Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 19/06/2023 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 6)

6 Cais Rhif C23/0148/17/LL Uwchlaw'r Rhos, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7UE pdf eicon PDF 339 KB

Adeiladu tŷ menter gwledig a gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Arwyn Herald Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu yn groes i’r argymhelliad

 

Amodau:

·         5  mlynedd

·         Unol a’r cynlluniau

·         Mesurau i wella bioamrywiaeth

·         Archwiliad archeolegol

·         Cynllun draenio

·         Gwarchod y llwybr cyhoeddus

·         Tynnu hawliau a ganiateir

·         Amod gweithwyr amaethyddol / menter gweledig

 

Cofnod:

 

Adeiladu menter wledig a gwaith cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau ychwanegol

 

a)    Amlygodd Pennaeth Cynorthwyol, Adran Amgylchedd bod y penderfyniad wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio 22/05/2023 yn unol â’i gyfarwyddyd gan fod risg sylweddol i’r Cyngor o ran bwriad y Pwyllgor Cynllunio i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad swyddogion. Cyfeiriwyd y mater i gyfnod cnoi cil yn unol â rheolau sefydlog y Pwyllgor. Pwrpas adrodd yn ôl i’r Pwyllgor oedd amlygu’r materion polisi cynllunio, risgiau posib a’r opsiynau posib i’r Pwyllgor cyn iddynt ddod i benderfyniad terfynol ar y cais.

 

Atgoffwyd yr Aelodau mai cais llawn ydoedd am ganiatâd cynllunio i adeiladu menter wledig ar Fferm Uwchlaw’r Rhos tu allan i bentref Penygroes ar safle tu allan i unrhyw ffin pentref fel y dynodir yn Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl).

 

Wrth gyflwyno asesiad o’r ystyriaethau Cynllunio amlygwyd, parthed gwarchod cefn gwlad, bod angen cyfiawnhad arbennig iawn dros ganiatáu adeiladu tai newydd ac mai dim ond mewn amgylchiadau arbennig y bydd ceisiadau yn cael eu caniatáu. Nodwyd bod yr amgylchiadau arbennig hynny yn cael eu cynnwys yn Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy - Gorffennaf 2010 (NCT6) ac mai un o’r gofynion oedd yr angen i gyflwyno gwybodaeth sy’n ymwneud a’r profion swyddogaethol, amser, ariannol ac anheddau amgen er mwyn profi’r angen a chyfiawnhad am godi tŷ yng nghefn gwlad agored.

 

Yng nghyd-destun y prawf swyddogaethol a’r prawf amser nodwyd bod tri partner i’r busnes gydag un o’r partneriaid (mab yr ymgeisydd) yn byw ar y fferm yn barhaol, yn gweithio yn achlysurol ar y fferm ac mewn sefyllfa i oruchwylio gweithgareddau’r fferm dros oriau anodd. Ategwyd bod yr ymgeisydd yn byw 1.6 milltir o’r safle ac wedi gwneud hynny ers prynu’r busnes yn 2018 ac mai chwaer yr ymgeisydd oedd yn byw yn yr ail dŷ ar y safle - ail dŷ o fewn perchnogaeth teulu'r ymgeisydd fyddai’n cyfiawnhau goruchwyliaeth ddigonol ar y safle. Ni dderbyniwyd unrhyw wybodaeth yn dangos bwriad i newid y system ffermio a fyddai’n newid y sefyllfa i olygu presenoldeb parhaol ar y tir. Nid oedd y Cyngor wedi ei argyhoeddi bod tystiolaeth rymus wedi ei gyflwyno fel cadarnhad penodol fod angen i’r ymgeisydd fod wrth law yn barhaol ar y fferm o ystyried amgylchiadau'r daliad.

 

Yng nghyd-destun prawf ariannol, nodwyd bod angen i’r ymgeisydd ddarparu prawf ariannol ar gyfer cyfnod o leiaf 3 mlynedd ynghyd ag asesu maint a chost yr annedd arfaethedig yn gymesur a gallu’r fenter i’w hariannu a’i chynnal heb niweidio hyfywedd parhaus y fenter, a dangos tebygolrwydd rhesymol y byddant yn cynnal enillion i’r llafur a gyflogir am o leiaf y pum mlynedd ddilynol. Yn ogystal, dylai’r ffigyrau ddangos fod y busnes yn gallu ymdopi a thalu cyflog i’r gweithwyr (1.5 yn yr achos yma) a bod enillion ar ôl i gynnal y busnes ac i adeiladu’r tŷ. Er bod cyfrifon wedi eu cyflwyno yn dangos elw a’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6