Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 30/11/2023 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (eitem 5)

5 CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022/23 pdf eicon PDF 116 KB

Diweddariad ar y cynnydd wnaed wrth weithredu’r Cynllun ers Mawrth 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan argymell:

(i)      Dylid ychwanegu gwybodaeth am ‘Teithio Llesol’ o dan Adran 3 yr Adroddiad: ‘Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016’.

(ii)     Dylid ystyried addasu ffurf arddangos y wybodaeth o dan y teitlau ‘Beth y wnaethom ddweud y byddem yn ei wneud yn 2022/23’ a ‘Be wnaethom ni’ yn Adrannau 5-11 yr Adroddiad er mwyn eglurder i’r darllenydd.

 

2.    Argymell i’r Cabinet y dylid ystyried yr adnodd staff i gyflawni gweledigaeth y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Weithredwr. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur yn un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor, gyda Bwrdd wedi ei sefydlu i’w gefnogi.

Tynnwyd sylw bod y cynllun yn cynnwys dau gam. Manylwyd mai’r cam cyntaf oedd gweithredu prosiectau’r Cyngor er mwyn lleihau’r defnydd o ynni a lleihau allyriadau carbon y Cyngor ac mai’r ail gam fyddai edrych ar yr effaith ehangach ar y sir gan ystyried sut gall y Cyngor helpu cymunedau a sut gellir ymateb fel sir i effaith newid hinsawdd.

 

Eglurwyd bod delio gydag argyfwng hinsawdd a natur yn rhan o waith y Cyngor ers 2005/06 a nodwyd bod llwyddiant mawr i’w gweld erbyn hyn. Manylwyd bod 51% yn llai o allyriadau carbon yn y maes Adeiladau rhwng 2005/06 a 2019 a bod 23% o allyriadau carbon yn y maes Fflyd o fewn yr un cyfnod. Adroddwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i leihau allyriadau carbon y Cyngor 43% o fewn y cyfnod hwn.

 

Nodwyd bod y Cyngor yn gweld buddion ariannol wrth daclo argyfwng hinsawdd a natur, gan arbed £15miliwn ers 2010. Pwysleisiwyd y golygai hyn y buasai angen gwneud mwy o doriadau yn sgil sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor os na fuasai’r gwaith ar yr argyfwng newid hinsawdd a natur wedi cael ei gyflawni. Cydnabuwyd bod ystyriaethau newydd i’w hystyried erbyn hyn megis heriau maes caffael yn ogystal â’r ffaith bod mwy o weithlu’r cyngor yn gweithio o adref.

 

Mynegwyd pryder am y dull o gyfrifo allyriadau carbon yn deillio o gaffael yn genedlaethol. Esboniwyd bod prynu nwyddau lleol yn cael ei gyfrifo yn yr un modd a phrynu nwyddau o’r cyfandir, er bod gwahaniaethau mawr yn y gwir allyriadau carbon. Nodwyd bod modd i hyn effeithio ar economi leol mewn ardaloedd gan nad oes anogaeth i brynu’n lleol. Eglurwyd bod y drefn wedi ei mireinio dros y ddwy flynedd diwethaf gan arwain at ostyngiad yn allyriadau carbon y Cyngor. Nodwyd y trosglwyddir neges gyson i Lywodraeth Cymru nad yw’r dull cyfrifo yn y maes caffael yn adlewyrchu’r gwir sefyllfa. Pryderwyd na fydd modd cyrraedd targedau o fod yn garbon niwtral erbyn 2030 os na fydd y dull cyfrifo hwn yn cael ei ddiwygio.

 

Cadarnhawyd bod y Cyngor yn barod i edrych ar gam dau'r Cynllun, sef i edrych ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Soniwyd mai cam cyntaf y cynllun oedd lleihau’r allyriadau carbon, ac felly rhaid sicrhau trefniadau hir dymor er mwyn i’r ffigyrau allyriadau hyn aros yn isel. Eglurwyd bod y datblygiadau hyn yn cael eu gweithredu o fewn y prif themâu canlynol:

 

·       Adeiladau ac ynni

·       Symud a thrafnidiaeth

·       Gwastraff

·       Llywodraethu

·       Caffael

·       Defnydd tir

·       Ecoleg

 

Manylwyd ar rhai o’r themâu gan roi enghreifftiau o brosiectau cysylltiedig. Cyfeiriwyd at brosiect paneli solar o fewn y maes adeiladau ac ynni gan nodi bod hyn yn faes mae’r Cyngor wedi buddsoddi ynddo eisoes a bod £500k o arbedion wedi eu creu yn sgil y prosiect. Nodwyd bod £2.8miliwn pellach  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5