Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 30/11/2023 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (eitem 6)

6 STRATEGAETH LLIFOGYDD LLEOL pdf eicon PDF 125 KB

Mae’n ofynnol i’r Cyngor lunio Strategaeth Llifogydd Lleol erbyn Hydref 2023. Mae’r gwaith wedi ei ddyrannu fel risgiau llifogydd mewndirol ac arfordirol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan argymell:

(i)             dylid cynnwys gwybodaeth am y risg o ran ffyrdd yn llifogi yn ogystal a’r risg i eiddo yn y Strategaeth Llifogydd Lleol;

(ii)            dylid codi ymwybyddiaeth holl drigolion o sut i baratoi ar gyfer llifogydd.

2.    Bod y Pwyllgor yn craffu’r Strategaeth Llifogydd Lleol yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2024.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn un o ofynion y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2021 a bod rhaid iddo fod yn gyson â’r Strategaeth Genedlaethol a gyhoeddwyd y llynedd. Adroddwyd ar yr angen i ddiwygio’r Strategaeth er mwyn iddo gyd-fynd â gofynion statudol erbyn gwanwyn 2024.

 

Cadarnhawyd mai’r 5 prif Amcan o’r Strategaeth ddiwygiedig hon yw:

1.    Anelu at leihau lefel y perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i drigolion Gwynedd.

2.    Datblygu dealltwriaeth bellach o’r perygl llifogydd i Wynedd ac effeithiau newid hinsawdd.

3.    Parhau i weithio gyda’r holl gyrff perthnasol i sicrhau datblygiad priodo a chynaliadwy yng Ngwynedd.

4.    Codi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd ac erydi arfordirol lleol

5.    Gweithio ar y cyd â’r holl Awdurdodau Rheoli Perygl eraill a grwpiau/cyrff perthnasol i sicrhau ymateb cyd-gysylltiedig i ddigwyddiadau llifogydd ac erydu arfordirol.

 

Esboniwyd nad yw’r Strategaeth wedi ei lunio yn ei gyfanrwydd ar hyn o bryd ond bod yr Adroddiad a’r Atodiadau yn dangos y math o wybodaeth bydd y cynllun yn ei gynnwys. Cadarnhawyd bod yr Amcanion wedi cael eu llunio mewn ymateb i heriau sydd i’w gweld yng Ngwynedd. Gwnaed cais i’r Pwyllgor ystyried craffu’r Strategaeth lawn yn dilyn cyfnod o ymgynghori statudol arno.

 

Nododd aelod ei gefnogaeth i ymgynghori gyda chymunedau sydd mewn ardaloedd ble mae risgiau o lifogydd yn uchel ond bod angen cynnwys cymunedau mewn ardaloedd gyda risg llifogydd eilradd yn ogystal. Cydnabuwyd bod angen i holl drigolion fod yn ymwybodol o’r Strategaeth a sut i ymateb pan fydd llifogydd oherwydd bod rhai ardaloedd yn gallu cael eu hynysu wrth i lifogydd gau lonydd, gan arwain at drafferthion i ofal meddygol, mynediad at siopau a nifer o broblemau eraill. Pwysleisiwyd bod gwahoddiad i bawb gymryd rhan yn yr ymgynghoriad statudol er mwyn sicrhau bod gymaint o wybodaeth a phosibl yn bwydo mewn i’r ddogfen derfynol, a bod systemau mewn lle i rannu gwybodaeth a diogelu trigolion Gwynedd.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar y defnydd o derminoleg feddal megis ‘anelu’ o fewn dogfennaeth yr adroddiad, cadarnhawyd bod yr iaith hon wedi cael ei ddefnyddio oherwydd cyfyngiadau ar y Cyngor. Cadarnhawyd bod rhai elfennau o fewn y maes yn gyfrifoldeb ar gyrff y tu hwnt i’r Cyngor, ac o dan reolaeth y Llywodraeth ac felly mae’n anodd gosod geirfa gadarn ar hyn o bryd heb ddeall mwy am ddyheadau’r Llywodraeth.

 

Cydnabuwyd bod pennu cyfrifoldebau ymysg partneriaid wedi bod yn heriol yn y gorffennol ond bod dealltwriaeth wedi ei gyrraedd erbyn hyn wrth i berthynas rhyngddynt ddatblygu. Pwysleisiwyd bydd y strategaeth lawn yn mynd i amlygu cyfrifoldebau'r holl bartneriaid i’r dyfodol. Eglurwyd bod y partneriaid yn mynd tu hwnt i’w cyfrifoldebau mewn sefyllfaoedd argyfyngus.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nodwyd y cynhelir cyfarfodydd cynllunio argyfwng yn rheolaidd a bod bwriad i gynnal ymarferiad er mwyn sicrhau gwytnwch trefniadau i ymateb i ddigwyddiad llifogydd.

 

Holodd aelod o ran trefniadau cyllido gwaith  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6