Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
a. Cymeradwywyd yn derfynol y cynnig o dan Adran 43 o’r Ddeddf Safonau a
threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol
Felinwnda ar 31 Rhagfyr 2023, a’r disgyblion
presennol i drosglwyddo i ysgol amgen cyfagos, sef Ysgol Bontnewydd neu Ysgol
Llandwrog, yn unol â dewis rhieni, o 1 Ionawr 2024.
b. Cymeradwywyd trefniadau cludiant ar gyfer y cyfnod trosiannol yn unig, fyddai’n
cynnig cludiant am ddim i’r dysgwyr rheini sydd wedi cofrestru yn Ysgol Felinwnda ar hyn o bryd, ac yn byw yn nalgylch Ysgol Felinwnda, i Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, am
weddill cyfnod y dysgwr yn un o’r ysgolion rheini, yn unol â pholisi cludiant
Cyngor Gwynedd.
c. Caniatawyd cynnal ymgynghoriad ar ddyfodol dalgylch presennol Ysgol Felinwnda er mwyn cytuno pa ysgol, neu ysgolion, fydd yn
gwasanaethu fel ysgol dalgylch i blant dalgylch presennol ysgol Felinwnda i’r dyfodol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown
PENDERFYNIAD
a.
Cymeradwywyd yn derfynol y
cynnig o dan Adran 43 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013,
a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Felinwnda
ar 31 Rhagfyr 2023, a’r disgyblion presennol i drosglwyddo i ysgol amgen
cyfagos, sef Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, yn unol â dewis rhieni, o 1
Ionawr 2024.
b.
Cymeradwywyd trefniadau
cludiant ar gyfer y cyfnod trosiannol yn unig, fyddai’n cynnig cludiant am ddim
i’r dysgwyr rheini sydd wedi cofrestru yn Ysgol Felinwnda
ar hyn o bryd, ac yn byw yn nalgylch Ysgol Felinwnda,
i Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, am weddill cyfnod y dysgwr yn un o’r
ysgolion rheini, yn unol â pholisi cludiant Cyngor Gwynedd.
c.
Caniatawyd cynnal
ymgynghoriad ar ddyfodol dalgylch presennol Ysgol Felinwnda
er mwyn cytuno pa ysgol, neu ysgolion, fydd yn gwasanaethu fel ysgol dalgylch i
blant dalgylch presennol ysgol Felinwnda i’r dyfodol.
TRAFODAETH
Atgoffwyd yr aelodau
mai Ysgol Felinwnda yw’r ysgol leiaf o fewn y sir yn
dilyn CYBLD (Cyfrifiad Ysgolion Blynyddoedd ar Lefel Disgyblion) Ionawr 2023,
gydag 8 disgybl yn unig yn mynychu’r ysgol. Manylwyd bod eitem wedi cael ei
gyflwyno i’r Cabinet ar 11 Gorffennaf 2023 er mwyn derbyn caniatâd i gyhoeddi
rhybudd statudol o’r bwriad i gynnal ymgynghoriad i gau’r ysgol.
Adroddwyd bod cyfnod
gwrthwynebu wedi cael ei gynnal rhwng 5 Medi a 4 Hydref ac bod 4 gwrthwynebiad
i gau’r ysgol wedi dod i law. Sicrhawyd bod y gwrthwynebiadau hyn wedi cael
ystyriaeth.
Nodwyd bod
ymgynghoriadau wedi cael eu cymryd gyda disgyblion a staff yr ysgol. Crynhowyd
mai rhai o’u hystyriaethau oedd eu bod yn tristau, ofn colli ffrindiau, gofidio
am ddyfodol yr adeilad a pheri am y cymorth bydd ar gael iddynt mewn ysgolion
newydd. Er hyn, nodwyd hefyd ei bod yn falch o’r profiadau roedd yr ysgol wedi
eu darparu iddynt a bod ymdeimlad o deulu clos o fewn yr ysgol a bod y
disgyblion yn edrych ymlaen at greu ffrindiau newydd.
Rhoddwyd ystyriaeth
i’r effaith gymunedol o gau’r ysgol. Manylwyd nad ystyrir effaith negyddol ar y
gymuned os byddai’r ysgol yn cau oherwydd nad oes defnydd cymunedol i’r adeilad
tu hwnt i’r defnydd addysgol. Eglurwyd mai dyma’r sefyllfa oherwydd bod y
neuadd gymunedol wedi ei leoli drws nesaf i’r ysgol ac yn cael ei defnyddio’n
rheolaidd. Cydnabuwyd bod y cylch meithrin lleol yn defnyddio’r ganolfan
gymunedol hon ac mae posibilrwydd bydd cau’r ysgol yn effeithio’r cylch. Er
hyn, adroddwyd bod ffigyrau’r plant sy’n mynd i’r cylch yn iach iawn ac nid yw
hynny’n dilyn ymlaen i’r ysgol felly ystyrir na fyddai gormod o effaith ar y cylch
meithrin.
Esboniwyd bod
ystyriaeth benodol wedi cael ei roi ar y ganolfan gymunedol gan sicrhau bod
Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau yn cydweithio gyda’r ganolfan i’r dyfodol yn
ogystal â gwasanaethau Uned Blynyddoedd Cynnar y Cyngor yn rhoi cefnogaeth i’r
cylch meithrin.
Cyfeiriwyd at y posibilrwydd bod niferoedd disgyblion yr ysgol wedi lleihau yn sgil adeiladu ffordd osgoi newydd yn yr ardal yn ddiweddar. Er hyn, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6
Awdur: Gwern ap Rhisiart: Pennaeth Cynorthwyol Addysg