Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 26/05/2023 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Canolog (eitem 4)

4 CAIS AMRYWIO TRWYDDED EIDDO - PARC GWYLIAU BRYNTEG, LLANRUG, GWYNEDD, LL55 4RF pdf eicon PDF 374 KB

PARC GWYLIAU BRYNTEG, LLANRUG, GWYNEDD, LL55 4RF

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

CANIATAU y cais yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

·         Bod bocsio a reslo fel gweithgareddau trwyddedig i'w dileu o'r cais.

·         Bod cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi'i recordio i'w chwarae dan do yn unig.

·         Ni fydd unrhyw wastraff neu ddeunyddiau ailgylchadwy, gan gynnwys poteli, yn cael eu symud neu eu gosod mewn unrhyw ardal allanol rhwng 23:00 a 08:00 y diwrnod canlynol. [I ddisodli’r amod presennol o dan ‘Niwsans Cyhoeddus’]

·         Bydd yr holl ffenestri a drysau (gan gynnwys drysau deublyg) yn cael eu cadw ar gau ar ôl 23:00 pan fydd Adloniant Rheoledig yn digwydd, ac eithrio mynediad ac allanfa uniongyrchol pobl.

·         Bydd rhif ffôn ar gael yn ystod y ddarpariaeth Adloniant Rheoledig i'r bobl hynny sydd wedi cyflwyno sylwadau yn erbyn amrywio'r Drwydded Eiddo.

 

Nodyn:

Cynllun llawr wedi'i ddiweddaru o ardal gweithgareddau trwyddedu awyr agored i'w gyflwyno

 

Cofnod:

Eraill a wahoddwyd:

 

Elizabeth Williams (Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru)

Mr Jonathan Smith (Cynrychiolydd Park Holidays UK)

Mr John Flack (Pennaeth Adloniant Park Holidays UK)

Mr Gavin Cox (Rheolwr Cyffredinol Bryn Teg)

Cynghorydd Berwyn Parry Jones (Aelod Lleol)

Fiona Zinovieff (Preswylydd Lleol)

Ffion Muscroft (Swyddog Gwarchod y Cyhoedd)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywiad trwydded eiddo gan gwmni Park Holidays Ltd mewn perthynas a cheiso’r hawl i wneud newidiadau i gynllun lleoliad ardal drwyddedig Bar y Lolfa a’r ardal fwyta. Yn ogystal, gofynnwyd am yr hawl i ychwanegu’r gweithgareddau trywddedig Dramau, Bocsio / Paffio a Restlo, a pherfformiadau o ddawns tu mewn yn unig ddydd Llun i ddydd Sul 9:00 y bore tan hanner nos.

 

Cadarnhawyd y byddai pob rhan o’r cynllun amlinelliad ardal drwyddedig yn aros yr un fath, ac y bydd y gweithgareddau trwyddedig ac oriau sydd ar y drwydded gyfredol yn aros yr un fath. Gofynnwyd am yr hawl i newid amod ar y drwydded er mwyn gallu cydymffurfio gyda’r newidiadau i’r cynlluniau amlinellol. Nid oedd yr ymgeisydd yn cynnig unrhyw amodau ychwanegol i’r hyn sydd ar atodlen weithredol y drwydded gyfredol, er mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu. Nid oedd unrhyw newid i’r oriau gweithgareddau trwyddedig, nac i’r amodau yn yr atodlen weithredol.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod gwrthwynebiadau i’r cais wedi eu derbyn gan amryw o breswylwyr cyfagos, y Cyngor Cymuned a’r Aelod Lleol oedd yn cyfeirio at bryderon mewn perthynas ar Amcanion Trwyddedu o Niwsans Cyhoeddus (parhad a chynnydd mewn aflonyddwch swn yn bennaf) a Diogelwch y Cyhoedd. Amlygwyd bod Adran Gwarchod y Cyhoedd wedi cadarnhau bod cwynion wedi eu derbyn. Nid oedd gan Heddlu Gogledd Cymru wrthwynebiad i’r cais

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell gwrthod y cais ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd; oni all yr ymgeisydd gynnig mesurau rheoli sŵn yn yr atodlen weithredol, a chyfyngu gweigareddau adloniant rheoledig trwyddedig tu mewn yn unig.

 

Ers dyddiad cyhoeddi’r adroddiad, cynigiwyd amodau arfaethedig gan yr ymgeisydd ynghyd ag astudiaeth achos Taylor v Manchester City Council yn dangos dymuniad y cyfreithwyr ar ran yr ymgeisydd i wneud y pwynt mai ystyried y materion sydd yn destun amrywiad a ddylai’r Awdurdod Trwyddedu fod yn ei wneud yn hytrach nag amodau / a gweithgareddau trwyddedig sydd eisoes ar y drwydded. Roedd yr amodau arfaethedig yn cynnig;

·         Byddai bocsio a reslo fel gweithgareddau trwyddedig yn cael eu dileu o'r cais.

·         Bod cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi'i recordio i'w chwarae dan do yn unig.

·         Na fydd unrhyw wastraff neu ddeunyddiau ailgylchadwy, gan gynnwys poteli, yn cael eu symud neu eu gosod mewn unrhyw ardal allanol rhwng 23:00 a 08:00 y diwrnod canlynol. [I ddisodli’r amod presennol o dan ‘Niwsans Cyhoeddus  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4