Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 28/09/2023 - Y Cyngor (eitem 11)

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gruffydd Williams

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Nodwn y bygythiadau cynyddol i ffermwyr a’r byd ffermio gan gyrff anetholedig goruwch-genedlaethol sydd am eu gorfodi oddi ar eu tir.

 

Gwelwyd hyn ar waith yn yr Iseldiroedd, Iwerddon a mannau eraill yn ddiweddar, a bellach mae Llywodraeth Cymru hithau am droi 10% o dir amaethyddol Cymru yn goedwigoedd gan leihau ein cyflenwad bwyd cynhenid eto er bod bron i hanner y boblogaeth yn byw mewn tlodi yma.

 

Yn wyneb hyn oll galwaf ar Gyngor Gwynedd i ymrwymo i gefnogi’r fferm deuluol Gymreig sy’n cyfrannu cymaint at economi Gwynedd ac hefyd yn fodd i gynnal hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigryw y sir a bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail ystyried y penderfyniad i droi 10% o dir amaethyddol yn goedwigoedd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod Cyngor Gwynedd yn ymrwymo i gefnogi’r fferm deuluol Gymreig sy’n cyfrannu cymaint at economi Gwynedd, a hefyd yn fodd i gynnal hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigryw'r sir, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ystyried eu penderfyniad i fynnu bod pob uned amaethyddol yn gorfod neilltuo 10% o’u tiroedd yn goedwigoedd.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Nodwn y bygythiadau cynyddol i ffermwyr a'r byd ffermio gan gyrff anetholedig goruwch-genedlaethol sydd am eu gorfodi oddi ar eu tir.

 

Gwelwyd hyn ar waith yn yr Iseldiroedd, Iwerddon a mannau eraill yn ddiweddar, a bellach mae Llywodraeth Cymru hithau am droi 10% o dir amaethyddol Cymru yn goedwigoedd, gan leihau ein cyflenwad bwyd cynhenid eto er bod bron i hanner y boblogaeth yn byw mewn tlodi yma.

 

Yn wyneb hyn oll galwaf ar Gyngor Gwynedd i ymrwymo i gefnogi'r fferm deuluol Gymreig sy'n cyfrannu cymaint at economi Gwynedd a hefyd yn fodd i gynnal hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigryw'r sir a bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail ailystyried y penderfyniad i droi 10% o dir amaethyddol yn goedwigoedd.”

 

Nododd yr aelod ymhellach y dylid cywiro’r cyfeiriad at ‘organic food supply’ yn y cyfieithiad Saesneg o’i gynnig i ddarllen ‘locally sourced food supply’.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i’r cynnig, sef:-

 

“Bod Cyngor Gwynedd yn ymrwymo i gefnogi’r fferm deuluol Gymreig sy’n cyfrannu cymaint at economi Gwynedd, a hefyd yn fodd i gynnal hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigryw'r sir, a bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ystyried eu penderfyniad i fynnu bod pob uned amaethyddol yn gorfod neilltuo 10% o’u tiroedd yn goedwigoedd.”

 

Nodwyd bod y rhesymau dros y gwelliant fel a ganlyn:-

 

·         Bod dau baragraff cyntaf y cynnig gwreiddiol yn cyfeirio at ryw fath o gynllwyn rhyngwladol gan gyrff goruwch-genedlaethol, ac na chredid eu bod yn berthnasol i’r cynnig o gwbl, ac felly y dylid eu dileu.

·         O ddeall gan yr undebau amaeth bod tua 7.5% o diroedd sy’n cael eu hamaethu ar hyn o bryd yn goedwigoedd, nad oedd cyrraedd 10% yn waith anodd, ond roedd angen bod yn hyblyg o ran y 10% gan nad oedd tiroedd pob fferm yn addas ar gyfer plannu coed.

·         Ei bod yn bwysig plannu’r coed iawn yn y llefydd iawn, a byddai polisi cyffredinol fel hyn yn anodd i ffermwyr ei weithredu.

·         Gan na allai tenant droi tir amaeth yn dir coedwigoedd heb ganiatâd y landlord, gallai hynny fod yn broblem hefyd.

·         Yr awgrymid felly y dylid gofyn i’r Llywodraeth ail-ystyried eu penderfyniad i fynnu bod pob uned amaethyddol yn gorfod neilltuo 10% o’u tiroedd yn goedwigoedd.

 

Trafodwyd y gwelliant.  Mynegwyd cefnogaeth i’r gwelliant gan rai aelodau ar y sail:-

 

·         Bod y 2 baragraff cyntaf yn clymu cynnig, sydd yn ei hanfod yn un eithaf call, i rai o ddamcaniaethau cynllwyn y dde eithafol Inglo-americanaidd, ac felly’n gwanio difrifoldeb gweddill y cynnig yn sylweddol.  Byddai’n wrthyn o beth petai’r Cyngor yn cael ei gysylltu mewn rhyw ffordd gyda’r wleidyddiaeth wenwynig ryngwladol sy’n credu ein bod yn cael ein rheoli gan ryw gyrff annemocrataidd, ac ati.  Roedd camau wedi’u cymryd yn Iwerddon a’r Iseldiroedd, sef 2 wlad sydd ag allbynnau carbon sylweddol iawn yn deillio o amaethyddiaeth, ond nid cyrff annemocrataidd goruwch-wladwriaethol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11