8 Cais Rhif C23/0432/11/LL Helipad, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2PW PDF 433 KB
Cael
gwared ar y pad glanio hofrennydd presennol ac adeiladu dau lanfa newydd i
gefnogi'r yr Ysbyty presennol. Bydd y gwaith yn cynnwys ailraddio'r dirwedd
feddal i gynnwys ffordd fynediad newydd, padiau glanio yn cynnwys yr holl
ddraenio dŵr wyneb, marciau a rhwystrau glanio wedi'u goleuo, ffensys
diogel newydd a llociau i gynnal yr hofrenyddion.
AELODAU
LLEOL: Cynghorydd Menna Baines a’r Cynghorydd Gareth Roberts
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i amodau'n
ymwneud â'r materion canlynol:
Nodiadau
1. Dŵr Cymru
2. Cyfoeth Naturiol Cymru
3. Uned Draenio Tir
Cofnod:
Cael gwared ar y pad glanio hofrennydd
presennol ac adeiladu dwy lanfa newydd i gefnogi'r yr Ysbyty presennol. Bydd y
gwaith yn cynnwys ailraddio'r dirwedd feddal i gynnwys ffordd fynediad newydd,
padiau glanio yn cynnwys yr holl ddraenio dŵr wyneb, marciau a rhwystrau glanio wedi'u goleuo, ffensys diogel newydd a
llociau i gynnal yr hofrenyddion.
a) Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu cyfleuster
glanio newydd ar gyfer hofrenyddion ger Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Byddai’r gwaith yn cynnwys;
·
cael gwared ar y pad
glanio hofrennydd presennol
·
creu dwy lanfa newydd trwy:
o ailraddio'r
dirwedd gan greu dau arglawdd gyda llain wastad siâp cylch y tu cefn iddynt
o gosod lleiniau caled ar gyfer padiau glanio
o gwaith draenio dŵr wyneb
o gosod rhwystrau glanio newydd wedi’u goleuo
o codi ffensys diogelwch
o creu llociau i gynnal yr hofrenyddion
o gwaith peirianyddol cysylltiedig.
Eglurwyd bod y
llain glanio wedi ei leoli oddeutu 150m i’r dwyrain o’r ysbyty, ar lain o dir
llethrog mewn safle dyrchafedig uwchben y ddinas, sydd, yn ôl yr Awdurdod
Hedfan Sifil, yn cynnig llwybrau hedfan da i mewn ac allan o dir yr ysbyty.
Saif yr ysbyty ar gyrion deheuol Canolfan Isranbarthol Bangor ym maes dref
Penrhosgarnedd. Mae’r safle hefyd yn rhannol o fewn parth clustogi Heneb
Gofrestredig Crug Goetre Uchaf.
Yng nghyd-destun
egwyddor y datblygiad, ystyriwyd fod y cynllun ar gyfer gwella gwasanaeth
hanfodol a gynigir ar gyfer cymunedau Gwynedd yn cwrdd gyda meini prawf maen Prawf 1 Polisi ISA 2 y CDLl ac felly bod egwyddor y cais yn dderbyniol.
Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol, nodwyd
y byddai’r
datblygiad hwn mewn lleoliad cuddiedig o’r rhan fwyaf o welfannau cyfagos. Mae
llwybr cyhoeddus Rhif 39 Cymuned Bangor yn rhedeg heibio ffin ogleddol y safle
ond mae gwrych aeddfed rhwng y llwybr hwn a’r safle. Mae'r rhan fwyaf o'r
golygfeydd o’r safle o bell ac yng nghyd-destun y safle datblygedig presennol
a’r ysbyty gerllaw. Wrth ystyried y tirlun lleol a’r coed a gwrychoedd
presennol sy’n amgylchynu’r safle, ni fydd newid arwyddocaol i olwg y safle fel
y’i gwelir o’r tu allan.
Nodwyd bod potensial y bydd sŵn ac ymyrraeth ddeillio o gyfleuster
o’r math yma ond nid yw’n debygol o fod yn arwyddocaol waeth na’r hyn sydd
eisoes yn digwydd. Ni fydd cynnydd arwyddocaol yn nefnydd y safle, ond yn
hytrach defnydd mwy effeithlon gyda’r drafnidiaeth sydd angen defnyddio’r
lleiniau glanio, yn enwedig mewn achos argyfwng pan fydd mwy nag un hofrennydd
angen glanio mewn cyfnod byr o amser.
Amlygwyd bod y
safle oddeutu 200m o’r tai preswyl agosaf ac ni ystyriwyd y bydd niwed
ychwanegol arwyddocaol i fwynderau preswylwyr lleol yn deillio o'r datblygiad
ac felly'r cynnig yn dderbyniol dan ofynion polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 y CDLl
Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, nodwyd bod asesiad ecolegol o’r safle wedi ei gyflwyno oedd yn dod i’r casgliad nad oes diddordeb bioamrywiaeth arbennig i’r safle ei hun er bod y ffiniau o arwyddocâd ar gyfer bywyd gwyllt yn bwysig ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8