7 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2021 - HUNANASESIAD PDF 436 KB
I ystyried cynnwys y ddogfen drafft ar gyfer
2022/23 gan gynnig unrhyw sylwadau ac argymhellion
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Yn unol â gofyn statudol newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021, cyflwynwyd adroddiad gan y Arweinydd y Cyngor, Y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn adrodd ar Berfformiad Blynyddol ac Hunanasesiad y
Cyngor gan edrych yn ôl ar 2022/23. Awgrymodd bod y gofyn statudol yn
ychwanegiad i’r diwydiant ‘geiriau’ ac yn cwestiynu os hynny yn ychwanegu
gwerth. Er hynny rhaid derbyn bod pwysigrwydd mewn cynnal hunanasesiad parhaus,
yr angen am drefn gadarn a chyfle i’r Weithrediaeth
gynnal sgwrs ynghylch bodlonrwydd y gofynion yn ystod y flwyddyn ariannol.
Diolchwyd i’r tîm o brif swyddogion oedd wedi paratoi'r
Hunanasesiad ac i’r Pwyllgor am eu
gwaith o adolygu’r adroddiad gan gynnig sylwadau / argymhellion ar gyfer
newidiadau i’r casgliadau neu’r camau y mae’r Cyngor yn bwriadu eu cymryd.
Amlygwyd yr her o egluro ‘gwaith y Cyngor’; yr her o osod cyllidebau a’r
angen i’r cyhoedd ddeall hyn. Nodwyd hefyd bod nifer o’r gwelliannau oedd wedi
eu hadnabod yn hunanasesiad 21/22 yn parhau yn yr adroddiad oherwydd bod nifer
o’r gwelliannau yn faterion hirdymor ac mai ym mis Rhagfyr y cyhoeddwyd yr
hunanasesiad ar gyfer 2021/22. Bydd trefniadau i adrodd ar gynnydd y
gwelliannau yn ystod y flwyddyn yn cael eu cyflwyno.
Diolchwyd am yr
adroddiad
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y gair ‘addas’ yn ddadleuol yng
nghyd-destun ‘…cael hi’n anodd denu
aelodau lleyg ac aelodau etholedig addas i fod ar
y pwyllgor …’
·
Awgrym i gynnwys eglurhad byr o’r dystiolaeth
cyn y casgliadau - annhebygol fydd rhai yn agor
pob dolen yn yr adroddiad a/neu sicrhau bod y casgliad yn gryno ac effeithiol
fyddai’n crynhoi’r dystiolaeth - haws i’r cyhoedd ei ddeall.
Roedd derbyniad nad oedd hyn
yn ymarferol ar gyfer y fersiwn
hon o’r adroddiad ond cytunwyd i
ystyried hyn ar gyfer y fersiwn
nesaf.
·
Bod angen sicrhau bod y dogfennau / ffynonellau tystiolaeth yn gyfredol (nifer o’r dolennau yn
rai ar gyfer adroddiadau 2021/22 - hyn yn wendid). Nodwyd
fod y ddogfen hon yn cael ei
pharatoi cyn i nifer o ddogfennau/ffynonellau tystiolaeth eraill ar gyfer
y flwyddyn dan sylw gael eu mabwysiadu.
O ganlyniad nid oedd modd cynnwys
dolennau er fod cydweithio rhwng yr awduron pan yn llunio’r adroddiad.
·
Bod trigolion y Sir gyda dealltwriaeth o feysydd gwaith y Cyngor, ond efallai dim o’r cymhlethdodau – cyfrifoldeb yma i egluro
gwaith y Cyngor i drigolion
·
Bod angen codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu gydag etholwyr newydd – plant ysgol
·
Cais i’r gweithgor o swyddogion sydd yn datblygu
fframwaith effeithlon ar gyfer mesur
gwerth am arian o fewn y drefn herio
perfformiad i gyflwyno eu canfyddiadau
i’r Pwyllgor
·
Awgrymwyd y dylai aelodau’r Pwyllgor (ac yn benodol aelodau lleyg) dderbyn hyfforddiant am egwyddorion
Ffordd Gwynedd
·
Bod angen cysondeb o fewn arddull ymateb
yr adrannau – awyddus gwella hyn i’r
dyfodol
·
Angen amlygu
balchder yn yr hyn sydd yn
cael ei wneud
yn dda
Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd sylwadau’r Pwyllgor ar faterion megis ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7