4 DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 199 KB
I ystyried
a) adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau
b) adroddiad gan yr Harbwrfeistr
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodi a derbyn yr
adroddiad.
Cofnod:
Croesawyd pawb i’r cyfarfod, a nodwyd
bod nifer yn mynychu am y tro cyntaf, a chymerwyd y cyfle i bawb gyflwyno eu
hunain. Yn ychwanegol, nodwyd bod nifer
i ffwrdd yn sâl a chytunwyd i ddanfon neges i ddymuno gwellhad buan iddynt.
Yn sgil absenoldeb salwch yr Uwch
Swyddog Harbyrau, cyflwynwyd yr adroddiad gan y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol. Cymerodd y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol y cyfle i atgoffa y Pwyllgor bod Barry Davies, y
cyn-Reolwr Gwasanaeth Morwrol yn ymddeol ar y 31/3/23 ar ôl 27 mlynedd o
wasanaeth i’r Cyngor. Diolchwyd yn fawr
i Barry Davies am ei waith a’i arweiniad.
Angorfeydd Abermaw a Chofrestru Cychod
Cadarnhawyd bod gwaith cynnal a chadw wedi ei wneud ar yr
angorfeydd ‘trots’ a bod cyflwr yr offer yn
dderbyniol. Mae Contractwr Angori Lleol
wedi cadarnhau bod 2 allan o 3 angorfa ymwelwyr wedi eu codi oherwydd eu bod yn
sefyll ar fanc tywod ond bod y contractwr wedi cael trafferth gyda chodi yr angoraf
agosaf at y bont rheilffordd.
Mae y drefn o gofrestru badau pŵer
ar-lein yn weithredol erbyn hyn, sydd o gymorth mawr gyda rheoliadau GDPR. Cadarnhawyd bod y problemau cychwynnol wedi
eu datrys a’r drefn yn gyffredinol yn gweithio yn esmwyth.
Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd
Cyfeiriwyd at y Ddeddf Newydd ar gyfer
Badau Pŵer sydd yn weithredol o 31/3/23 sef y 'Merchant Shipping (Watercraft) Order 2023', gan nodi
bod angen arweiniad pellach, er bod cyfarfod cychwynnol gyda’r Heddlu wedi
cymryd lle.
Cadarnhawyd bod yr Uwch Swyddog Harbyrau yn arwain ar y Cod Diogelwch, a bod gwaith gwella
wedi ei wneud i sicrhau bod yr Harbwr mor ddiogel â phosib, mewn cydweithrediad
a Chapten Matt Forbes,
Harbwrfeistr Conwy.
Materion Staffio
Adroddwyd bod Kane A Triggs wedi ei
benodi yn Harbwrfeistr Cynorthwyol ac fe’i croesawyd
i’w gyfarfod cyntaf. Cadarnhawyd y
bwriad i benodi pum swyddog traeth, gyda dau o’r rhain yn cychwyn cyn y
Sulgwyn, ac y bydd swyddogion yn parhau gyda y gwaith cynnal a chadw, ond nad oedd
bwriad cyflogi rhagor yn yr Harbwr.
Gwahoddwyd Aelodau i gynnig sylwadau ar
yr uchod, a nodwyd fel a ganlyn :
Mae y sustem cofrestru ar-lein yn weithredol ac unrhyw
bryderon wedi eu datrys.
Mae cais wedi dod i Swyddogion Traeth Tymhorol dderbyn hyfforddiant cymorth cyntaf gwell. Ymhelaethwyd nad oedd amser i hyfforddi yn ddigonol flwyddyn ddiwethaf, er cyn y cyfnod Covid roedd cymorth cyntaf uwch yn rhan o’r anwytho, ac mae hwn yn rhywbeth sydd wedi llithro, ond bod bwriad trefnu hyfforddiant flwyddyn yma. Nodwyd bod yr Heddlu a Chymdeithas y Bad Achub hefyd wedi codi yr un pwynt. Adroddwyd bod cydweithredu da ar y traethau gyda Gwylwyr y Glannau, y Bad Achub a’r Heddlu a bod pawb yn werthfawrogol o’i gilydd. Atgyfnerthodd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned y sylw am y newid mewn Deddfwriaeth ar gyfer Badau Dwr personol, yn enwedig y pryder nad oeddynt yn disgyn i’r categori cychod, a chadarnhaodd eu bod yn parhau i ddisgwyl canllawiau ac y bydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4