4 CAIS AMRYWIO TRWYDDED EIDDO - PARC GWYLIAU BRYNTEG, LLANRUG, GWYNEDD, LL55 4RF PDF 374 KB
PARC
GWYLIAU BRYNTEG, LLANRUG, GWYNEDD, LL55 4RF
I ystyried
y cais
Penderfyniad:
CANIATAU y cais yn
unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003.
·
Bod bocsio a reslo fel gweithgareddau trwyddedig
i'w dileu o'r cais.
·
Bod cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi'i
recordio i'w chwarae dan do yn unig.
·
Ni fydd unrhyw wastraff neu ddeunyddiau
ailgylchadwy, gan gynnwys poteli, yn cael eu symud neu eu gosod mewn unrhyw
ardal allanol rhwng 23:00 a 08:00 y diwrnod canlynol. [I ddisodli’r amod
presennol o dan ‘Niwsans Cyhoeddus’]
·
Bydd yr holl ffenestri a drysau (gan gynnwys drysau
deublyg) yn cael eu cadw ar gau ar ôl 23:00 pan fydd Adloniant Rheoledig yn
digwydd, ac eithrio mynediad ac allanfa uniongyrchol pobl.
·
Bydd rhif ffôn ar gael yn ystod y ddarpariaeth
Adloniant Rheoledig i'r bobl hynny sydd wedi cyflwyno sylwadau yn erbyn
amrywio'r Drwydded Eiddo.
Nodyn:
Cynllun
llawr wedi'i ddiweddaru o ardal gweithgareddau trwyddedu awyr agored i'w
gyflwyno
Cofnod:
Eraill a wahoddwyd:
Elizabeth
Williams (Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru)
Mr
Jonathan Smith (Cynrychiolydd Park Holidays UK)
Mr
John Flack (Pennaeth Adloniant Park Holidays UK)
Mr Gavin Cox (Rheolwr Cyffredinol Bryn Teg)
Cynghorydd
Berwyn Parry Jones (Aelod Lleol)
Fiona
Zinovieff (Preswylydd Lleol)
Ffion
Muscroft (Swyddog Gwarchod y Cyhoedd)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywiad trwydded eiddo gan
gwmni Park Holidays Ltd mewn perthynas a cheiso’r hawl i wneud newidiadau i gynllun lleoliad ardal
drwyddedig Bar y Lolfa a’r ardal fwyta. Yn ogystal, gofynnwyd am yr hawl i
ychwanegu’r gweithgareddau trywddedig Dramau, Bocsio / Paffio a Restlo,
a pherfformiadau o ddawns tu mewn yn unig ddydd Llun i ddydd Sul 9:00 y bore
tan hanner nos.
Cadarnhawyd y
byddai pob rhan o’r cynllun amlinelliad ardal drwyddedig yn aros yr un fath, ac
y bydd y gweithgareddau trwyddedig ac oriau sydd ar y drwydded gyfredol yn aros
yr un fath. Gofynnwyd am yr hawl i newid amod ar y drwydded er mwyn gallu
cydymffurfio gyda’r newidiadau i’r cynlluniau amlinellol. Nid oedd yr ymgeisydd
yn cynnig unrhyw amodau ychwanegol i’r hyn sydd ar atodlen weithredol y
drwydded gyfredol, er mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu. Nid oedd unrhyw newid
i’r oriau gweithgareddau trwyddedig, nac i’r amodau yn yr atodlen weithredol.
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol.
Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod
gwrthwynebiadau i’r cais wedi eu derbyn gan amryw o breswylwyr cyfagos, y
Cyngor Cymuned a’r Aelod Lleol oedd yn cyfeirio at bryderon mewn perthynas ar
Amcanion Trwyddedu o Niwsans Cyhoeddus (parhad a chynnydd mewn aflonyddwch swn yn bennaf) a Diogelwch y Cyhoedd. Amlygwyd bod Adran
Gwarchod y Cyhoedd wedi cadarnhau bod cwynion wedi eu derbyn. Nid oedd gan
Heddlu Gogledd Cymru wrthwynebiad i’r cais
Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell gwrthod y cais ar
sail y dystiolaeth a gyflwynwyd; oni all yr ymgeisydd gynnig mesurau rheoli
sŵn yn yr atodlen weithredol, a chyfyngu gweigareddau
adloniant rheoledig trwyddedig tu mewn yn unig.
Ers dyddiad
cyhoeddi’r adroddiad, cynigiwyd amodau arfaethedig gan yr ymgeisydd ynghyd ag
astudiaeth achos Taylor v Manchester City Council yn dangos dymuniad y cyfreithwyr ar ran yr
ymgeisydd i wneud y pwynt mai ystyried y materion sydd yn destun amrywiad a
ddylai’r Awdurdod Trwyddedu fod yn ei wneud yn hytrach nag amodau / a
gweithgareddau trwyddedig sydd eisoes ar y drwydded. Roedd yr amodau
arfaethedig yn cynnig;
·
Byddai bocsio
a reslo fel gweithgareddau trwyddedig yn cael eu
dileu o'r cais.
·
Bod cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi'i recordio i'w chwarae
dan do yn unig.
· Na fydd unrhyw wastraff neu ddeunyddiau ailgylchadwy, gan gynnwys poteli, yn cael eu symud neu eu gosod mewn unrhyw ardal allanol rhwng 23:00 a 08:00 y diwrnod canlynol. [I ddisodli’r amod presennol o dan ‘Niwsans Cyhoeddus ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4