10 Cais Rhif C23/0293/42/LL Arosfa, Edern, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YU PDF 432 KB
Cais llawn i ddymchwel strwythurau presennol a
chodi tŷ newydd gyda gwaith cysylltiol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Morris Jones
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Gohirio er mwyn cynnal ymweliad
safle
Cofnod:
Cais llawn i ddymchwel strwythurau presennol
a chodi tŷ newydd gyda gwaith cysylltiol
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd
yr Arweinydd
Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i
ddymchwel strwythurau presennol ac adeiladu tŷ annedd deulawr newydd
ar wahân gyda gwaith cysylltiol. Bydd balconi allanol i’w gynnwys ar ran o
lawr cyntaf edrychiad de ddwyrain y tŷ sef yr edrychiad fyddai’n edrych i
ffwrdd o unrhyw eiddo cyfagos. Saif y safle oddi fewn i’r ffin ddatblygu ac
oddi fewn Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn a Tirwedd o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Mae’r cais wedi ei ddiwygio ddwywaith
o’i gyflwyniad gwreiddiol mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd ac yn dilyn
trafodaethau gyda swyddogion.
Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor
Cynllunio am benderfyniad ar gais yr aelod lleol oherwydd pryder am faint y
tŷ arfaethedig ynghyd a’i agosatrwydd at dai eraill.
Eglurwyd bod y
safle dan sylw wedi ei ddatblygu yn barod ac felly yn cael ei ystyried fel tir llwyd
ac wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu pentref Edern. Mae’r bwriad felly yn
bodloni gofynion cyffredinol polisïau PS 5, PCYFF 1 a PS17 o Gynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
(CDLI).
Mae gofynion polisi TAI 15 yn nodi fod rhaid sicrhau
lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y cynllun. Yn ddibynnol ar raddfa
datblygiadau, disgwylir cyfraniad tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy yn unol
â throthwy a adnabyddir ar gyfer aneddleoedd y Sir. Yn
achos pentref Edern, sydd wedi ei adnabod fel pentref gwledig/arfordirol/lleol,
y trothwy yw 2 neu fwy o unedau. Gan fod
y bwriad hwn yn cynnig darparu 1 tŷ o’r newydd yn unig nid yw’n cwrdd â’r
trothwy yma ar gyfer ystyried darpariaeth fforddiadwy.
Yng nghyd-destun
mwynderau gweledol nodwyd, yn bresennol bod y safle yn cynnwys siediau
diwydiannol o fath sydd yn eithaf syml eu dyluniad sy’n eistedd yn ddisylw o
fewn y llain. Cydnabuwyd y byddai’r tŷ arfaethedig yn fwy o ran maint na’r
adeiladau presennol ond mewn ymateb i bryderon a amlygwyd, bod yr adeilad wedi
ei ddiwygio o’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. Mae’r tŷ newydd wedi ei
leoli o fewn rhan y safle sydd o fewn y ffin ddatblygu, ac er bod hyn yn golygu
ei fod yn agosach i ffin ogleddol y safle nac y byddai petai wedi ei wthio
ymhellach i mewn i’r safle, ni ystyrir fod ei leoliad o fewn y safle yn
afresymol. Mae uchder crib to’r sied uchaf bresennol yn
3.3m a byddai uchder crib y to arfaethedig yn 5.8m.
Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod y safle wedi ei amgylchynu, i gyfeiriad y de-orllewin, gogledd a'r gogledd-orllewin gan dai annedd gyda thiroedd agored yn ymestyn heibio ffin deheuol/de-ddwyreiniol y safle. Mae elfennau o or-edrych eisoes yn bodoli oherwydd lleoliad yr adeiladau presennol. Mae tyfiant o goed/perthi o fewn yr ardd a gerddi cyfagos sydd yn lleihau rhywfaint ar yr effaith. Credir fod ymgais gwirioneddol wedi ei wneud i leihau’r effaith o’r hyn a gyflwynwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10