Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 07/09/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 9)

9 RHEOLAETH TRYSORLYS 2022/23 pdf eicon PDF 320 KB

I ystyried a nodi’r adroddiad er gwybodaeth

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor 2022/23, yn erbyn y strategaeth a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn 3ydd Mawrth 2022. Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn flwyddyn brysur a llewyrchus iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor wrth i’r gweithgaredd aros o fewn y cyfyngiadau a osodwyd. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw fethiant i ad-dalu gan y sefydliadau roedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda nhw.

 

Adroddwyd bod £1.8m o log wedi ei dderbyn ar fuddsoddiadau sydd yn uwch na’r £0.4m a oedd yn y gyllideb. Nodwyd bod yr incwm llog yn sylweddol uwch na’r gyllideb oherwydd gosodwyd y gyllideb mewn cyfnod pan roedd y gyfradd sylfaenol yn 0.75%; erbyn Mawrth 2023 roedd yn 4.25%.

 

Ar y 31 Mawrth 2023 roedd y Cyngor mewn sefyllfa gref iawn gyda buddsoddiadau net a hynny oherwydd lefel uchel o fuddsoddiadau a chyfalaf gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys £57 miliwn o arian y Bwrdd Uchelgais a £18 miliwn y Cronfa Bensiwn. 

 

Adroddwyd, yng nghyd-destun buddsoddiadau, bod y Cyngor wedi parhau i fuddsoddi gyda Banciau a Chymdeithasau Adeiladu, Cronfeydd Marchnad Arian, Cronfeydd wedi’i pwlio, Awdurdodau Lleol a Swyddfa Rheoli Dyledion. Nodwyd bod y cronfeydd wedi’i pwlio yn fuddsoddiadau tymor canolig/ tymor hir sydd yn dod a lefel incwm da iawn, a gyda lefelau arian y Cyngor yn iach, yr Uned Buddsoddi yn edrych ar fuddsoddiad pellach i’r cronfeydd yma yn y dyfodol agos.

 

Yng nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion adroddwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA a strategaeth rheolaeth trysorlys y Cyngor -  hynny yn newyddion da, ac yn dangos bod rheolaeth gadarn dros yr arian. Cyfeiriwyd at y dangosyddion lle amlygwyd bod pob dangosydd a osodwyd yn cydymffurfio â’r disgwyl heblaw un (Datguddiad Cyfraddau llog). Eglurwyd bod y dangosydd yma wedi ei osod yn amodau llog isel Mawrth 2022 ac felly’n rhesymol bod y symiau mor wahanol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â'r angen i ail osod y dangosydd nad oedd yn cydymffurfio, nodwyd mai Arlingclose sydd yn awgrymu’r dangosyddion y dylid eu defnyddio. Derbyniwyd y sylw fel un teg a gan nad yw’r amod llog o 1%  bellach yn berthnasol i’r amgylchiadau presennol, byddai’n amlygu’r sylw i Arlingclose yn eu cyfarfod nesaf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â benthyca i Gynghorau eraill, nodwyd bod y Cyngor yn parhau i wneud hyn a hynny i Gynghorau sydd yn ddiogel. Nodwyd bod gan Arlingclose restr o’r Cynghorau hynny na ddylid buddsoddi ynddynt. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â hysbysiad adran 114 a’r tebygolrwydd y byddai hawl gan y cynghorau a fenthycwyd iddynt beidio gorfod talu'r benthyciad yn ôl, nodwyd bod Arlingclose wedi cadarnhau y bydd rhaid i’r Cynghorau hynny dalu'r benthyciad yn ôl sydd yn wahanol i drefniadau buddsoddi gyda chwmni preifat. Ategwyd mai’r sefyllfa waethaf oedd efallai na fyddai’r llog yn cael ei ad-dalu,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9