Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 11/09/2023 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 7)

7 Cais Rhif C21/1220/42/LL Morlais Lôn Penrallt, Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6EP pdf eicon PDF 478 KB

Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu – amodau

1. Amser

2. Yn unol â chynlluniau

3. Deunyddiau

4. Cynllun Rheoli Adeiladu

5. Materion Bioamrywiaeth

6. Materion yn ymwneud a’r clogwyn

7. Gwarchod y llwybr cyhoeddus

8. Tynnu hawliau PD

8. Withdrawal of PD rights

 

COFNODION:

Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni

            Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 05-09-23

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio fod y cais wedi ei drafod eisoes mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd Gorffennaf 17eg 2023. Penderfynwyd gohirio’r penderfyniad ar y pryd er mwyn cynnal ymweliad safle fel bod modd i’r Aelodau gael cyfle i weld y safle yng nghyd-destun ei leoliad.

 

Nodwyd mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni arfordirol. Yn allanol, byddai’r tŷ newydd yn cynnwys to crib o orffeniad zinc tywyll a gorffeniadau’r waliau allanol yn gyfuniad o fyrddau coed ar y llawr uchaf a charreg naturiol ar y lloriau is. Nodwyd bod y safle a’r adeilad presennol wedi ei leoli wrth droed clogwyn Traeth Nefyn a'r clogwyni wedi eu dynodi fel Ardal Gadwraeth Arbennig (ACA) Clogwyni Pen Llŷn a hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDDGA) Porthdinllaen i Borth Pistyll. Ategwyd bod y safle y tu allan i ffin ddatblygu gyfredol Nefyn gyda mynediad at y safle ar hyd y traeth yn ogystal â llwybr cyhoeddus sydd yn arwain i lawr o ben y clogwyn heibio’r safle ac ymlaen at y traeth islaw.

 

Eglurwyd bod y safle presennol yn cynnwys tŷ sydd yn dyddio’n ôl i ddiwedd yr 1960’au/dechrau’r 1970’au ac o ffurf sydd yn cynnwys toeau gwastad ac yn cyfleu edrychiadau o’r cyfnod. Mae’r safle a’r ardal ehangach oddi mewn dynodiad Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli a  thu allan i barth llifogydd cyfagos sydd yn berthnasol i’r traeth yn unig. Nodwyd bod elfennau o’r cynnig wedi ei diwygio o’i gyflwyniad gwreiddiol o ganlyniad i sylwadau a dderbyniwyd oedd yn cynnwys  gorffeniadau allanol yr adeilad yn dilyn sylw gan yr Uned AHNE (er nad yw’r safle o fewn yr AHNE, ystyriwyd y rhain fel sylwadau cyffredinol).

 

Ategwyd, yn wreiddiol, bod rhan o’r cynnig yn golygu gwyro’r llwybr cyhoeddus presennol sydd yn rhedeg heibio’r safle a’i ail leoli i fod ymhellach o’r adeilad. Yn dilyn trafodaethau ynghyd a derbyn sylwadau ar y cynnig gan Uned Hawliau Tramwy’r Cyngor, Cyngor Tref Nefyn ac aelodau’r cyhoedd, penderfynwyd bod y cynnig yn rhy ddadleuol ac felly'r llwybr yn aros fel y mae. Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan yr Aelod Lleol am y rhesymau ei fod yn orddatblygiad o’r safle, y byddai’n creu ansefydlogrwydd i’r clogwyni ac effaith andwyol ar yr ardal.

Yng nghyd-destun polisïau perthnasol, cyfeiriwyd at ofynion polisi PS 5 sy’n nodi y dylid rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio tir ac isadeiledd yn effeithiol, gan flaenoriaethu ailddefnyddio tir ac adeiladau a ddefnyddiwyd o’r blaen, lle bynnag bo hynny’n bosib. Yn yr achos yma, mae tŷ presennol yn bodoli a’r safle eisoes wedi ei ddatblygu ac felly mae’r bwriad yn bodloni gofynion cyffredinol polisi PS 5 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLI). Ategwyd bod Polisi TAI 13 y CDLI  ...  view the full COFNODION text for item 7