9 RHEOLAETH TRYSORLYS 2022/23 PDF 320 KB
I ystyried
a nodi’r adroddiad er gwybodaeth
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar
wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor
2022/23, yn erbyn y strategaeth a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn 3ydd Mawrth
2022. Adroddwyd bod y flwyddyn wedi
bod yn flwyddyn brysur a llewyrchus
iawn i weithgaredd
rheolaeth trysorlys y
Cyngor wrth i’r gweithgaredd aros o fewn y cyfyngiadau a osodwyd. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw
fethiant i ad-dalu gan y sefydliadau
roedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda nhw.
Adroddwyd bod £1.8m o log wedi ei
dderbyn ar fuddsoddiadau sydd yn uwch na’r
£0.4m a oedd yn y gyllideb. Nodwyd bod yr incwm llog yn sylweddol
uwch na’r gyllideb oherwydd gosodwyd y gyllideb mewn cyfnod pan roedd y gyfradd sylfaenol yn 0.75%; erbyn Mawrth 2023 roedd yn 4.25%.
Ar y 31 Mawrth
2023 roedd y Cyngor mewn sefyllfa gref iawn
gyda buddsoddiadau net a hynny oherwydd lefel uchel o fuddsoddiadau
a chyfalaf gweithredol. Roedd hyn yn
cynnwys £57 miliwn o arian y Bwrdd Uchelgais a £18 miliwn y Cronfa Bensiwn.
Adroddwyd, yng nghyd-destun buddsoddiadau, bod y Cyngor wedi parhau i fuddsoddi
gyda Banciau a Chymdeithasau Adeiladu, Cronfeydd Marchnad Arian, Cronfeydd wedi’i pwlio, Awdurdodau Lleol a Swyddfa Rheoli Dyledion. Nodwyd bod y cronfeydd wedi’i pwlio yn fuddsoddiadau
tymor canolig/ tymor hir sydd yn dod a lefel
incwm da iawn, a gyda lefelau arian
y Cyngor yn iach, yr Uned Buddsoddi yn edrych ar
fuddsoddiad pellach i’r cronfeydd yma
yn y dyfodol agos.
Yng nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion adroddwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer
CIPFA a strategaeth rheolaeth
trysorlys y Cyngor - hynny yn newyddion da, ac yn dangos bod rheolaeth
gadarn dros yr arian. Cyfeiriwyd at y dangosyddion lle amlygwyd bod pob dangosydd a osodwyd
yn cydymffurfio â’r disgwyl heblaw
un (Datguddiad Cyfraddau llog). Eglurwyd bod y dangosydd yma wedi
ei osod yn
amodau llog isel Mawrth 2022 ac felly’n rhesymol bod y symiau mor wahanol.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â'r angen i ail
osod y dangosydd nad oedd yn cydymffurfio, nodwyd mai Arlingclose
sydd yn awgrymu’r dangosyddion y dylid eu defnyddio. Derbyniwyd y sylw fel un
teg a gan nad yw’r amod llog o 1%
bellach yn berthnasol i’r amgylchiadau presennol, byddai’n amlygu’r sylw
i Arlingclose yn eu cyfarfod nesaf.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â benthyca i Gynghorau eraill, nodwyd bod y Cyngor yn parhau i wneud hyn a hynny i Gynghorau sydd yn ddiogel. Nodwyd bod gan Arlingclose restr o’r Cynghorau hynny na ddylid buddsoddi ynddynt. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â hysbysiad adran 114 a’r tebygolrwydd y byddai hawl gan y cynghorau a fenthycwyd iddynt beidio gorfod talu'r benthyciad yn ôl, nodwyd bod Arlingclose wedi cadarnhau y bydd rhaid i’r Cynghorau hynny dalu'r benthyciad yn ôl sydd yn wahanol i drefniadau buddsoddi gyda chwmni preifat. Ategwyd mai’r sefyllfa waethaf oedd efallai na fyddai’r llog yn cael ei ad-dalu, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9