5 CAIS AMRYWIO TRWYDDED EIDDO NEW HORIZONS, PARC CARAFANAU SUNNYSANDS, TAL Y BONT, GWYNEDD PDF 420 KB
NEW HORIZONS, PARC CARAFANAU SUNNYSANDS, TAL Y BONT, GWYNEDD LL43 2LQ
I ystyried
y cais
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
CANIATAU y cais yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003.
Ymgorffori'r
materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau
ar y drwydded.
Ymgorffori'r
amodau a argymhellwyd gan yr Heddlu fel amodau i’r drwydded.
Cofnod:
Eraill a wahoddwyd:
Elizabeth
Williams (Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru)
Ryan Rothwell (Cynrychiolydd yr ymgeisydd)
Cyng. Eryl Jones-Williams (Aelod Lleol)
Croesawodd y Cadeirydd
bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywiad trwydded eiddo gan
gwmni New Horizons mewn perthynas ag ymestyn yr oriau Alcohol, oriau
Cerddoriaeth Fyw ac wedi ei Recordio. Amlygwyd bod y drwydded bresennol yn
caniatáu Gweithgareddau Trwyddedig hyd 11yh dydd Sul - Sadwrn, a bod yr
ymgeisydd yn cynnig amodau diwygiedig i ymestyn o 11yh i 2yb. Byddai’r
gerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio ond yn digwydd dan do.
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol.
Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod gwrthwynebiad
i’r cais wedi ei dderbyn gan breswylydd cyfagos oedd yn pryderu am gynnydd swn
o’r safle ac y byddai ehangu’r oriau yn newid naws deuluol y parc. Roedd Heddlu
Gogledd Cymru wedi cyflwyno sylwadau oedd yn cynnwys argymell amodau TCC,
Polisi Her 25 ac nad oedd hawl i blant fod ar yr eiddo wedi 23:00.
Nodwyd bod yr
Heddlu wedi ymweld a’r safle a cadarnhaodd yr ymgeisydd dros e-bost y byddai
holl awgrymiadau’r Heddlu yn cael eu cynnwys yn rhaglen weithredol y drwydded
newydd os byddai’r cais yn cael ei ganiatau gan yr Is-bwyllgor.
Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell cymeradwyo’r cais yn unol â sylwadau’r Heddlu a gofynion
Deddf Trwyddedu 2003.
Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor.
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.
·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion
·
Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd
·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig
·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu
hachos.
b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr
ymgeisydd:
·
Bod y Parc Gwyliau wedi cydweithio gyda’r Heddlu
·
Mai dim ond un gwrthwynebiad oeddd wedi dod i law
·
Bod perchnogion yn gwisgo band garddwrn ar gyfer
mynediad
·
Bydd goruchwylwyr drysau yn aros hyd nes bydd
popeth wedi cau lawr
c)
Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y
cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.
Cyng. Eryl Jones
Williams (Aelod Lleol)
·
Ei fod yn pryderu bod yr eiddo yn mynd i fod ar
agor i’r cyhoedd
·
Bod angen sicrhau bod goruchwylwyr drysau ar gael a
bod mesurau diogelwch
yn eu lle
Elizabeth Williams
(Heddlu Gogledd Cymru)
·
Bod cytundeb i ymestyn oriau caniatáu plant i mewn
i’r eiddo o 23:00 i 23:30
·
Bod yr Heddlu wedi eu galw i’r Parc i ymdrin ag
achosion domestig ac nid at faterion yn ymwneud a’r eiddo trwyddedig