7 YNNI LLEOL BLAENGAR - ACHOS BUSNES AMLINELLOL PDF 586 KB
Elgan
Roberts, Rheolwr Prosiect Ynni, i gyflwyno’r adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1.
Bod
y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Ynni Lleol
Blaengar ac, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a'r DU o'r broses
sicrwydd yr ymgymerwyd â hi a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rhoi sylw i'r
materion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, bod cais Adran 7 yn cael ei wneud i
baratoi Achos Busnes Llawn i'r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau'r broses
gaffael a'r broses ganiatâd.
2.
Bod
y Bwrdd yn dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd
a'r Is-gadeirydd, gymeradwyaeth derfynol o'r fanyleb gaffael a'r meini prawf
gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael.
3.
Bod
y Bwrdd yn nodi y bydd y trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect yn
cael eu cytuno ar y cam Achos Busnes Llawn ac yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro'r Awdurdod
Lletya i gytuno ar y telerau drafft i'w cymeradwyo gan y Bwrdd.
Cofnod:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) ychydig eiriau ar y
cychwyn. Nododd:-
·
Bod
y prosiect cyffrous hwn yn rhan o gais gwreiddiol y Bwrdd, a’i bod yn braf
adrodd fod y cynllun wedi aeddfedu’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, a’n
bod wedi dod â llawer o’n rhanddeiliaid gyda ni ar y siwrnai.
·
Bod
hwn yn gynllun er mwyn cefnogi’r rhanbarth cyfan, lle'r oedd yna lefydd
gweigion o ran ariannu, cefnogi ynni blaengar yn y gymuned, a chynlluniau mwy
uchelgeisiol o bosib’ hefyd.
·
Y
gobeithid bod yr aelodau hynny nad ydynt ar yr Bwrdd Rhaglen Ynni yn gallu
gweld bod yna weledigaeth yma, bod yna bryniant i mewn gan nifer o bartneriaid,
a hefyd bod cyfle yma i wneud gwahaniaeth ar y lefel gymunedol ac ar y lefel
ranbarthol.
·
Y
derbynnid bod yna rai risgiau ynghlwm â’r prosiect, ond er mwyn gosod
uchelgais, bod rhaid cael ychydig o risg hefyd.
Yna manylodd Henry
Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) ar gyd-destun a hanes y prosiect, gan ddarparu
amlinelliad o’r broses sicrwydd, a cyflwynodd Elgan Roberts (Rheolwr Prosiect
Ynni) fwy o fanylion ynglŷn â’r prosiect.
PENDERFYNWYD
1.
Bod y Bwrdd yn
cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Ynni Lleol Blaengar
ac, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a'r DU o'r broses sicrwydd
yr ymgymerwyd â hi a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rhoi sylw i'r materion
sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, bod cais Adran 7 yn cael ei wneud i baratoi
Achos Busnes Llawn i'r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau'r broses gaffael a'r
broses ganiatâd.
2.
Bod y Bwrdd yn
dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r
Is-gadeirydd, gymeradwyaeth derfynol o'r fanyleb gaffael a'r meini prawf gwerth
cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael.
3.
Bod y Bwrdd yn nodi y
bydd y trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect yn cael eu cytuno ar y
cam Achos Busnes Llawn ac yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn
ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro'r Awdurdod Lletya i gytuno
ar y telerau drafft i'w cymeradwyo gan y Bwrdd.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Ceisio
cymeradwyaeth y Bwrdd i Achos Busnes Amlinellol (OBC) y prosiect Ynni Lleol
Blaengar.
TRAFODAETH
Diolchodd y
Cadeirydd i’r Tîm am y gwaith cefndirol hynod fanwl, a nododd fod hwn yn
brosiect cyffrous iawn fydd yn cyffwrdd yn uniongyrchol â’n cymunedau ar draws
y Gogledd yn ogystal â bod yn weledol i’n trigolion.
Holwyd pam bod yr
adroddiad yn cyfeirio at greu 156-193 o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru yn
gysylltiedig â chyflawni a gweithredu datrysiadau ynni glân, gan i ni nodi’n
flaenorol ein dymuniad i greu 2,400 o swyddi newydd drwy’r broses hon. Mewn ymateb, eglurwyd:-
·
Bod
y swyddi yn yr Achos Busnes Amlinellol yn seiliedig ar yr hyn a gafodd ei
fodelu yn achos busnes y Rhaglen, felly roedd y targedau hynny wedi’u cario
ymlaen ac yn cynnwys swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol yn y gadwyn
gyflenwi.
· Bod y modelu economaidd ar gyfer yr Achos Busnes Amlinellol yn seiliedig ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7