Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/03/2023 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi (eitem 5)

5 CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD CHWARTER 3 2022-23 pdf eicon PDF 124 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Arweinydd a swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Arweinydd ar berfformiad Chwarter 3 2022-23 Cynllun Twf Gogledd Cymru, yn unol â chais y pwyllgor.

 

Gosododd yr Arweinydd y cyd-destun drwy gyflwyno diweddariad byr ar waith y Cynllun Twf, rhywfaint o’r cefndir i sefydlu Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ynghyd â manylion y gwahanol gynlluniau sy’n berthnasol i Wynedd.  Yna rhoddodd y Pennaeth Gweithrediadau drosolwg o’r Cynllun Twf a phrif uchafbwyntiau 2022-23.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Holwyd sut y bwriadai’r Bwrdd Uchelgais ffurfio polisi iaith ar gyfer prosiect Trawsfynydd er mwyn sicrhau na fydd y datblygiad a’r gweithlu yn Seisnigeiddio’r ardal.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod hwn yn brosiect sy’n llwyr ddibynnol ar fuddsoddiad Llywodraeth y DG, ac nad oedd yna unrhyw bendantrwydd ynglŷn â hynny.

·         O safbwynt polisi iaith, y byddai cwmni Egino yn cynnal gweithdy yn fuan i edrych ar y buddion cymdeithasol, gan gynnwys y buddion ieithyddol.

 

Nodwyd mai’r risg mwyaf o ran cyflawni amcanion y Cynllun Twf yw sicrhau buddsoddiad sector gyhoeddus a phreifat, a holwyd pa gamau y bwriedid eu cymryd petai capasiti’r sectorau hynny i fuddsoddi yn lleihau dros y blynyddoedd nesaf oherwydd y sefyllfa ariannol sydd ohoni.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod amgylchiadau economaidd wedi newid yn ddirfawr ers i’r Cynllun Twf gael ei gytuno yn 2020, a bod yr argyfwng ariannol yn her sy’n cael ei osod o’n blaenau yn gyson lle mae cyfraniad gan y sector breifat.

·         Bod y Bwrdd Cyflawni Busnes, sydd â chynrychiolwyr o’r sector breifat, yn cyfarfod i drafod prosiectau yn gyson, dan arweiniad Askar Sheibani, sy’n rhedeg ei fusnes digidol rhyngwladol ei hun ac sy’n hynod frwdfrydig dros Ogledd Cymru gyfan.

·         Mai’r unig sicrwydd y gellid ei roi ar hyn o bryd oedd bod hwn yn fater sy’n cael sylw, a chredid bod yna awydd ymysg y sector breifat i fuddsoddi, cyhyd â bod yr amgylchiadau’n iawn.

·         Bod Swyddfa Rhaglen Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda’r sector breifat ar brosiectau penodol, a bod y sector yn edrych i fuddsoddi ar hyn o bryd. 

·         Y cydnabyddid bod risg y gallai’r capasiti i fuddsoddi newid dros y blynyddoedd i ddod, ac roedd y Swyddfa Rhaglen yn gweithio’n agos iawn gyda’r 2 Lywodraeth ar hyn.  O bosib’ y byddai angen mwy o fuddsoddiad sector gyhoeddus petai’r buddsoddiad sector preifat ddim yna, ond ar hyn o bryd, roedd y sefyllfa’n edrych yn weddol bositif.

·         Bod y Swyddfa Rhaglen yn datblygu strategaeth gyda’r Bwrdd Cyflawni Busnes i sicrhau bod modd dod â’r strategaeth yma ymlaen, ac un o’r pethau penodol a wnaethpwyd fel rhan o’r galw am brosiectau newydd i’r gronfa £30m oedd rhoi pwyslais cryf ar allu busnesau i fuddsoddi fel rhan o’r broses yma.

·         Bod hyn yn ganran fawr o beth fydd yr asesiad fel bod modd sicrhau bod unrhyw brosiectau sy’n dod ymlaen yn gallu symud yn gyflym i gyflawni.  Gobeithid y byddai hynny’n lleihau rhai o’r risgiau, ond y risg mwyaf i allu cyflawni buddion y Cynllun Twf  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5