrth i’r plentyn fynd drwy’r drefn.
·
Bod
penaethiaid uwchradd bellach yn adrodd ei bod yn haws perswadio rhieni i anfon
eu plant i ganolfannau trochi oherwydd bod y plant hynny yn cadw rhywfaint o
gyswllt hefo’u cyfoedion.
·
Mai
prosiect newydd yw’r 5ed diwrnod yn yr ysgol, ac yn ogystal â’r manteision yng
nghyd-destun llesiant, bod yna fanteision addysgiadol hefyd.
·
Bod
y berthynas rhwng staff yr ysgolion a staff y canolfannau sy’n mynychu’r fam
ysgol yn wythnosol wedi cryfhau ymhellach o ganlyniad i rannu arferion trochi,
rhannu adnoddau a thrafod sut i oresgyn unrhyw heriau mae’r plant yn wynebu yn
ôl yn yr ysgol.
·
Bod
yr ymweliadau â’r fam ysgol yn amrywio, gyda rhai athrawon yn dymuno i staff y
ganolfan aros yn y dosbarth i gefnogi’r gweithgarwch. Roedd hynny’n annog trafodaeth ar gyrchu
dulliau trochi effeithiol, ac roedd yna sefyllfaoedd hefyd lle mae plant yn
derbyn sylw un i un, neu mewn grŵp bychan, a bod y plant eraill yn elwa
o’r profiad hefyd.
·
Er
y manteision, y cydnabyddid bod yna heriau hefyd, ac wrth ddod i ddiwedd tymor
cyntaf y drefn newydd, bwriedid casglu barn rhanddeiliaid, gan bwyso a mesur a
gwerthuso’r drefn newydd, ac adolygu’r trefniadau os oes angen.
· Bod dau riant sydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6