Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 11/09/2023 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 10)

10 Cais Rhif C23/0293/42/LL Arosfa, Edern, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YU pdf eicon PDF 432 KB

Cais llawn i ddymchwel strwythurau presennol a chodi tŷ newydd gyda gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Cais llawn i ddymchwel strwythurau presennol a chodi tŷ newydd gyda gwaith cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

a)            Amlygodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i ddymchwel strwythurau presennol ac adeiladu tŷ annedd deulawr newydd ar wahân gyda gwaith cysylltiol. Bydd balconi allanol i’w gynnwys ar ran o lawr cyntaf edrychiad de ddwyrain y tŷ sef yr edrychiad fyddai’n edrych i ffwrdd o unrhyw eiddo cyfagos. Saif y safle oddi fewn i’r ffin ddatblygu ac oddi fewn Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn a Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Mae’r cais wedi ei ddiwygio ddwywaith o’i gyflwyniad gwreiddiol mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd ac yn dilyn trafodaethau gyda swyddogion.

Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor Cynllunio am benderfyniad ar gais yr aelod lleol oherwydd pryder am faint y tŷ arfaethedig ynghyd a’i agosatrwydd at dai eraill.

Eglurwyd bod y safle dan sylw wedi ei ddatblygu yn barod ac felly yn cael ei ystyried fel tir llwyd ac wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu pentref Edern. Mae’r bwriad felly yn bodloni gofynion cyffredinol polisïau PS 5, PCYFF 1 a PS17 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLI).

 

Mae gofynion polisi TAI 15 yn nodi fod rhaid sicrhau lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y cynllun. Yn ddibynnol ar raddfa datblygiadau, disgwylir cyfraniad tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy yn unol â throthwy a adnabyddir ar gyfer aneddleoedd y Sir. Yn achos pentref Edern, sydd wedi ei adnabod fel pentref gwledig/arfordirol/lleol, y trothwy yw 2 neu fwy o unedau.  Gan fod y bwriad hwn yn cynnig darparu 1 tŷ o’r newydd yn unig nid yw’n cwrdd â’r trothwy yma ar gyfer ystyried darpariaeth fforddiadwy.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd, yn bresennol bod y safle yn cynnwys siediau diwydiannol o fath sydd yn eithaf syml eu dyluniad sy’n eistedd yn ddisylw o fewn y llain. Cydnabuwyd y byddai’r tŷ arfaethedig yn fwy o ran maint na’r adeiladau presennol ond mewn ymateb i bryderon a amlygwyd, bod yr adeilad wedi ei ddiwygio o’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. Mae’r tŷ newydd wedi ei leoli o fewn rhan y safle sydd o fewn y ffin ddatblygu, ac er bod hyn yn golygu ei fod yn agosach i ffin ogleddol y safle nac y byddai petai wedi ei wthio ymhellach i mewn i’r safle, ni ystyrir fod ei leoliad o fewn y safle yn afresymol. Mae uchder crib to’r sied uchaf bresennol yn 3.3m a byddai uchder crib y to arfaethedig yn 5.8m.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod y safle wedi ei amgylchynu, i gyfeiriad y de-orllewin, gogledd a'r gogledd-orllewin gan dai annedd gyda thiroedd agored yn ymestyn heibio ffin deheuol/de-ddwyreiniol y safle. Mae elfennau o or-edrych eisoes yn bodoli oherwydd lleoliad yr adeiladau presennol. Mae tyfiant o goed/perthi o fewn yr ardd a gerddi cyfagos sydd yn lleihau rhywfaint ar yr effaith. Credir fod ymgais gwirioneddol wedi ei wneud i leihau’r effaith o’r hyn a gyflwynwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10