12 Cais Rhif C23/0148/17/LL Uwchlaw'r Rhos, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7UE PDF 438 KB
Adeiladu tŷ menter
gwledig a gwaith cysylltiol.
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Arwyn Herald Roberts
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu yn groes i’r
argymhelliad. O ganlyniad, bydd y cais yn cael ei gyfeirio at gyfnod o gnoi cil
cyn dychwelyd i’r Pwyllgor am benderfyniad terfynol.
Cofnod:
Adeiladu tŷ menter wledig a gwaith cysylltiol
a) Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd
i adeiladu tŷ menter wledig ynghyd a gwaith cysylltiol. Byddai'r tŷ ar ffurf byngalo
gromen ac yn mesur 115 medr sgwâr ac yn cynnwys
porth, swyddfa, toiled, ystafell amlbwrpas, ystafell eistedd ystafell fwyta a chegin ar lefel
daear a 3 ystafell wely a baddon ar
y llawr cyntaf.
Disgrifiwyd
y fferm fel un sydd yn ymestyn
i 84ha; yr ymgeisydd yn berchen ar
59ha ac yn rhentu 24.3 ar denantiaeth hir gyda 84ha yn cael
ei ddefnyddio fel porfa, 20ha ar gyfer silwair
(un toriad) a 8ha ar gyfer silwair
(dau doriad) ac yn cael ei
ddefnyddio fel porfa. Mae’r fferm
yn cynnwys 118 o wartheg gyda lloeau,
120 o ddefaid, a 4 hwch a
12 bau a 27 o foch bach. Mae’r ymgeisydd
hefyd mewn partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer pori
1,618ha dir comin.
Cyflwynwyd
Datganiad Cynllunio, cyfrifon
y busnes, fel rhan o’r cais.
Cyflwynwyd
y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr aelod Lleol
Amlygwyd y byddai’r safle y tu hwnt i
iard y fferm a thu allan i
unrhyw ffin datblygu fel y diffinnir gan Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl) gyda pholisi
PCYFF 1 yn datgan, tu allan i
ffiniau datblygu bydd cynigion yn
cael ei gwrthod
oni bai eu bod yn unol â pholisïau
eraill o fewn y cynllun datblygu lleol, polisïau cenedlaethol neu fod y cynnig yn dangos
bod ei lleoliad yng nghefn gwlad
yn hanfodol. Ategwyd, yn sgil
yr angen i gynnal a gwarchod cefn gwlad bod angen cyfiawnhad arbennig iawn dros
ganiatáu adeiladu tai newydd yno ac felly dim ond mewn amgylchiadau
arbennig y caniateir tai newydd yng nghefn
gwlad. Bydd yr amgylchiadau arbennig hynny yn cael
eu cynnwys yn Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy - Gorffennaf 2010 (NCT6) a baratowyd
gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ynglŷn â’r ddogfen Arweiniad
Ymarferol ar ei gyfer.
Cyfeiriwyd at baragraff 4.3.1 o TAN6, sy’n amlygu mai
un o’r ychydig sefyllfaoedd lle gellir cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd ar ei
ben ei hun yng nghefn gwlad
agored yw pan fo angen llety
i alluogi gweithwyr menter wledig i fyw
yn eu man gwaith neu’n agos
ato. Bydd p’un a yw
hyn yn hanfodol
ai peidio mewn unrhyw achos penodol
yn dibynnu ar anghenion y fenter wledig dan sylw, ac nid ar
ddewis nac amgylchiadau personol unrhyw un o’r unigolion
cysylltiedig. Mae TAN 6 hefyd
yn nodi y dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol asesu ceisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer anheddau
mentrau gwledig newydd yn ofalus
i sicrhau y gellir cyfiawnhau gwyro oddi wrth
y polisi arferol o gyfyngu ar ddatblygiad
nghefn gwlad agored drwy gyfeirio
at dystiolaeth ategol gadarn.
Datgan yr ymgeisydd bod y busnes wedi ei bodoli ers dros 3 mlynedd. Cyflwynwyd cyfrifon busnes ar gyfer y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12