Aelod
Cabinet – Y Cynghorydd Nia Jeffreys
Cyflwyno
adroddiad ar yr uchod.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Croesawyd y
Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Dros Faterion Gweithredol Economi, Rheolwr
Gyfarwyddwr Byw’n Iach a’r Pennaeth Economi a Chymuned i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy
Arweinydd ac Aelod Cabinet Dros Faterion Gweithredol Economi yn gwahodd y
pwyllgor i graffu trefniadau Cyngor Gwynedd a Chwmni Byw’n Iach i ddarparu
gwasanaethau hamdden yng Ngwynedd yn sgil gosod y mater ar Gofrestr Risg
Gorfforaethol Cyngor Gwynedd oherwydd y risg y byddai Cwmni Byw’n Iach yn methu
parhau i ddarparu gwasanaethau yng nghanolfannau hamdden Gwynedd o ganlyniad i
sgil effaith Covid-19 a chynnydd mewn costau byw ar eu hincwm.
Gosododd yr Aelod Cabinet a’r Pennaeth Economi a Chymuned y cyd-destun gan ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad ac
i Dîm Byw’n Iach a chynrychiolwyr y Cyngor ar Fwrdd Byw’n Iach am eu
gwaith. Yna manylodd Rheolwr Gyfarwyddwr
Byw’n Iach ar berfformiad y cwmni yn ystod y flwyddyn.
Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau.
Gofynnwyd i’r swyddogion ymhelaethu ar y
cydweithio rhwng Cwmni Byw’n Iach ac Alliance Leisure
i flaenoriaethu’r cynlluniau i greu ffrydiau incwm ychwanegol. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod
Alliance Leisure yn gwmni arbenigol sy’n cefnogi
awdurdodau lleol a chwmnïau masnachol yn y maes hamdden, a bod y Cyngor wedi
cydweithio â hwy yn y gorffennol hefyd.
·
Bod
prif ffocws y trafodaethau gyda’r cwmni dros y flwyddyn ddiwethaf wedi
canolbwyntio ar Fangor, a hynny’n bennaf oherwydd yr her sy’n wynebu’r ffrydiau
incwm mwy traddodiadol i gyfleusterau Byw’n Iach ym Mangor yn wyneb y
gystadleuaeth o du’r sector preifat, a hefyd y ffaith bod Bangor yn ganolfan
boblogaeth sylweddol iawn.
·
Nad
oedd y cyfleusterau ym Mangor ymhlith y cryfaf, ac roedd yna ddiffyg
darpariaeth ochr sych ar gyfer chwaraeon.
Hefyd, roedd y sefyllfa ym Mangor yn gymhleth oherwydd presenoldeb y Brifysgol
a’u cyfleusterau hwy.
·
Y
dymunai trigolion Bangor weld cynnig ehangach, ond ar hyn o bryd ni ellid
darparu gwasanaethau gwyliau i blant a phobl ifanc ym Mangor oherwydd y diffyg
cyfleusterau sych, ayb.
·
Bod
yna gyfle masnachol ym Mangor oherwydd maint y boblogaeth, a bod y trafodaethau
gydag Alliance Leisure yn edrych ar ddau brosiect
posib’, y naill yn ymwneud â chyfleuster chwarae fel estyniad i’r adeilad
presennol a’r llall yn edrych ar addasu’r cynnig ffitrwydd ym Mangor i beidio
cystadlu benben gyda rhai o’r cystadleuwyr preifat, ond yn hytrach i edrych yn
fwy ar y sector llesiant, gan edrych i gydweithio mwy o fewn y rhaglen cyfeirio
i ymarfer, gweithio gyda phartneriaid iechyd a thargedu pobl hŷn a phobl
sydd â diddordeb mewn ymarfer dwysedd is.
·
Y
cyflwynwyd ceisiadau grant i Lywodraeth Cymru am arian i wireddu’r cynlluniau
hyn ac roedd yna geisiadau Cronfa Loteri ar fin eu cyflwyno hefyd.
Holwyd
sut roedd Cwmni Byw’n Iach yn gweld y risgiau yn y dyfodol, h.y. o ran nifer y
defnyddwyr yn cyrraedd plateau a’r incwm ddim yn cynyddu ymhellach, yr angen i
fuddsoddi mewn offer ffitrwydd rhag colli defnyddwyr, RAAC neu fuddsoddiad
tymor hir yn yr adeiladau. Mewn ymateb,
nodwyd:-
· Bod y plateau yn siwr o ddod gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6