Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1.
Cymeradwywyd Papur Cyfiawnhau Cyflwyno
Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Atodiad 1.
2.
Cymeradwywyd gwneud Cyfarwyddyd Erthygl 4 sydd
ddim yn dod i rym yn uniongyrchol ond wedi 12 mis (Atodiad 2) ar gyfer Ardal
Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd er mwyn diddymu’r hawliau datblygu a ganiateir
ar gyfer y defnyddiau canlynol:
a.
Newid defnydd o C3 (prif gartref) i C5 (ail
gartel) neu C6 (llety gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol;
b.
Newid defnydd o C5 (ail gartref) i C6 (llety
gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol;
c.
Newid defnydd o C6 (llety gwyliau tymor byr) i
C5 (ail gartref) a defnyddiau cymysg penodol.
3.
Cytunwyd bydd rhybudd o’r Cyfarwyddyd Erthygl 4
ar y ffurf yn Atodiad 3 i’w gyhoeddi a chyflwyno yn unol a’r gofynion (gan
dderbyn nad yw yn ymarferol i gyflwyno yn unigol i bob perchennog a meddiannwr
o fewn yr ardal oherwydd ei maint) am gyfnod o ddim llai na chwe wythnos er
caniatáu i’r cyhoedd gyflwyno ymatebion i’r bwriad.
4.
Cytunwyd i dderbyn adroddiad pellach i ystyried
unrhyw ymatebion a dderbyniwyd (yn dilyn y cyfnod ymgysylltu) er mwyn gwneud y
penderfyniad i gadarnhau y Cyfarwyddyd Erthygl 4.
5.
Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd
mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i wneud addasiadau
golygyddol i’r rhybudd cyn ei gyhoeddi.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd
Meurig.
PENDERFYNIAD
1.
Cymeradwywyd Papur Cyfiawnhau Cyflwyno
Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Atodiad 1.
2.
Cymeradwywyd gwneud Cyfarwyddyd Erthygl 4 sydd
ddim yn dod i rym yn uniongyrchol ond wedi 12 mis (Atodiad 2) ar gyfer Ardal
Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd er mwyn diddymu’r hawliau datblygu a ganiateir
ar gyfer y defnyddiau canlynol:
a.
Newid defnydd o C3 (prif gartref) i C5 (ail
gartel) neu C6 (llety gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol;
b.
Newid defnydd o C5 (ail gartref) i C6 (llety gwyliau
tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol;
c.
Newid defnydd o C6 (llety gwyliau tymor byr) i
C5 (ail gartref) a defnyddiau cymysg penodol.
3.
Cytunwyd bydd rhybudd o’r
Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar y ffurf yn Atodiad 3 i’w gyhoeddi a chyflwyno yn unol
â’r gofynion (gan dderbyn nad yw yn ymarferol i gyflwyno yn unigol i bob
perchennog a meddiannwr o fewn yr ardal oherwydd ei maint) am gyfnod o ddim
llai na chwe wythnos er caniatáu i’r cyhoedd gyflwyno ymatebion i’r bwriad.
4.
Cytunwyd i dderbyn adroddiad pellach i ystyried
unrhyw ymatebion a dderbyniwyd (yn dilyn y cyfnod ymgysylltu) er mwyn gwneud y
penderfyniad i gadarnhau y Cyfarwyddyd Erthygl 4.
5.
Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd
mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i wneud addasiadau
golygyddol i’r rhybudd cyn ei gyhoeddi.
TRAFODAETH
Adroddwyd nad oedd modd, yn hanesyddol, i reoli os oedd cartref yn cael ei
drosi i’w ddefnyddio fel ail gartref neu llety gwyliau hunangynhaliol. Eglurwyd
bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dosbarthiadau defnydd newydd (C5 – ail
gartref ac C6 – llety gwyliau tymor byr), ond nid oes gofyniad presennol am
ganiatâd cynllunio cyn newid dosbarth defnydd ar gartref.
Eglurwyd byddai cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn galluogi Awdurdod
Cynllunio Lleol Gwynedd i osod gofyniad am ganiatâd cynllunio cyn i berchnogion
allu diwygio ddosbarth defnydd eu cartref. Pwysleisiwyd nad oes gofyniad am
ganiatâd cynllunio os yw’r perchennog yn bwriadu diwygio dosbarth defnydd eu
cartref o C5 neu C6 yn ôl i brif gartref (dosbarth defnydd C3), oni bai fod
cais gwreiddiol wedi cael ei gyflwyno i’r Awdurdod ar gyfer defnydd C5 neu C6
yn flaenorol.
Pwysleisiwyd mai prif fwriad y Cyngor wrth gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4
ond i gael rheolaeth dros newid dosbarthiadau defnydd, nid i atal datblygiadau
rhag mynd yn eu blaen.
Darparwyd trosolwg o Bapur Cyfiawnhau Cyflwyno Cyfarwyddyd Erthyl 4 gan
nodi’r prif bwyntiau canlynol:
·
Dadansoddwyd y sefyllfa bresennol gan fanylu ar sut
mae’r defnydd o dai gwyliau wedi datblygu dros y bedair mlynedd ddiwethaf.
o
Adroddwyd bod cynnydd yn niferoedd lletyau gwyliau
dros y cyfnod hwn. Nodwyd hefyd bod lleihad yn nifer o dai sy’n talu premiwm
ail gartrefi.
· Cadarnhawyd bod 7509 o dai (12% o’r stoc dai) yn ail gartrefi neu lety gwyliau. Ystyriwyd bod posibilrwydd i’r ffigwr hwn fod yn eithaf ceidwadol oherwydd bod Arolwg Stoc Gwelyau a gwblhawyd gan y Cyngor yn 2019, ar y cyd gyda gwybodaeth gan Croeso Cymru, yn awgrymu bod darpariaeth o lety gwyliau yn unig yn 3700-4500 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7
Awdur: Gareth Jones (Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd)