8 DATGANIAD O GYFRIFON 2022/23 (Amodol ar Archwiliad) PDF 108 KB
I dderbyn
a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2022/23.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Cymerodd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyfle
i ddiolch i staff yr Adran Cyllid am eu hymroddiad
i sicrhau bod Datganiad Cyfrifon (drafft) y Cyngor wedi eu cyflwyno i
Archwilio Cymru ers diwedd Mehefin a hynny mewn cyfnod
byr iawn. Rhoddodd ddiweddariad i’r aelodau ar
eu cyfrifoldebau a diolchwyd iddynt am y cydweithio da.
Eglurodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol
- Cyfrifeg a Phensiynau mai arferol fyddai cyflwyno’r
cyfrifon cyn yr haf, ond gan nad oedd cyfarfod o’r Pwyllgor ym Mehefin, dyma’r
cyfle cyntaf i’w cyflwyno. Ategwyd bod estyniad eto eleni yn yr amserlen
statudol ar gyfer archwilio’r cyfrifon, gyda’r bwriad o gwblhau’r archwiliad a
chymeradwyo’r cyfrifon gan y Pwyllgor yma yn Rhagfyr.
Atgoffwyd yr Aelodau bod sefyllfa ariannol diwedd
flwyddyn ar gyfer 2022/23, wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar y 25ain o Fai ar
ffurf alldro syml, ond bod y Datganiad o’r Cyfrifon,
sydd i bwrpas allanol a llywodraethu, yn gorfod cael ei
gwblhau ar ffurf safonol CIPFA. Ymddengys bellach
yn ddogfen hirfaith a thechnegol gymhleth.
Adroddwyd ar gynnwys yr adroddiad gan egluro
bod chwe set o gyfrifon ar gyfer 2022/23, yn cael eu
cwblhau
1. Cyngor
Gwynedd
2. Cronfa
Bensiwn Gwynedd
3. GwE (cydbwyllgor sylweddol ei faint ac felly Datganiadau
Llawn wedi eu paratoi)
4. Bwrdd
Uchelgais Gogledd Cymru (cydbwyllgor o sylweddol ei faint ac felly Datganiadau
Llawn wedi eu paratoi)
5. Harbyrau Gwynedd a
6. Pwyllgor
Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn (cyflwynwyd i gyfarfod 25 Mai 2023 y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio).
Cyfeiriwyd at yr Adroddiad Naratif oedd yn rhoi
gwybodaeth am y Cyfrifon ac am weledigaeth a blaenoriaethau Gwynedd, y
Strategaeth Ariannol a’r mesuryddion perfformiad ariannol. Arweiniwyd yr
Aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar rai o’r elfennau:
·
Crynodeb o wariant cyfalaf. Bu gwariant o £37 miliwn yn ystod y flwyddyn
i gymharu gyda £37 miliwn hefyd yn y flwyddyn
flaenorol.
·
Bod y prif ddatganiadau ariannol yn cynnwys
Datganiad Incwm a Gwariant, Mantolen, Llif arian ayyb
·
Datganiad Symudiad
mewn Reserfau sydd yn ddatganiad
pwysig ac yn crynhoi sefyllfa ariannol y Cyngor. Amlygwyd bod balansau cyffredinol y Cyngor yn £7.9 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2023, sef yr un lefel â Mawrth 2022.
Bod Reserfau yn amlygu lleihad yn y cronfeydd £106 miliwn ar ddiwedd
Mawrth 2022 o gymharu â £104 miliwn erbyn diwedd
Mawrth 2023.
·
Balansau Ysgolion
lle gwelir lleihad £4.8m ym malansau ysgolion - £17 miliwn ar ddiwedd
Mawrth 2022 i gymharu â £12
miliwn erbyn diwedd Mawrth 2023.
· Bod dipyn o symudiad wedi bod yn sefyllfa’r fantolen erbyn Mawrth 2023 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol oherwydd Ymrwymiad Pensiwn. Eglurwyd nad oedd y mater yn unigryw i Wynedd ond yn hytrach yn ddarlun cyffredinol oherwydd amodau’r farchnad. Ar 31 Mawrth 2023, roedd gan y Cyngor ymrwymiad pensiwn o £242 miliwn, ond ar 31 Mawrth 2023, roedd gwerth yr asedau yn fwy na gwerth yr ymrwymiadau gyda sefyllfa ased net o £136 miliwn. Y rheswm am hyn yw bod prisiad yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8