6 Cais Rhif C23/0148/17/LL Uwchlaw'r Rhos, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7UE PDF 339 KB
Adeiladu tŷ menter
gwledig a gwaith cysylltiol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Arwyn
Herald Roberts
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu yn groes i’r argymhelliad
Amodau:
·
5 mlynedd
·
Unol a’r cynlluniau
·
Mesurau i wella bioamrywiaeth
·
Archwiliad archeolegol
·
Cynllun draenio
·
Gwarchod y llwybr cyhoeddus
·
Tynnu hawliau a ganiateir
·
Amod gweithwyr amaethyddol /
menter gweledig
Cofnod:
Adeiladu tŷ menter wledig a gwaith cysylltiol
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau ychwanegol
a) Amlygodd
Pennaeth Cynorthwyol, Adran
Amgylchedd bod y penderfyniad
wedi ei ohirio
ym Mhwyllgor Cynllunio
22/05/2023 yn unol â’i gyfarwyddyd gan fod risg
sylweddol i’r Cyngor o ran bwriad y Pwyllgor Cynllunio i ganiatáu’r cais
yn groes i argymhelliad swyddogion. Cyfeiriwyd y mater i gyfnod cnoi
cil yn unol
â rheolau sefydlog y Pwyllgor. Pwrpas adrodd yn ôl
i’r Pwyllgor oedd amlygu’r materion
polisi cynllunio, risgiau posib a’r
opsiynau posib i’r Pwyllgor cyn
iddynt ddod i benderfyniad terfynol ar y cais.
Atgoffwyd
yr Aelodau mai cais llawn ydoedd am ganiatâd cynllunio i adeiladu tŷ
menter wledig ar Fferm Uwchlaw’r
Rhos tu allan
i bentref Penygroes ar safle
tu allan i unrhyw ffin
pentref fel y dynodir yn Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl).
Wrth gyflwyno asesiad o’r ystyriaethau Cynllunio amlygwyd, parthed gwarchod cefn gwlad,
bod angen cyfiawnhad arbennig iawn dros
ganiatáu adeiladu tai newydd ac mai dim ond mewn amgylchiadau
arbennig y bydd ceisiadau yn cael
eu caniatáu. Nodwyd bod yr amgylchiadau arbennig hynny yn cael eu cynnwys
yn Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy -
Gorffennaf 2010 (NCT6) ac mai un o’r gofynion oedd yr angen i gyflwyno
gwybodaeth sy’n ymwneud a’r profion swyddogaethol, amser, ariannol ac anheddau
amgen er mwyn profi’r angen a chyfiawnhad am godi tŷ yng nghefn gwlad
agored.
Yng nghyd-destun y
prawf swyddogaethol a’r prawf amser nodwyd bod tri partner i’r busnes gydag un
o’r partneriaid (mab yr ymgeisydd) yn byw ar y fferm yn barhaol, yn gweithio yn
achlysurol ar y fferm ac mewn sefyllfa i oruchwylio gweithgareddau’r fferm dros
oriau anodd. Ategwyd bod yr ymgeisydd yn byw 1.6 milltir o’r safle ac wedi gwneud
hynny ers prynu’r busnes yn 2018 ac mai chwaer yr ymgeisydd oedd yn byw yn yr
ail dŷ ar y safle - ail dŷ o fewn perchnogaeth teulu'r ymgeisydd
fyddai’n cyfiawnhau goruchwyliaeth ddigonol ar y safle. Ni dderbyniwyd unrhyw
wybodaeth yn dangos bwriad i newid y system ffermio a fyddai’n newid y sefyllfa
i olygu presenoldeb parhaol ar y tir. Nid oedd y Cyngor wedi ei argyhoeddi bod
tystiolaeth rymus wedi ei gyflwyno fel cadarnhad penodol fod angen i’r
ymgeisydd fod wrth law yn barhaol ar y fferm o ystyried amgylchiadau'r daliad.
Yng nghyd-destun prawf ariannol, nodwyd bod angen i’r ymgeisydd ddarparu prawf ariannol ar gyfer cyfnod o leiaf 3 mlynedd ynghyd ag asesu maint a chost yr annedd arfaethedig yn gymesur a gallu’r fenter i’w hariannu a’i chynnal heb niweidio hyfywedd parhaus y fenter, a dangos tebygolrwydd rhesymol y byddant yn cynnal enillion i’r llafur a gyflogir am o leiaf y pum mlynedd ddilynol. Yn ogystal, dylai’r ffigyrau ddangos fod y busnes yn gallu ymdopi a thalu cyflog i’r gweithwyr (1.5 yn yr achos yma) a bod enillion ar ôl i gynnal y busnes ac i adeiladu’r tŷ. Er bod cyfrifon wedi eu cyflwyno yn dangos elw a’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6