Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 07/09/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 8)

8 DATGANIAD O GYFRIFON 2022/23 (Amodol ar Archwiliad) pdf eicon PDF 108 KB

I dderbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2022/23.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn y Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2022/23.

 

Cofnod:

Cymerodd  yr Aelod Cabinet Cyllid y cyfle i ddiolch i staff yr Adran Cyllid am eu hymroddiad i sicrhau bod Datganiad Cyfrifon (drafft) y Cyngor wedi eu cyflwyno i Archwilio Cymru ers diwedd Mehefin a hynny mewn cyfnod byr iawn. Rhoddodd ddiweddariad i’r aelodau ar eu cyfrifoldebau a diolchwyd iddynt am y cydweithio da.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau mai arferol fyddai cyflwyno’r cyfrifon cyn yr haf, ond gan nad oedd cyfarfod o’r Pwyllgor ym Mehefin, dyma’r cyfle cyntaf i’w cyflwyno. Ategwyd bod estyniad eto eleni yn yr amserlen statudol ar gyfer archwilio’r cyfrifon, gyda’r bwriad o gwblhau’r archwiliad a chymeradwyo’r cyfrifon gan y Pwyllgor yma yn Rhagfyr.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod sefyllfa ariannol diwedd flwyddyn ar gyfer 2022/23, wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar y 25ain o Fai ar ffurf alldro syml, ond bod y Datganiad o’r Cyfrifon, sydd i bwrpas allanol a llywodraethu, yn gorfod cael ei gwblhau ar ffurf safonol CIPFA. Ymddengys bellach yn ddogfen hirfaith a thechnegol gymhleth.

 

Adroddwyd ar gynnwys yr adroddiad gan egluro bod chwe set o gyfrifon ar gyfer 2022/23, yn cael eu cwblhau

1.      Cyngor Gwynedd

2.      Cronfa Bensiwn Gwynedd

3.      GwE (cydbwyllgor sylweddol ei faint ac felly Datganiadau Llawn wedi eu paratoi)

4.      Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru (cydbwyllgor o sylweddol ei faint ac felly Datganiadau Llawn wedi eu paratoi)

5.      Harbyrau Gwynedd a

6.      Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn (cyflwynwyd i gyfarfod 25 Mai 2023 y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio).

Cyfeiriwyd at yr Adroddiad Naratif oedd yn rhoi gwybodaeth am y Cyfrifon ac am weledigaeth a blaenoriaethau Gwynedd, y Strategaeth Ariannol a’r mesuryddion perfformiad ariannol. Arweiniwyd yr Aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar rai o’r elfennau:

·         Crynodeb o wariant cyfalaf. Bu gwariant o £37 miliwn yn ystod y flwyddyn i gymharu gyda £37 miliwn hefyd yn y flwyddyn flaenorol.

·         Bod y prif ddatganiadau ariannol yn cynnwys Datganiad Incwm a Gwariant, Mantolen, Llif arian ayyb

·         Datganiad Symudiad mewn Reserfau sydd yn ddatganiad pwysig ac yn crynhoi sefyllfa ariannol y Cyngor. Amlygwyd bod balansau cyffredinol y Cyngor yn £7.9 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2023, sef yr un lefel â Mawrth 2022. Bod Reserfau yn amlygu lleihad yn y cronfeydd £106 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2022 o gymharu  â £104 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2023.

·         Balansau Ysgolion lle gwelir lleihad £4.8m ym malansau ysgolion - £17 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2022 i gymharu â £12 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2023.

·         Bod dipyn o symudiad wedi bod yn sefyllfa’r fantolen erbyn Mawrth 2023 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol oherwydd Ymrwymiad Pensiwn. Eglurwyd nad oedd  y mater yn unigryw i Wynedd ond yn hytrach yn ddarlun cyffredinol oherwydd amodau’r farchnad. Ar 31 Mawrth 2023, roedd gan y Cyngor ymrwymiad pensiwn o £242 miliwn, ond ar 31 Mawrth 2023, roedd gwerth yr asedau yn fwy na gwerth yr ymrwymiadau gyda sefyllfa ased net o £136 miliwn.  Y rheswm am hyn yw bod prisiad yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8