Dymchwel yr hen
lyfrgell ac adeiladu tri thŷ fforddiadwy canolradd newydd
AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Caniatáu – amodau :
Nodyn:
Dŵr Cymru
Draeniad cynaliadwy
Cofnod:
Dymchwel yr hen
lyfrgell ac adeiladu tri thŷ fforddiadwy canolradd newydd.
Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 05-09-23
a) Amlygodd yr Uwch
Swyddog Cynllunio fod y cais wedi ei drafod eisoes mewn cyfarfod o’r pwyllgor
cynllunio a gynhaliwyd Gorffennaf 17eg
2023. Penderfynwyd gohirio’r penderfyniad ar y pryd er mwyn cynnal ymweliad
safle fel bod modd i’r Aelodau gael cyfle i weld y safle yng nghyd-destun ei
leoliad.
Adroddwyd
mai cais llawn
ydoedd ar gyfer dymchwel cyn llyfrgell Llanberis a chodi tri annedd fforddiadwy
“canolradd” ( dau dŷ pâr gyda dwy lofft ac un cartref ar wahân gyda thair
llofft) yn ei le. Caewyd y llyfrgell yn 2017 ac mae'r safle, sydd o fewn ardal
breswyl Canolfan Gwasanaeth Lleol Llanberis fel y'i diffinnir yn y CDLl wedi
bod yn segur ers hynny. Gwasanaethir y safle gan Ffordd Capel Coch, sydd hefyd
yn gwasanaethu Ysgol Gynradd Dolbadarn. Cyfeiriwyd at y bont droed dros Afon
Coch sydd tua chefn y safle sy’n cysylltu gyda Stad Glanrafon - dros y
blynyddoedd diwethaf cwblhawyd gwaith lliniaru yn erbyn llifogydd i lannau’r
afon yn sgil llifogydd sylweddol yn 2012.
Cyflwynwyd
y datblygiad gan Cyngor Gwynedd fel rhan o gynllun “Tŷ Gwynedd”. Byddai’r tai yn cael eu cynnig i’w prynu neu
rentu am bris sy’n fforddiadwy i bobl leol.
Tynnwyd sylw at y nifer
o wrthwynebiadau i’r cynllun oherwydd bod problemau parcio eisoes yn bodoli ar
Ffordd Capel Coch sy’n achosi drwg deimlad ymysg trigolion gyda phryder y
byddai creu tri thŷ yn y lleoliad yn gwaethygu’r sefyllfa. Yn ogystal mae
pryderon ynghylch y perygl i ddefnyddwyr y stryd, gan gynnwys plant sy’n
mynychu’r ysgol gyfagos, o’r cynnydd mewn trafnidiaeth.
Er
gwaetha’r pryderon, nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad i'r bwriad
mewn egwyddor er iddynt nodi na fyddent yn gefnogol o greu mannau parcio ar y
stryd. Amlygwyd bod gofod parcio preifat ar gyfer pob eiddo newydd yn y
cynlluniau ac y byddai lle ar gyfer tri char barcio ar y ffordd o flaen y
datblygiad yn parhau i fod mewn lle. Ategwyd
bod y safle, tan yn ddiweddar, wedi bod yn llyfrgell gyhoeddus yn denu
trafnidiaeth ynddo’i hun. O ganlyniad, ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad ynddo’i hun yn gwaethygu’r sefyllfa barcio ar
y stryd o’i gymharu â’r hyn a fyddai’n gallu digwydd dan ddefnydd cyfreithlon
presennol y safle. Yn yr un modd, ni ystyriwyd y byddai’r drafnidiaeth a
achosir gan dri thŷ yn achosi perygl uwch i ddefnyddwyr y stryd na’r hyn a
ddefnyddiwyd yn flaenorol gan y llyfrgell.
Yng
nghyd-destun pryderon llifogydd cyflwynwyd Asesiad Canlyniad Llifogydd (ACLl)
gyda’r cais mewn ymateb i sylwadau cychwynnol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Nodwyd bod canfyddiadau’r Asesiad Canlyniad Llifogydd a’r broses modelu a
ddilynwyd yn cadarnhau y byddai’r datblygiad yn cydymffurfio gyda gofynion y
NCT 15 cyfredol, yn benodol y meini prawf a osodir gan Atodiad 1 y NCT. Yn
ogystal roedd yr ACLl yn cynnig cyfres o
fesurau lliniaru er gwella gwytnwch y datblygiad rhag llifogydd.
O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ar sail ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9