7 ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL A HUNANASESIAD 2022-23 PDF 163 KB
Cyflwyno
adroddiad Arweinydd y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol a
Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2022-23.
Cofnod:
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig
Siencyn, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad
Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad 2022/23.
Diolchodd yr Arweinydd i Reolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes
y Cyngor a’r Tîm am eu
gwaith yn paratoi’r adroddiad. Yna
cyfeiriodd at y sefyllfa gyllidol anodd dros ben sy’n wynebu’r Cyngor, gan
nodi:-
·
Nad oedd yn argoeli’n dda
i setliad cynghorau sir ar draws Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac er bod
Cyngor Gwynedd mewn sefyllfa gyllidol gref, a’n bod wedi ymfalchïo dros y
blynyddoedd yn y ffaith ein bod yn effeithiol yn delio gydag arian y Cyngor, y
byddai’r Cyngor hwn hefyd yn gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn y tro
hwn.
·
Bod mwyafrif arian y
Cyngor yn cael ei wario ar addysg, oedolion a phlant, sef y meysydd hynny sy’n
meithrin dyfodol ein plant ac yn gofalu am y rhai mwyaf bregus yn ein
cymdeithas, a phe dymunid amddiffyn y gwasanaethau hynny, o ble fyddai’r
toriadau pellach yn dod?
Anogwyd pawb o’r aelodau i fynychu un o’r 3
gweithdy arbedion a drefnwyd ym mis Hydref.
Yna cyfeiriodd yr Arweinydd at rai materion
penodol, gan nodi:-
·
Bod y gostyngiad o 4,500
ym mhoblogaeth Gwynedd, gyda 1,400 yn llai o aelwydydd yn y Sir (yn ôl
ffigurau’r Cyfrifiad diwethaf) yn destun pryder iddo gan fod hynny’n cael
effaith uniongyrchol ar ein setliad o £1.6m.
Yn fwy na hynny, roedd yna ystyriaethau economaidd sylweddol iawn o
golli poblogaeth, sy’n rhoi mwy fyth o bwys ar ein gwaith wrth geisio
datblygu’r economi, denu swyddi o safon uchel i’r ardal a denu pobl ifanc yn ôl
i Wynedd.
·
Bod y gyfundrefn addysg
yng Ngwynedd yn arloesol ac yn gosod y safon drwy Gymru gyfan, e.e. y drefn
drochi newydd, ac na chytunai â’r feirniadaeth gyhoeddus sydd wedi bod o drefn
addysg Gwynedd.
·
Bod
Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn un o’r ymyraethau sydd gan y Cyngor yn y maes tai i
geisio cael rheolaeth ar y llif o ail-gartrefi a gosod tymor byr sy’n niweidio
ein cymunedau ac yn cyfrannu at y diboblogi a welir yn y Cyfrifiad. Er hynny, ni chredid y byddai Erthygl 4 yn
cael gymaint o effaith ag y mae pobl yn credu, ac ni chredid chwaith y byddai
mor effeithiol â hynny yn cael rheolaeth ar y maes ail gartrefi. Cydnabyddid bod yna bryder ynglŷn ag
Erthygl 4, a byddai’r Cyngor yn edrych yn ofalus iawn ar y pryderon hynny wrth
ddadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus, gan gymryd cyngor
cyfreithiol ychwanegol, petai angen, er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i’r
cyfeiriad iawn. Byddai’r gwaith o
ddadansoddi canlyniadau’r ymgynghoriad yn digwydd o hyn i ddiwedd y flwyddyn,
gydag adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn gynnar yn
y Flwyddyn Newydd.
·
Bod yna broblem sylweddol
o ran y ddarpariaeth gofal dwys ar draws y sir, a bod y datblygiad ym Mhenrhos
yn o’r cynlluniau arloesol gwych sydd gan y Cyngor, ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd a
Chymdeithas Tai Clwyd Alun, i gyfarch hynny.
· Gan fod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7